G锚m fideo i ddod 芒 chwedlau'r Mabinogi yn fyw
- Cyhoeddwyd
Bydd Pwyll, Branwen a Blodeuwedd 鈥 rhai o gymeriadau chwedlonol hynaf a mwyaf adnabyddus ein llenyddiaeth 鈥 yn serennu mewn g锚m gyfrifiadurol byd eang newydd.
Mae chwedlau鈥檙 Mabinogion wedi ysbrydoli dram芒u, straeon a darnau o gelf yn yr oes fodern.
Ond erbyn y gwanwyn, mae disgwyl i g锚m fideo gan ddatblygwr o Ganada gael ei rhyddhau, a honno yn y Gymraeg.
鈥淢ae gwneud hyn mewn fformat g锚m fideo yn dod [芒鈥檙 Mabinogion] i gynulleidfa hollol newydd,鈥 dywedodd y datblygwr, Stevan Anastasoff.
Fe aeth Stevan ati i ddysgu rhywfaint o Gymraeg ar 么l olrhain ei gysylltiadau 芒 Chymru 鈥 a dyna wnaeth ysbrydoli鈥檙 syniad ar gyfer y g锚m.
Un o sgriptwyr y g锚m yw鈥檙 Prifardd Rhys Iorwerth ac yn lleisio rhai o鈥檙 cymeriadau mae Phil Rowe o Ystradgynlais.
鈥淧an gysylltodd Stevan 芒 fi, neidiais ar y cyfle,鈥 meddai Mr Rowe.
鈥淢ae鈥檔 arbennig iawn gweithio ar rywbeth gyda chymaint o hanes a diwylliant.鈥
Mae鈥檔 bwysig fod pobl yn 鈥渃ofio gwreiddiau鈥 y chwedlau yn 么l yr Athro Sioned Davies o Brifysgol Caerdydd.
鈥淢ae cael g锚m fideo fel hyn 鈥 yn y Gymraeg 鈥 mor bwysig ac yn mynd i dynnu sylw at y chwedlau eu hunain,鈥 dywedodd.
鈥淎 hefyd, at yr iaith Gymraeg.鈥
Mewn sesiwn gemau yng nghaffi Common Meeple yn Abertawe roedd 鈥榥a groeso i鈥檙 g锚m fideo fydd ar gael yn Gymraeg.
Dywedodd Mai Rees, 23 o Abertawe: 鈥淚 fi, pan o鈥檔 ni鈥檔 dechrau dysgu Cymraeg eto, oedd e鈥檔 bwysig bo鈥 fi鈥檔 cael fy ymdrochi.
鈥淢ae e鈥檔 neud siwd gyment o wahaniaeth bod popeth o gwmpas ni yn y Gymraeg.
鈥淎c am y Mabinogi hefyd? Ma鈥 hwnna mor cool.鈥
Ychwanegodd Timothy Driscoll, 37, ei bod yn beth da fod yr iaith yn 鈥渨eladwy鈥 yn y diwydiant gemau fideo.
鈥淢ae鈥檔 bwysig ac mae鈥檔 ddiddorol iawn,鈥 dywedodd.
鈥淚鈥檙 plant sy鈥檔 siarad Cymraeg, does dim llawer o gemau gyda nhw - gobeithio mae鈥檔 rhywbeth fydd yn gwneud yr iaith yn visible.鈥
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd15 Awst
- Cyhoeddwyd8 Mai