T卯m dros 70 oed Cymru yn ennill Cwpan y Byd

Disgrifiad o'r llun, Fe drechodd t卯m dros 70 oed Cymru d卯m o'r Unol Daleithiau yn y rownd derfynol

Dyw Cymru ddim yn cyrraedd ffeinal Cwpan y Byd unrhyw gamp yn aml, felly roedd 'na reswm i ddathlu ddydd Gwener wrth i ddau d卯m o Gymru gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan 笔锚濒-诲谤辞别诲 y Byd i Bobl H欧n.

Llwyddodd t卯m y dynion dros 70 oed i drechu t卯m Freddyfund o'r Unol Daleithiau ar giciau o'r smotyn i ennill y tlws.

Ond siom oedd hi yn y ffeinal i'r t卯m dros 75 oed, a gafodd eu trechu ar giciau o'r smotyn gan Loegr.

Caerdydd oedd yn cynnal y cystadlaethau, ac felly roedd torf gartref yno i gefnogi'r Cymry.

Roedd y digwyddiad yn cynnwys gwledydd o ar draws y byd, gan gynnwys Yr Almaen a Norwy.