Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dyn, 24, yn euog o lofruddiaeth ar noswyl Nadolig
Mae dyn 24 oed wedi ei gael yn euog o lofruddio ei ffrind gorau ar noswyl Nadolig 2023 yng Nghaerdydd.
Fe wnaeth Dylan Thomas, 诺yr i sylfaenydd cwmni pastai Peter's Pies, Syr Stanley Thomas, drywanu William Bush 37 o weithiau yn eu cartref yn Llandaf.
Bu farw Mr Bush, 23, ar 么l iddo gael ei ddarganfod wedi鈥檌 anafu鈥檔 ddifrifol.
Roedd y ddau wedi bod yn ffrindiau ers es iddyn nhw gyfarfod yng Ngholeg Crist yn Aberhonddu.
Cafwyd Thomas yn euog gan reithgor yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau ar 么l achos llys wythnos o hyd.
Fe wnaeth Thomas gyfaddef dynladdiad ond fe wadodd ei fod wedi llofruddio ei ffrind.
Yn ystod yr achos fe ddaeth i'r amlwg bod Thomas wedi chwilio am fanylion anatomeg y gwddf oriau cyn yr ymosodiad a bod ganddo ddwy gyllell - cyllell cegin fawr a chyllell fflicio.
Wythnosau ynghynt roedd Thomas wedi cael ei arestio am geisio dringo ffens ym Mhalas Buckingham, ac mae鈥檔 cael triniaeth am sgitsoffrenia mewn ysbyty diogel.
Dywedodd yr erlyniad fod Thomas yn gallu rheoli yr hyn oedd yn ei wneud adeg y llofruddiaeth.
Clywodd y llys fod mam-gu Thomas, Sharon Burton, wedi ei yrru i Landaf ar fore'r ymosodiad. Dywedodd ei fod i'w weld yn gynyddol gynhyrfus a'i fod yn anfon sawl neges destun.
Pan barciodd hi y tu allan i'r eiddo, aeth Thomas i mewn, aeth i n么l y cyllyll ac yna i ystafell wely Mr Bush a'i drywanu sawl gwaith.
Dywedodd yr erlyniad fod pobl oedd yn mynd heibio wedi "clywed sgrechiadau arswydus" o'r t欧.
Mewn gwewyr fe darodd Thomas ffenestr car ei fam-gu a daeth hi o hyd i Mr Bush ar y patio y tu allan.
Credu mai ef oedd Iesu
Yn ystod galwad 999 ar 么l yr ymosodiad tra'n gofyn am ambiwlans dywedodd Thomas nad oedd ei ffrind "yn ei lawn bwyll" a'i fod wedi'i drywanu.
Ond dywedodd yr erlyniad wrth yr achos fod yr "ymosodiad wedi'i gynllunio" a bod Thomas wedi "arfogi ei hun yn fwriadol 芒 chyllyll ac wedi ymosod ar Bush o'r tu 么l".
Yn ystod yr achos dywedodd arbenigwr wrth y llys fod Thomas wedi bod yn seicotig am fisoedd cyn yr ymosodiad.
Clywodd y rheithgor hefyd iddo ddweud wrth yr heddlu ar 么l cael ei arestio mai ef oedd Iesu ac fe ddywedodd wrth un plismon y gallai gael "swydd gyda Duw" iddo.
Dywedodd Gregory Bull KC, ar ran yr erlyniad, bod Mr Bush yn boblogaidd ond mai ychydig o ffrindiau oedd gan Thomas a'i fod yn cael ei weld yn berson mwy unig.
Roedd Orlando Pownall KC, ar ran yr amddiffyn, wedi dweud nad oedd unrhyw amheuaeth bod Thomas yn seicotig, a dywedodd fod yr anghydfod ynghylch amserau.
Dywedodd Mr Pownall hefyd fod Thomas wedi bod trwy "lawer o sefyllfaoedd dirdynnol" - roedd ei rieni wedi gwahanu a honiadau o "drais domestig".
Mae'r ddedfryd wedi ei gohirio tan 16 Rhagfyr.