成人快手

Meddygon iau i bleidleisio ar streic dros gyflogau

StreicFfynhonnell y llun, ANDY RAIN/EPA-EFE/REX/SHUTTERSTOCK
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae meddygon iau eisoes wedi bod ar streic yn Lloegr

  • Cyhoeddwyd

Bydd meddygon iau yng Nghymru yn pleidleisio ar gynnig i streicio yn sgil anghydfod dros gyflogau.

Fe wnaeth y corff sy'n cynrychioli meddygon, BMA Cymru, gyhoeddi anghydfod ffurfiol gyda Llywodraeth Cymru yn gynharach fis Awst.

Daw ar 么l i BMA Cymru wrthod y cynnig diweddaraf o 5% o gynnydd i gyflogau gan y llywodraeth.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn "siomedig fod meddygon wedi cymryd y penderfyniad", ond nad yw "mewn safle i gynnig mwy ar hyn o bryd".

Daeth trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru i ben ddechrau'r mis wedi i BMA Cymru wrthod cynnig o 5% yn nh芒l rhai meddygon.

Dywedodd yr undeb bryd hynny mai dyma'r cynnig "gwaethaf" yn y DU, a'i fod yn doriad mewn gwirionedd gan fod chwyddiant yn uwch.

Mae'r anghydfod yn ymwneud 芒'r telerau yn achos meddygon sy'n arbenigo mewn maes penodol - ac maen nhw'n cynnwys meddygon ymgynghorol, meddygon iau a meddygon SAS, sy'n dymuno mwy o hyblygrwydd yn eu gyrfa.

Er mai 5% oedd y codiad cyflog a gafodd ei gynnig i rai ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023-24, dywed y BMA bod y cynnig i rai o'r meddygon SAS mor isel 芒 1.5%.

Ffynhonnell y llun, PA

Mewn llythyr at Weinidog Iechyd Cymru, Eluned Morgan, mae'r BMA yn galw'r cynnig yn "sarhaus ac yn annerbyniol" i aelodau.

Mae'n ychwanegu: "Does dim opsiwn bellach ond cynnal pleidlais o aelodau ar weithredu diwydiannol er mwyn diogelu dyfodol ein proffesiwn."

Yn 么l y BMA, fe wnaeth 89% o ymatebwyr i arolwg diweddar awgrymu eu bod yn fodlon gweithredu.

"Felly, does dim amheuaeth gennym ni y bydd y bleidlais yn llwyddo ac mae angen ystyried yn ddifrifol y posibilrwydd o feddygon iau yn streicio yng Nghymru."

Dywedodd y BMA y byddai'r bleidlais ar streic ar gyfer meddygon mewn gofal eilaidd.

Mae hynny'n cyfeirio at wasanaethau sydd fel arfer yn cael eu cynnal mewn ysbytai - unai gofal brys neu driniaeth wedi ei gynllunio.

Mae bron i hanner yr holl feddygon yn y DU yn feddygon iau, ac mae'r ganran yn uwch mewn ysbytai.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood

Yn siarad ar Dros Frecwast dywedodd cadeirydd BMA Cymru y byddai pleidlais "oherwydd does 'na ddim dewis arall nawr i ni".

Dywedodd Dr Iona Collins nad yw cyflogau yng Nghymru yn "gystadleuol gyda chyflogau hyd yn oed mewn llefydd eraill ym Mhrydain".

Rhybuddiodd bod hynny'n golygu bod "meddygon yng Nghymru yn gadael Cymru".

"Felly nawr mae dewis gyda ni, naill ai aros yma gyda meddygon yn gadael ac mae'r gwasanaeth yn gwaethygu a gwaethygu, neu gallwn ni neud rhywbeth, sef beth ry'n ni'n 'neud nawr wrth bleidleisio er mwyn symud ymlaen gyda industrial action."

"Mae'r cyflog yn dechrau ar 拢13 yr awr am feddygon iau yn y wlad yma, ac yn Lloegr ma' nhw'n dechrau ar 拢14 yr awr ac mae'r cyflog just yn mynd i fyny nawr mwy yn Lloegr eto na'r cyflog yng Nghymru.

"Yn barod ry'n ni'n gweld meddygon sydd yn byw yng Nghymru ac maen nhw'n gweithio yn Lloegr, mae'r cyflog, mae'r sefyllfa yn well. Mae hynny'n digwydd yn barod a ni'n trio rhoi stop i hyn."

'Dim mwy o arian ar gael'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "siomedig fod meddygon wedi cymryd y penderfyniad".

"Rydyn ni'n deall cryfder y teimlad ymysg doctoriaid am y cynnig t芒l 5% a'r pwysau mae holl weithwyr y sector cyhoeddus yn ei wynebu oherwydd yr argyfwng costau byw," meddai.

Ychwanegodd y byddai'r llywodraeth yn hoff o allu cynnig mwy, ond bod y cynnig "at derfyn y cyllid sydd ar gael i ni" ac mai dyma'r safle a gyrhaeddwyd gydag undebau iechyd eraill eleni.

"Heb fwy o gyllid gan Lywodraeth y DU, nid ydym mewn safle i gynnig mwy ar hyn o bryd," meddai'r llefarydd.

Mae Llywodraeth y DU yn dweud bod Cymru wedi derbyn ei "setliad ariannol mwyaf yn hanes datganoli".