Carcharu dynes o Sir G芒r fu ar ffo rhag yr heddlu
- Cyhoeddwyd
Mae dynes oedd ar ffo rhag yr heddlu am 16 mis wedi cael ei chanfod a bellach wedi dechrau ar ei chyfnod yn y carchar.
Cafodd Lynne Leyson, oedd wedi ei chael yn euog o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau yn Sir Gaerfyrddin, ei harestio ar Fferm Pibwr, Capel Dewi ddydd Llun.
Roedd wedi dychwelyd i鈥檙 ardal nos Sul, ar 么l teithio'n helaeth ar draws y Deyrnas Unedig yn ystod ei chyfnod ar ffo.
Fe ymddangosodd Leyson yn Llys y Goron Abertawe fore Mawrth ac mae hi erbyn hyn wedi dechrau ar ei dedfryd o naw mlynedd o garchar.
Mae disgwyl y bydd Leyson yn mynd o flaen Llys y Goron Abertawe unwaith eto ar 4 Hydref.
Yn ogystal, cafodd dynes arall 26 oed ei harestio ddydd Llun ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.
Mae hi wedi cael ei rhyddhau ar fechn茂aeth tra bod ymholiadau yn parhau.
Roedd yr heddlu wedi bod yn chwilio am Lynne Leyson ers iddi ddiflannu yn haf 2023.
Roedd ymdrech chwilio sylweddol wedi bod ar waith, gan gynnwys ap锚l ar raglen Crimewatch.
Ym mis Mai 2023, cafwyd Leyson yn euog o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A a B, a bod ag eiddo troseddol yn ei meddiant.
Ni wnaeth ymddangos yn ei gwrandawiad dedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ar 21 Gorffennaf 2023, ac fe gafodd ei dedfrydu yn ei habsenoldeb ar 15 Medi 2023 i naw mlynedd yn y carchar.
Roedd Leyson yn un o chwech o bobl a gafodd eu harestio yn dilyn cyrch ar Fferm Pibwr yng Nghapel Dewi ger Caerfyrddin ym mis Hydref 2021.
Fe ddaeth swyddogion o hyd i 592 gram o goc锚n gyda gwerth rhwng 拢47,760 a 拢60,200.
Yn ogystal, daethant o hyd i 1.4kg o ganabis gwerth 拢15,615, 拢17,190 mewn arian parod a gwn.
Ym mis Gorffennaf 2023, fe gafwyd g诺r Lynne Leyson, Stephen Leyson, 55, yn euog o fod 芒 gwn yn ei feddiant, cynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A a chynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth B.
Cafodd ei ddedfrydu i 11 mlynedd o garchar.
Cafwyd eu mab, Samson, 24, yn euog o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A a chyffuriau dosbarth B, ac fe gafodd ei ddedfrydu i chwe blynedd o garchar.
Cafodd dau arall - Andrew Jenkins a Ritchie Coleman - eu dyfarnu鈥檔 euog o gyflenwi cyffuriau a鈥檜 dedfrydu i gyfnod dan glo hefyd.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Rhys Jones, a arweiniodd yr ymchwiliad: "Mae'r arestio yn dangos pa mor benderfynol ydym ni i ddod o hyd i'r rhai sy'n credu y gallant osgoi cyfiawnder."
Fe ddiolchodd i鈥檙 swyddogion am eu dyfalbarhad gyda鈥檙 achos, ac i aelodau鈥檙 cyhoedd am eu cymorth a鈥檜 gwybodaeth dros yr 16 mis diwethaf.
"Bydd hyn yn anfon neges gref na fydd gweithgareddau'r unigolion hynny sy'n gysylltiedig 芒 grwpiau troseddau cyfundrefnol sy'n gweithredu o fewn ardal Dyfed-Powys yn cael eu goddef, ac y byddan nhw'n cael eu dwyn o flaen eu gwell," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2023