成人快手

Canfod corff dynes sydd wedi bod ar goll ym Mhontypridd

Joanne JonesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Doedd Joanne Jones ddim wedi cael ei gweld ers fore Llun

  • Cyhoeddwyd

Mae menyw 49 oed wedi cael ei chanfod yn farw, bron i wythnos wedi iddi fynd ar goll ym Mhontypridd.

Cafodd Joanne Jones ei gweld ddiwethaf am 09:45 fore Llun yng Ngerddi'r Dyffryn, ac ers hynny mae plismyn a thrigolion lleol wedi bod yn chwilio amdani.

Nos Sadwrn fe gadarnhaodd Heddlu De Cymru eu bod wedi dod o hyd i gorff, a daeth cadarnhad ddydd Sul ei fod wedi'i adnabod yn ffurfiol fel Ms Jones.

Dywedodd yr heddlu nad ydyn nhw'n trin ei marwolaeth fel un amheus.

Mae ei theulu wedi diolch i'r asiantaethau a'r gwirfoddolwyr a fu'n rhan o'r gwaith o chwilio amdani.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd camer芒u cylch cyfyng yn dangos bod Joanne yn gwisgo cot werdd ac esgidiau trymion tra'n cerdded i gyfeiriad Coedwig Llanwynno

Fe ddefnyddiodd yr heddlu wirfoddolwyr achub mynydd, c诺n chwilio arbenigol a dronau i chwilio am Ms Jones.

Yn ogystal cafodd taflenni eu dosbarthu i bobl oedd yn cerdded yn yr ardal.

Bu aelodau o'r gymuned yn chwilio hefyd - gyda nifer yn canolbwyntio ar yr ardal gerllaw Coedwig Llanwynno ar 么l i'r heddlu ddweud eu bod yn credu bod Ms Jones wedi mynd yno.

Roedd camer芒u cylch cyfyng wedi dangos bod Ms Jones yn gwisgo cot werdd ac esgidiau trymion tra'n cerdded ar Ffordd Graig-wen oddeutu 10:05 fore Llun.

Dywedodd y Prif Arolygydd Matt Rowlands: 鈥淩wy鈥檔 deall pa mor ofidus yw'r newyddion yma i deulu a ffrindiau Joanne, ac rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth barhaus gan y gymuned leol dros y dyddiau diwethaf."

Pynciau cysylltiedig