Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dros 1,500 o ffyrdd i newid yn 么l i 30mya - ymchwil
- Awdur, Owain Evans
- Swydd, Newyddion 成人快手 Cymru
Fe allai tua 1,500 o rannau o ffyrdd gael eu newid n么l i 30mya fel rhan o adolygiad.
Bron i flwyddyn ers i'r drefn newydd 20mya ddod i rym, mae ymchwil gan y 成人快手 yn dangos bod cynghorau Cymru wedi cael dros 10,500 o geisiadau gan bobl yn gofyn iddyn nhw edrych eto ar y terfyn cyflymder ar rai ffyrdd.
Cymru oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i newid ffyrdd 30 mya yn rhai 20mya fel mater o drefn.
Ond mae'r ymgynghorydd diogelwch ffyrdd, Tom Jones yn dweud y byddai hi wedi bod yn well cyflwyno'r newid yn raddol ac addasu wrth fynd ymlaen.
Mae'n dweud bod gormod o bwyslais ar fod y wlad gyntaf i gyflwyno'r cyfyngiad 20mya yn hytrach na'i wneud e'n iawn.
Awgrymodd arolwg diweddar gan YouGov fod 70% o bobl yn gwrthwynebu'r polisi ond mae'r heddlu'n dadlau fod yna lai o ddamweiniau a marwolaethau o ganlyniad.
Mae Dan Allsobrook yn gwirfoddoli gyda chynllun rheoli cyflymder lleol yn ardal yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd.
Roedd e o blaid y newid ond mae e'n feirniadol o'r ffordd y cafodd e ei gyflwyno.
"Doedd y canllawiau ddim yn glir ac felly mae na anghysondeb ar draws Cymru.
"Yma yng Nghaerdydd mae ambell ffordd ddeuol yn 20mya a felly dyw pobl ddim yn meddwl fod hynny'n briodol."
Mae Heddlu'r De yn derbyn y bydd rhai ffyrdd yn newid o ganlyniad i'r adolygiad ond yn mynnu fod y newid wedi gwneud gwahaniaeth i ddiogelwch y ffyrdd.
Dywedodd y Prif Arolygydd Gareth Morgan, sy'n gyfrifol am ddiogelwch y ffyrdd ar ran y llu: "Gyda newid mor fawr 芒 hyn, mae'n anodd cael popeth yn berffaith felly mae'n iawn fod awdurdodau lleol yn mynd n么l dros bopeth a checio bod yr heolydd iawn wedi newid i 20 milltir yr awr.聽
"Dwi'n credu y bydd 'na newidiadau ond ddim ym mhobman... yn barod yn ardal Heddlu De Cymru, mae nifer y marwolaethau ry' ni wedi gweld ar y ffyrdd lawr tua 30% yn erbyn ffigyrau'r blwyddyn diwetha'.
"Os yw hynny'n parhau, bydd e'n golygu bod unarddeg neu ddeuddeg yn llai o bobl yn cael eu lladd ar ffyrdd Cymru eleni."
'Gwneud pethau gam wrth gam'
Mae arolwg diweddar yn awgrymu bod dal gwaith i'w wneud i ddarbwyllo'r cyhoedd o werth y polisi, a gostiodd 拢34 miliwn.
Mae'r ymgynghorydd diogelwch ffyrdd, Tom Jones yn beio'r ffordd y cafodd y newid ei gyflwyno ac yn dadlau bod gwella sgiliau gyrru yn bwysicach na chyfyngiadau cyflymder.
Dywedodd bod "gormod o bwyslais ar fod y wlad gyntaf i wneud hyn".
Ychwanegodd: "Ddylien ni fod wedi gwneud pethau gam wrth gam.
"'Da ni wedi gorffen fyny gyda rhywbeth sydd ddim cweit yn gweithio.
"Os ydan ni'n gorfod rhoi cyfyngiadau i mewn 'da ni 'di cholli hi'n barod.
"'Da ni ddim wedi neud y job yn iawn... a dwi'n meddwl y dylai dipyn o'r arian yma fod wedi cael ei wario ar newid y ffordd 'da ni'n dysgu pobl i yrru yn y lle cynta."
Anfon neges 'ddryslyd'
Mae 78,246 o yrrwyr wedi cael eu dal yn gwneud dros 20mya ers mis Ionawr.
Ym mis Awst, roedd 30,568 o yrrwyr wedi cael dewis i fynd ar gwrs neu chael dirwy a phwyntiau ar eu trwydded.
Er hynny, mae'n ymddangos fod y polisi yn gwneud gwahaniaeth i ymddygiad gyrrwyr.
O'r 26,270 o gerbydau gafodd eu monitro ym mis Awst, roedd 95% o fewn y trothwy o 26mya.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y data diweddara'n dangos gostyngiad sylweddol mewn damweiniau ar ffyrdd lleol ac y byddan nhw'n parhau i gadw golwg ar y sefyllfa.
"Ry'n ni'n cydnabod y dylai rhai ffyrdd newid n么l i 30 milltir yr awr a dyna'n union fydd yn digwydd o ganlyniad i'n hadolygiad."