Rhyddhau bachgen, 15, a gafodd ei arestio ar 么l ymosodiad ysgol

Disgrifiad o'r llun, Mae'r bachgen 15 oed wedi'i ryddhau gan yr heddlu yn dilyn ymchwiliad

Ni fydd yr heddlu yn cymryd camau pellach yn erbyn bachgen 15 oed a gafodd ei arestio ar amheuaeth o wneud bygythiadau oedd yn cyfeirio at ddigwyddiad treisgar mewn ysgol.

Cafodd y bachgen ei arestio yn ardal Cross Hands yn Sir Gaerfyrddin ar 25 Ebrill, yn dilyn adroddiadau bod negeseuon bygythiol yn cael eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol.

Yn gynharach yr wythnos honno, cafodd dwy athrawes a disgybl eu hanafu mewn digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman, Rhydaman.

Bydd merch 14 oed yn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe wythnos nesaf ar gyhuddiad o geisio llofruddio tri pherson.

Yn y cyfamser, mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau na fyddan nhw'n cymryd camau pellach yn erbyn y bachgen 15 oed yn dilyn eu hymchwiliad.