Trystan Ellis-Morris: 'Bydd Dad yno efo fi'

Ffynhonnell y llun, Trystan Ellis-Morris

  • Awdur, Angharad Rhys
  • Swydd, 成人快手 Cymru Fyw

"Mae rhywun yn gorfod delio efo'r annhegwch a phob math o bethau sy'n dod yn sgil galar. Does 'na ddim sens i gael 鈥 dydy o ddim yn gwneud sens. Dydy o byth yn mynd i 'neud sens."

Mae鈥檙 cyflwynydd Trystan Ellis-Morris wedi bod yn rhan annatod o raglenni Eisteddfod yr Urdd ar S4C ers 14 o flynyddoedd.

Ond mae eleni yn mynd i fod yn brofiad gwahanol iawn iddo wedi iddo golli ei dad yn sydyn ar noswyl Nadolig 2023.

Mewn sgwrs gyda Cymru Fyw cyn iddo gychwyn wythnos o鈥檔 tywys ni drwy gystadlu ac hwyl yr Urdd ym Meifod, mae Trystan yn rhannu pa mor bwysig oedd dylanwad ei dad, Ieuan Morris, ar ei fywyd a鈥檌 yrfa a r么l allweddol yr eisteddfod yn ei fagwraeth.

"Yn amlwg oedd Mam a Dad yn rhai oedd yn dod yn flynyddol i鈥檙 Urdd," meddai.

"Oedd Dad wrth ei fodd yn d诺ad i weld fi a chael dod i鈥檙 stiwdio. Roedd o鈥檔 wirioneddol yn un o鈥檙 tadau balch 'na i gael dweud mod i鈥檔 gwneud yn o'reit.

"Mae meddwl am 'neud o [cyflwyno鈥檙 Eisteddfod] heb wybod fod o yno, heb y text bach dyddiol 'na yn dweud 鈥榙a iawn heddiw m锚t鈥 - mae鈥檔 wirioneddol yn od meddwl bod hwnna ddim yn mynd i ddigwydd.

Ffynhonnell y llun, Trystan Ellis-Morris

Disgrifiad o'r llun, Trystan a'i dad Ieuan Morris

Galar

"'Da ni鈥檔 symud ymlaen ac yn addasu ac mae鈥檔 rhan o鈥檙 broses o fynd trwy alar 鈥 mae鈥檔 brofiad hollol estron i mi. Do, 'nes i golli Taid sawl blwyddyn yn 么l ond mae鈥檙 glec mae rhywun yn teimlo o golli rhiant wirioneddol yn rhywbeth anesboniadwy.

鈥淢ae鈥檔 sicr yn rhywbeth sy鈥檔 chwarae ar fy meddwl i. Dwi wedi colli fy llais dros y dyddiau diwethaf - ella bod o鈥檔 elfen o alar yn dod allan mewn ffyrdd gwahanol.

鈥淭i鈥檔 s么n am noswyl Nadolig sy' cwta pedwar mis a hanner yn 么l, dydy o ddim yn ddim byd.

鈥淒wi ddim yn gwybod os ydw i wedi cychwyn ar y broses yn iawn eto - achos bod o 'di digwydd yn y ffordd wna'th o, achos bod o wedi digwydd mor sydyn gath neb amser i 'neud na deud dim byd.

鈥'Nath o ddigwydd fel switsh a do鈥檔 i digwydd bod ddim adra ac heb weld o ers mis Tachwedd.

鈥淢ae rhywun yn gorfod parcio, a derbyn, addasu a trio symud ymlaen.

鈥淢ae鈥檔 hitio chdi ar adegau pan ti ddim yn meddwl amdano fo - mae 'na arogl neu gerdyn pen-blwydd ti鈥檔 dod o hyd iddo fo.

鈥淎c mi fuasai Dad yn 70 mis nesaf. Mae鈥檙 cerrig milltir bach cyntaf 'na yn mynd i fod yn anodd.鈥

Magwraeth

Roedd ei dad yn eisteddfotwr brwd ac mae鈥檔 rhoi cysur i Trystan ei fod yn gweithio ar 诺yl oedd yn rhan mor bwysig o鈥檌 fywyd.

Bydd y cyflwynydd hefyd yn gwisgo rhywbeth arbennig er cof am ei dad.

"Mae gynna鈥檌 fodrwy briodas Dad a bydd honno ar fy mys i drwy鈥檙 cyfan so mae鈥檔 teimlo fatha bod o yno efo fi a鈥檔 gwneud yn si诺r bod fi鈥檔 oce.

"Pan dwi鈥檔 cael y foment yna pan dwi鈥檔 teimlo pwysau llethol ar fy ysgwyddau i, dwi鈥檔 meddwl fydd o yno i ysgafnhau ambell i beth ac i sychu ambell i ddeigryn.

