Teyrnged i ferch 14 oed fu farw wedi argyfwng meddygol
- Cyhoeddwyd
Mae teulu merch 14 oed fu farw yn dilyn argyfwng meddygol yn Rhydaman wedi rhoi teyrnged i "ferch a chwaer annwyl".
Bu farw Seren Jenkins o D欧-croes, Rhydaman wedi i'r heddlu gael eu galw i adroddiad o argyfwng meddygol yng nghlwb rygbi'r dref nos Wener ddiwethaf.
Cafodd ei chludo i'r ysbyty ar 么l cael ei tharo'n wael, ond bu farw yn ystod oriau m芒n fore Sadwrn.
Dywedodd ei theulu eu bod yn "anobeithio o golli ein Seren".
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn 么l
"Roedd hi'n ferch, chwaer fach a chwaer fawr annwyl," meddai eu datganiad.
"Fe wnaeth Seren fyw ei bywyd byr i鈥檙 eithaf ac roedd 芒'i bryd ar fod yn artist, roedd hi'n chwaraewr rygbi ac roedd hi'n caru'r cyfryngau cymdeithasol.
"Roedd Seren yn cael ei charu gan bawb oedd yn ei hadnabod ac fe fydd hi'n cael ei chofio hefyd am ei synnwyr digrifwch.
"Hoffem achub ar y cyfle hwn i ddiolch i鈥檙 gwasanaethau brys, a phawb am y rhoddion i'r dudalen codi arian ar gyfer Seren.
"Bydd yr elw yn si诺r o gael ei roi i wahanol wasanaethau asthma, Ambiwlans Awyr Cymru, a chofeb bosib i'w ffrindiau i gofio amdani."