Alys Hedd Jones yw Prif Ddramodydd Eisteddfod yr Urdd Maldwyn
- Cyhoeddwyd
Alys Hedd Jones o Gaerdydd yw enillydd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024.
Mae Alys yn 17 mlwydd oed ac yn astudio Llenyddiaeth, Drama, Cymdeithaseg a Ffrangeg fel Lefelau A yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern.
Y dasg eleni oedd cyfansoddi drama neu fonolog addas i'w pherfformio ar unrhyw gyfrwng, ar gyfer dim mwy na dau actor, heb fod yn hirach na chwarter awr.
Yn 么l y beirniad, Angharad Lee a Sarah Bickerton, daeth nifer o ddram芒u i law, gyda "phob un 芒 photensial, a dewis y tri oedd ar y brig yn dasg anodd iawn."
- Cyhoeddwyd27 Mai
- Cyhoeddwyd28 Mai
- Cyhoeddwyd27 Mai
Mae'r ddrama fuddugol 'Amserlen' yn stori am ddwy ffrind sydd wedi ffraeo, ac am benderfyniad a fyddai'n newid eu bywydau am byth.
Meddai'r beirniaid: "Dyma ddrama agos atoch oedd yn ein annog i barhau i ddarllen o'r cychwyn cyntaf. Mae'r ddeialog yn fachog, gwych gyda chysyniad syml ond theatrig sydd yn llwyddo i ddal y boen a'r dasg amhosib o ollwng gafael ar y gorffennol. Mae'n archwilio rhywbeth mor gymhleth mewn ffordd agos atat ti a llawn calon."
Yn ail yn y gystadleuaeth yr oedd Annell Dyfri o Langynnwr, ac Alaw Jones o Lanbedr Pont Steffan oedd yn drydydd.
Bydd Alys yn treulio amser gyda Chwmni'r Theatr Genedlaethol ac yn derbyn hyfforddiant pellach gyda'r 成人快手.
Derbyniodd Alys fedal arbennig wedi ei chreu gan y gemydd Rhiannon o Dregaron. Rhoddir y Fedal er cof am Meinir Wyn Jones, cyn-drefnydd yr Urdd Maldwyn, gan Menna a'r teulu.
Mae ganddi ddiddordeb mawr mewn theatr a cherddoriaeth ac mae hi'n mwynhau ysgrifennu, actio, canu a chyfansoddi caneuon.
Bydd gwaith Alys yn cael ei gyhoeddi ar ffurf pamffled gan Gyhoeddiadau'r Stamp yn syth ar 么l y seremoni.
Bydd gwaith Annell ac Alaw a'r feirniadaeth lawn ar gael ar wefan yr Urdd cyn diwedd y dydd.