"Achos bod fi wedi cael fy nwyn i fyny yn cystadlu ac yn mynd yn flynyddol mae鈥檔 syreal mod i鈥檔 'neud y gwaith achos o鈥檔 i ddim yn methu dim o鈥檙 Urdd adra, oeddan ni wastad yn gwylio o鈥檙 t欧 so mae gwneud y job r诺an yn freuddwyd.鈥

Bu鈥檔 cystadlu fel plentyn efo Ysgol Brynrefail, Llanrug ac yn fwy diweddar efo Aelwyd yr Ynys, Ynys M么n ond ni fu鈥檔 cystadlu yn unigol.

"Oeddan ni鈥檔 gwneud ymgom a chystadlaethau torfol ond d鈥檕n i byth yn 'neud dim byd ar ben fy hun achos o鈥檔 i rhy swil," meddai.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Disgrifiad o'r llun, Trystan a'i chwaer Jeni

"Be鈥 mae鈥檙 Urdd wedi 'neud ydy rhoi llwyfan i bobl fel fi oedd fymrym bach yn swil 鈥 yn gwneud y cystadlaethau torfol 'na ti yn magu hyder o fynd ar y llwyfan, perfformio efo dy ffrindiau, cael beirniadaeth.

"Nid yn unig mae o'n rhoi profiad ond mae o'n rhoi sgiliau sylfaenol bywyd i chdi hefyd o ran bod yn aelod o rhywbeth a gorfod cydymffurfio efo ymarferion.

鈥淒wi wedi elwa o ran profiad a magu hyder sy' wedi galluogi fi i astudio cwrs perfformio yn y Drindod. Oni bai am brofiadau fel yr Urdd dros y blynyddoedd dwi ddim yn meddwl buaswn i wedi dilyn gyrfa ym myd perfformio.

鈥淒wi鈥檔 meddwl bod fi wedi cael y blas a鈥檙 awch gan yr Urdd sy' wedi arwain fi i 'neud y job dwi鈥檔 'neud heddiw.鈥

Llwyfan

Ac mae Trystan, sy' newydd symud i Abergele ar 么l 10 mlynedd yn Llundain, yn edrych ymlaen at wythnos brysur o gyflwyno Eisteddfod yr Urdd ym Meifod ar S4C.

鈥淢ae鈥檙 egni a鈥檙 brwdfrydedd ti鈥檔 ennill o 'neud y gwaith ac hefyd o weithio efo鈥檙 pobl orau yn y diwydiant, mae鈥檔 cymaint o fraint cael dod 芒鈥檙 eisteddfod yn fyw.

鈥淩han fechan dwi鈥檔 chwarae yn hynny oll. Dwi yno fel drych i鈥檙 Urdd i bobl adra sy' methu dod i Faldwyn. Mae鈥檙 fraint mae rhywun yn ei deimlo o allu gwneud hynny, mae鈥檔 gallu llorio rhywun weithiau.

鈥淗ogyn cyffredin o Ddeiniolen ydw i, dwi ddim wedi cael magwraeth ym myd teledu 鈥 does neb o鈥檔 nheulu i erioed wedi gweithio yn y diwydiant.

鈥淢ae鈥檔 gallu bod yn brofiad emosiynol i fi a Heledd 鈥 sawl gwaith 'da ni wedi cael ambell i ddeigryn, yn gyfuniad o flinder a falchder.

鈥淥nd mae鈥檔 teimlo fel bod ti鈥檔 eistedd tu 么l y ddesg efo dy ffrind gorau di achos mae fi a Heledd yn ffrindiau mawr yn cael hwyl a j么c a joio beth yda ni鈥檔 'neud.

Ffynhonnell y llun, S4C

Disgrifiad o'r llun, "Mae cydweithio gyda Heledd yn wirioneddol gymaint o trit. Mae hi yn berson sbeshal," meddai Trystan

鈥淧an ti鈥檔 eistedd yna am yr wythnos gyfan yn gwylio bob un cystadleuaeth 鈥 mae鈥檔 wirioneddol yn llorio ti, y talent sy'na. Mae鈥檙 bar wastad yn cael ei godi yn flynyddol yn enwedig yn y rhai offerynnol.

鈥淎chos fod gen i gefndir offerynnol dwi鈥檔 rhyfeddu yn flynyddol at ddawn y bobl ifanc yn y maes offerynnau. Sna'm rhyfedd fod 'na gymaint o enwau a thalent yn dod allan o Gymru.

鈥淵n amlwg be' mae鈥檙 Urdd yn 'neud ydy rhoi llwyfan cyson i dalentau ifanc Cymru boed hynny yn dalent ar y llwyfan, talent ysgrifennu, ll锚n, chwaraeon, coginio, brodwaith, hyd yn oed colur a gwallt 鈥 dydyn nhw ddim yn gadael neb allan. Mae鈥檙 Urdd i bawb.

鈥淒wi ddim yn meddwl bydden ni fel Cymry yn bodoli heb yr Urdd. Mae鈥檔 sefydliad sy鈥檔 agos iawn at fy nghalon i.鈥

Ffynhonnell y llun, Trystan Ellis-Morris