'Colli cyfleon' wedi diflaniad rhaglen Erasmus

Disgrifiad o'r llun, Mae 'na bryder bydd y bwlch rhwng Prydain ac Ewrop 'yn agor' yn sgil Brexit
  • Awdur, Anest Eirug
  • Swydd, 成人快手 Cymru

Roedd rhaglen Erasmus yn cynnig cyfle i ddisgyblion ysgol a myfyrwyr prifysgolion Prydain dreulio cyfnodau mewn gwledydd tramor.

Fe ddaeth hynny i ben yn sgil Brexit a nawr mae yna bryder y bydd y 鈥渂wlch rhyngom ni a gwledydd eraill Ewrop yn agor鈥.

Er bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno rhaglen ddysgu ryngwladol o鈥檙 enw Taith, mae rhai o鈥檙 farn bod angen gwneud mwy i sicrhau cyfleoedd i ddysgu mewn rhannau eraill o鈥檙 byd.

Yn 么l yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru dyw鈥檙 cynllun ddim yn gwneud digon i ateb y galw wedi Brexit.

Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Tan-y-lan ger Abertawe wedi manteisio ar gynllun Taith, gan deithio fel criw i ardal Catania yn yr Eidal yn ddiweddar.

Disgrifiad o'r llun, 鈥淩oedden ni鈥檔 dysgu am beth mae nhw鈥檔 neud yna a tamaid bach or iaith, roedd e鈥檔 opportunity enfawr,鈥 meddai un disgybl

Yn 么l un disgybl a fanteisiodd ar y daith 鈥渞oedd e鈥檔 cyfle rili da鈥.

鈥淩wy鈥 ddim wedi mynd ar yr awyren o鈥檙 blaen neu tramor so odd fi鈥檔 rili nervous a rili cyffrous."

Dywedodd un disgybl arall 鈥渞oedden ni鈥檔 dysgu am beth mae nhw鈥檔 neud yna a tamaid bach or iaith, roedd e鈥檔 opportunity 别苍蹿补飞谤鈥.

Mae鈥檙 ysgol yn un o ardaloedd mwya鈥 difreintiedig Cymru, a鈥檙 pennaeth, Mr Berian Wyn Jones, yn croesawu鈥檙 cyfle am brofiadau addysgol gwerthfawr, ac am ddim, i鈥檙 disgyblion.

Disgrifiad o'r llun, 鈥淏uon ni arfer neud yr hen brosiect Erasmus so yn amlwg ar 么l i ni adael Ewrop rodd 'na fwlch ac o'n i鈥檔 hapus iawn i weld fod Taith yn bodoli," meddai Berian Wyn Jones

Dywedodd: 鈥淪e ni ddim yn mynd 芒鈥檙 plant 'ma dramor, bydde nhw ddim yn mynd, bydde nhw ddim yn cael y cyfleoedd, so ma鈥 mor bwysig bod ni鈥檔 datblygu hwnna a ni鈥檔 ffodus bod Taith 'na.

鈥淏uon ni arfer neud yr hen brosiect Erasmus so yn amlwg ar 么l i ni adael Ewrop rodd 鈥榥a fwlch ac o'n i鈥檔 hapus iawn i weld fod Taith yn bodoli.

鈥淒ylen ni fod yn dathlu Taith mewn ffordd, bod ni鈥檔 gallu fel Cymry dathlu鈥檙 ffaith fod rhywbeth fel hyn gyda ni."

Disgrifiad o'r llun, 鈥淢a鈥檙 cynllun Taith yn gynllun sydd wedi lleddfu rhywfaint ar y bwlch wrth ein bod ni wedi colli鈥檙 cyfle i fod yn rhan o Erasmus," meddai'r Athro Elin Haf Gruffydd Jones

Ond yn 么l yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru dyw鈥檙 cynllun presennol ddim yn ddigonol.

鈥淢a鈥檙 cynllun Taith yn gynllun sydd wedi lleddfu rhywfaint ar y bwlch wrth ein bod ni wedi colli鈥檙 cyfle i fod yn rhan o Erasmus, ond ma鈥 na gyfleoedd o hyd yn codi i ni fod yn rhan o gynlluniau cyffrous Erasmus, ond bod ni ddim yn medru cymryd rhan oherwydd amgylchiadau Brexit.

鈥淵r ofn sydd dros amser yw os nad oes 'na rhywbeth yn cael ei neud i wella鈥檙 sefyllfa yma, y bydd y bwlch rhyngom ni a gwledydd eraill Ewrop yn agor ac y byddwn ni, a鈥檔 pobl ifanc ni yn enwedig, ddim yn cael y cyfleoedd 'ma rhywun o fy nghenedlaeth i wedi eu cael."

Mae鈥檔 gobeithio 鈥渨rth i amser fynd yn ei flaen a falle llywodraeth newydd ar lefel y Deyrnas Gyfunol" y bydd rhywfaint o "ystwytho ar y safbwynt Brexit cadarn, cadarn 'ma ac ein bod ni dros amser yn mynd i fedru dod yn 么l i mewn i rhai o鈥檙 rhaglenni 鈥榤a鈥.

Yn 么l Llywodraeth Lafur Cymru, mae cynllun Taith yn cynnig 鈥減rofiadau gwerthfawr i filoedd o ddisgyblion a staff鈥.

Byddai Plaid Cymru yn 鈥渉offi gweld y Deyrnas Unedig yn parhau i fod yn rhan o Erasmus+鈥.

Ond mae鈥檙 Ceidwadwyr Cymreig yn ffafrio gweld yr arian yn cael 鈥渆i wario ar addysg rheng-flaen yng Nghymru鈥.