Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gobaith cymryd camau i warchod 'trysor' o fwthyn
- Awdur, Aled Scourfield
- Swydd, Newyddion 成人快手 Cymru
Mae camu dros y trothwy i fwthyn Penrhos fel camu'n 么l i oes a fu.
Wedi ei leoli mewn man digon ddiarffordd ger Llanycefn, yn Sir Benfro, does neb wedi byw yn y bwthyn to gwellt ers 1968.
Bu Penrhos unwaith yn gartref i deulu o 12. Yn wreiddiol, dim ond dwy 'stafell oedd yn yr adeilad, ond fe ychwanegwyd stafell wely ar y pen tua 1897.
Y gobaith yw creu gr诺p newydd yn yr ardal i ddiogelu dyfodol y bwthyn.
Y preswylwyr diwethaf oedd Maria a Rachel Williams.
Roedd Maria yn gweithio fel bydwraig yn y gymuned ac wedi helpu i eni cenedlaethau o blant lleol, a Rachel yn gofalu am y t欧.
Bu farw Rachel yn 1968, ac fe symudodd Maria i fyw mewn cartref yn Arberth.
Roedd y ddwy yn byw bywyd syml ym Mhenrhos, ac roedd eu cymdogion ar fferm Blaensawd drws nesaf yn gorfod eu cynorthwyo i godi d诺r iddyn nhw o'r ffynnon tu 么l i'r t欧 dydd bob dydd.
Doedd yna ddim moethusrwydd yn perthyn i'r cartref syml. Doedd yna ddim t欧 bach yn yr adeilad - dim ond pot o dan y gwely.
'Roedd y ddwy mor garedig'
Cafodd Eifion Evans, 67, ei godi ar y ffarm drws nesaf ac mae'n cofio caredigrwydd y ddwy hen chwaer.
"Dw i'n cofio mynd i'r ysgol o Blaensawd a wedyn n么l tua hanner awr wedi tri ac wedd rhaid galw mewn i weld y ddwy chwaer.
"Roedd y ddwy mor garedig. Pan oeddwn ni yn galw mewn wen ni'n cael ambell i losiynyn fach wedyn.
"Roedd bocsed mawr o losin 'da nhw ar y ford. Ro'n nhw yn falch iawn i weld plant yr ardal.
"Maria oedd y person oedd mynd i fwydo'r ffowls, a gwneud y gwaith tu fas a Rachel oedd mwy mewn yn gwneud gwaith y t欧.
"Roedd wastad dished o de a sleishen o fara menyn os oedd pobl yn galw."
Mae Penrhos yn enghraifft brin o d欧 unnos sydd yn dal i fodoli ar lawr gwlad.
Mae'n debyg y codwyd yr adeilad gwreiddiol tua 1800, ond fe ailadeiladwyd y bwthyn mewn cerrig rai degawadau yn ddiweddarach tua 1849.
Roedd tai unnos yn gyffredin yn y Gymru wledig rhwng y 17eg a'r 19eg ganrif.
Yn 么l yr arferiad hwn, byddai gan y sawl a godai dyddyn ar dir comin dros nos, yr hawl i fyw ynddo ac i ffermio ychydig o'r tir o'i gwmpas, cyn belled 芒 bod mwg yn dod o gorn y simne erbyn y bore.
Arferid defnyddio deunyddiau oedd wrth law i godi'r t欧 - cerrig, pridd a choed. Yn aml iawn, fe fyddai'r t欧 yn cael ei ailgodi unwaith byddai'r tir wedi ei hawlio.
Fe agorwyd yr hen d欧 fel amgueddfa gan yr hen Gyngor Dyfed yn 1972, ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf does fawr neb wedi ymweld 芒'r hen fwthyn, ac mae angen trwsio rhai o'r ffenestri a gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.
Mae ond yn bosib i ymweld 芒 Phenrhos drwy apwyntiad gyda Chyngor Sir Penfro.
Roedd Cyngor Cymuned Maenclochog wedi gobeithio y byddai'r cyngor sir yn ariannu gwaith cynnal a chadw ar yr adeilad ond does dim arian ar gael.
Mae cyfarfod wedi ei drefnu yn Neuadd Maenclochog am 19:00 ar 2 Tachwedd er mwyn trafod y ffordd ymlaen.
Mae angen sichrau cefnogaeth ariannol i gwblhau'r gwaith, ac fe fydd angen defnyddio technegau adeiladu traddodiadol am fod y bwthyn wedi ei restru gan Cadw.
'Mae'n drysor o adeilad'
Yn 么l yr awdur a'r newyddiadurwr Hefin Wyn, sy'n byw yn lleol, mae yna gryn ddiddordeb ymhlith y gymuned leol.
"Mae'n drysor o adeilad, am fwy nac un rheswm," dywedodd. "Mae'n d欧 unnos yn wreiddiol ac wedi goroesi, ac mae yna gof gwerin yn yr ardal am y teulu diwethaf oedd yn byw yma.
"Mae gan bobl straeon di-ri am Maria a Rach oedd yn byw yma. Mae trigolion yr ardal yn awyddus iawn i ddiogelu hwnnw ac i gyflwyno fe i'r cenedlaethau a ddaw.
"Ar 么l cyfnod Covid, fe sylwon ni bod y drws ar glo, ac mae'n rhaid i ni wneud rhywbeth. Ac mae yna obaith y gallwn ni wneud rhywbeth - mae Cyfeillion Penrhos yn mynd i gael ei ffurfio, gobeithio.
"Mae yna ddidordeb yn cael ei ddangos yn barod, a phobl yn barod i wirfoddoli i wneud gwaith cynnal a chadw. Mae'n debyg y bydd rhaid cynnig am grantiau gan gyrff cyhoeddus ac mae'r brwdfrydedd yna erbyn hyn.
"D'wi'n si诺r gewn ni'r maen i'r wal, fel petai."
Yn 么l Eifion Evans, sydd hefyd yn aelod o Gyngor Cymuned Maenclochog, mae'n bwysig bod dyfodol Penrhos yn cael ei ddiogelu.
"Mae'n agos iawn at fy nghalon. Ni'n mynd trio cael Ffrindiau Penrhos i gael gymaint o bobl 芒 phosib i wirfoddoli a helpu gwneud e mas fel oedd e yn y dyddiau cynnar.
"Bydde fe'n neis gallu agor y bwthyn ar gyfer rhai oriau yn yr wythnos, yn yr haf efallai, fel bod pobl yn medru dod 'ma - pobl i helpu mas a dod yma yn ystod y dydd i ddweud yr hanes."
'Dim bwriad i'w waredu'
Dywedodd Cyngor Sir Penfro mewn datganiad bod Bwthyn Penrhos yn "rhan bwysig o dreftadaeth y genedl, a does yna ddim bwriad i'w waredu".
Ychwanegodd: "Mae gwasanaeth amgueddfeydd Cyngor Sir Penfro yn edrych ymlaen at y cyfarfod ym Maenclochog i weld a fydd modd cydweithio gyda gr诺p i gynnal a chadw yr adeilad pwysig hwn, ac i sicrhau gwell mynediad iddo."