成人快手

Canfod math newydd o wyfyn yng Nghymru yn 'rhyfeddol'

Carmenta brachycladosFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Carmenta brachyclados yw enw'r gwyfyn, sydd tua 18mm o hyd

  • Cyhoeddwyd

Mae rhywogaeth newydd o wyfyn wedi'i ddarganfod yng Nghymru - a hynny miloedd o filltiroedd o'i gynefin brodorol yn Ne America.

Y gred yw bod dau wyfyn cliradain wedi teithio 4,500 o filltiroedd o jyngl trofannol yn Guyana i Bort Talbot y tu mewn i fag ffotograffydd.

Ym mis Chwefror cafodd y creaduriaid eu gweld ar silff ffenestr gan yr ecolegydd 22 oed Daisy Cadet a'i mam Ashleigh - sy'n ffotograffydd proffesiynol.

Mae gwyddonwyr wedi disgrifio'r cyfan fel "digwyddiad annhebygol" sy'n "anodd ei esbonio mewn modd rhesymegol".

Dywedodd Ms Cadet: 鈥淒oedd e (y gwyfyn) ddim yn hedfan o gwbl - mae鈥檔 debyg gan fod y t欧鈥檔 rhy oer ar y pryd, a鈥檙 un arall wrth ei ymyl eisoes wedi marw.

鈥淧an welais i nhw am y tro cyntaf, roeddwn i鈥檔 gwybod mai cliradain oedden nhw ac roeddwn i鈥檔 cymryd yn ganiataol ei fod yn rhywogaeth sy'n gyffredin yn y DU.

"I mi, roedd dod o hyd i wyfyn newydd yn ddigon cyffrous ond ar y pwynt hwn, doedd gen i ddim syniad ei fod mor anarferol."

Ffynhonnell y llun, Daisy Cadet
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Daisy Cadet ei bod hi'n teimlo'n "anhygoel o lwcus" i fod yn rhan o'r darganfyddiad

I ddarganfod mwy am y gwyfynod, fe wnaeth Ms Cadet rannu lluniau ar Instagram ac fe gysylltodd un o'i dilynwyr i ddweud nad oedd yn edrych fel rhywogaeth sy'n hysbys yn y DU.

Cafodd y lluniau eu rhannu'n eang cyn cyrraedd arbenigwyr gwyfynod yr Amgueddfa Hanes Naturiol Mark Sterling a David Lees.

Trwy ddadansoddiad DNA, cadarnhaodd y gwyddonwyr fod y gwyfynod yn rhai nad oedd wedi eu cofnodi o'r blaen.

Ysgogodd hyn Ms Cadet i edrych y tu mewn i fag cist ei mam, ac fe aeth Ashleigh gyda hi yn ystod ei thaith i Guyana.

Daeth y p芒r o hyd i weddillion dau goc诺n oedd wedi eu claddu yn y mwd oedd ar yr esgidiau yr oedd hi wedi'u gwisgo ar y daith.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd dau goc诺n eu darganfod mewn mwd oedd wedi casglu ar esgidiau Ashleigh

Mae'r creadur, sydd tua 18mm o hyd, wedi'i enwi'n Carmenta brachyclados.

Mae adenydd C. brachyclados yn dryloyw, gyda gwythiennau du a blaenau du ac mae gan ochr uchaf ei gorff streipiau glas symudliw ag ymyl melyn gyda'r ochr isaf yn felyn sylffwraidd llachar, meddai'r ymchwilwyr.

Fe wnaeth yr arbenigwyr ddarganfod darn bach o lystyfiant yn y bag hefyd, sydd mwy na thebyg wedi dod o fath o goeden sy'n tyfu yng Nghanolbarth a De America o'r enw Mora excelsa.

Y gred yw y byddai'r llystyfiant yma wedi gallu diogelu'r larfa rhag cael eu difrodi yn ystod y daith, tra bod y lleithder a鈥檙 tymheredd yn y bag esgidiau wedi helpu鈥檙 larfa trofannol i oroesi a thyfu yn ystod y gaeaf.

Ffynhonnell y llun, Daisy Cadet

Dywedodd Mark Sterling o'r Amgueddfa Hanes Natur ei bod hi'n "hynod o anodd dod o hyd i wyfynod cliradain, hyd yn oed i entomolegwyr proffesiynol".

"Maen nhw hyd yn oed yn fwy anodd eu magu o larfa neu chwilerod, sydd fel arfer yn sychu neu'n llwydo o fewn ychydig ddyddiau i'w casglu."

Ychwanegodd fod y siawns o ddau wyfyn cliradain o jyngl trofannol De America "yn dod i'r amlwg yn llwyddiannus yn Ne Cymru, dros dri mis ar 么l iddyn nhw gyrraedd, yn ystod gaeaf oer Cymreig, a chael eu cadw mewn cyflwr da, yn rhyfeddol".

Dywedodd Ms Cadet, er ei bod hi'n teimlo'n "anhygoel o lwcus" i fod wedi chwarae rhan yn y darganfyddiad, a'i bod wedi profi "llawer o dristwch a phryder" am faint o rai eraill sy'n cael eu colli oherwydd newid hinsawdd.

鈥淢ae鈥檔 fraint i ni allu gwneud darganfyddiadau fel hyn, ond rwy鈥檔 gobeithio bod y stori hon yn gwthio am weithredu go iawn ar gyflwr ein planed a鈥檙 argyfwng bioamrywiaeth."

Pynciau cysylltiedig