成人快手

Merthyr Tudful: Taclo t芒n mewn cyn-glwb cymdeithasol

tan yn Ynysowen
  • Cyhoeddwyd

Mae swyddogion wedi bod yn taclo t芒n mewn hen glwb cymdeithasol yn Ynysowen, Merthyr Tudful.

Cafodd criwiau o Ferthyr, Treharris, Pontypridd a Chaerdydd eu galw i hen glwb cymdeithasol Gordon Lenox am tua 06:20 fore Sadwrn.

Ar un adeg cafodd trigolion lleol rybudd i gau eu ffenestri oherwydd y mwg.

Daw hynny wedi i Heddlu'r De gadarnhau eu bod wedi dod o hyd i 700 o blanhigion canabis ddydd Iau yn tyfu yn yr adeilad.

Cafodd dau ddyn, 23 a 31 oed, eu harestio ac maen nhw'n parhau yn y ddalfa.