成人快手

Hysbysiad pellach i safle tirlenwi dros arogl gwael

safle tirlenwi
  • Cyhoeddwyd

Mae'r rheoleiddwyr amgylcheddol, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), wedi cyhoeddi hysbysiad gorfodi pellach i'r cwmni sy'n rheoli safle tirlenwi dadleuol yn Sir Benfro.

Mae CNC wedi gorchymyn cwmni Resources Management UK Ltd i gydymffurfio gyda nifer o ofynion newydd er mwyn ceisio cael gwared ar arogleuon gwael ar safle Withyhedge, sydd wedi achosi diflastod i drigolion lleol.

Fe fydd y cwmni yn gorfod cwblhau nifer o gamau erbyn Ebrill 2, gyda gweithredoedd pellach i'w cwblhau erbyn Mai 14.

Mae CNC wedi galw ar y cwmni i orchuddio rhannau pellach o'r safle a gosod mwy o gyfarpar rheoli nwy.

Mae'r rheoleiddiwyr wedi rhybuddio y gallen nhw wahardd y cwmni rhag gweithredu ar y safle, os nad yw'n cydymffurfio gyda'r hysbysiad gorfodi.

Dywed RML eu bod yn "rhannu rhwystredigaeth" cymunedau lleol bod problemau'n parhau er gwaethaf camau i ddatrys y sefyllfa a bod gwaith pellach yn mynd rhagddo i gadarnhau tarddiad yr arogl.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae protestiadau wedi cael eu cynnal yn lleol yn erbyn y drewdod

Mewn datganiad dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod yn "deall yn iawn yr anniddigrwydd cynyddol ymhlith y cymunedau yr effeithir arnynt, ac rydym yn teimlo ei bod yn annerbyniol i drigolion ac ymwelwyr 芒鈥檙 ardal barhau i gael eu heffeithio gan yr arogleuon a鈥檙 allyriadau nwyon tirlenwi hyn".

Fe ddywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir Benfro, Will Bramble, eu bod fel cyngor yn "hynod siomedig nad yw RML, y cwmni sy鈥檔 rheoli safle tirlenwi Withyhedge, wedi cyflawni鈥檙 camau angenrheidiol i atal yr allyriadau arogl cwbl annerbyniol".

Fe ychwanegodd eu bod yn "cefnogi bwriad CNC i gymryd camau pellach pe bai'r cwmni rheoli methu 芒 chwrdd 芒鈥檙 terfyn amser a osodwyd, sef 14 Mai 2024".

Mewn datganiad dywed cwmni RML bod "trafferthion arogl yn yr ardal wedi lleiau [ond] mae'n ymddangos bod problemau'n parhau", er gwaethaf camau diweddar i ddatrys y sefyllfa.

"Rydym wedi cwblhau gwaith archwiliadol pellach i gadarnhau tarddiad yr arogl ac eisoes wedi dechrau gwaith peirianyddol i fynd i'r afael 芒'r mater," dywedodd.

"Rydym yn rhannu rhwystredigaeth cymunedau lleol bod y problemau hyn yn parhau, ac yn rhwystredig a siomedig bod ein gwaith hyd yn hyn heb ddatrys y sefyllfa yn 么l y disgwyl, ond hoffwn roi sicrwydd i bawb sy'n cael eu heffeithio gan arogleuon na fyddwn ni'n gorffwys nes cael ateb parhaol."

Mae'r cwmni'n cydweithio gyda CNC a pheirianwyr geotechnegol arbenigol ac yn bwriadu rhannu gwybodaeth gyson tra bo gwaith pellach yn mynd rhagddo hyd nes y dyddiad terfyn newydd.

Pynciau cysylltiedig