³ÉÈË¿ìÊÖ

Llai o ail gartrefi ar ôl codi treth Cyngor Gwynedd

AberdaronFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae 28% o holl eiddo Aberdaron (uchod) ac Abersoch yn ail gartrefi

  • Cyhoeddwyd

Mae 232 yn llai o ail gartrefi yng Ngwynedd na'r llynedd, yn ôl ffigyrau newydd - sy'n dangos effaith premiymau treth cyngor.

Roedd 4,373 o ail gartrefi wedi'u cofrestru yn y sir, o'i gymharu â 4,605 ​​y flwyddyn flaenorol, yn ôl ffigyrau sydd wedi eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.

Mae yna ostyngiad o 5% ym mis Ebrill 2024 o gymharu â’r un mis yn 2023.

Roedd y newidiadau mwyaf mewn cymunedau fel Dinas Bangor, Dwyrain Caernarfon a Bala a Mawddwy.

Yn gynharach eleni, gosododd Cyngor Gwynedd bremiwm o 200% ar ben y dreth gyngor arferol ar gyfer ail gartrefi yn y sir, gyda'r nod o roi mwy o gyfleoedd i bobl leol fyw yn eu cymunedau.

Roedd gostyngiadau yn nifer yr ail gartrefi mewn ardaloedd arfordirol hefyd – Abersoch ac Aberdaron, a Thywyn a Llangelynnin.

Ond er bod 42 yn llai o ail gartrefi yn ardal Tywyn a Llangelynnin, dim ond wyth yn llai oedd yn Abersoch ac Aberdaron.

Mae ail gartrefi yn cyfrif am 28% o’r holl eiddo sy'n talu treth gyngor yn y gymuned hon ym Mhen Llŷn, tra eu bod yn cyfrif am 18% o gartrefi Tywyn.

Roedd y ffigyrau’n dangos bod 3,750 o eiddo yn parhau i fod yn ail gartrefi yn 2023 a 2024.

Cafodd 620 eiddo newydd eu cofrestru fel ail gartrefi yn 2024.

Cynyddodd Cyngor Gwynedd y premiwm ail gartrefi am y tro cyntaf o 100% i 150% ym mis Ebrill 2023.

Cafodd rheolau newydd eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru, gyda chynghorau'n cael codi premiwm o hyd at 300%.

Pynciau cysylltiedig