成人快手

Storm Bert: Cyhuddo Cyfoeth Naturiol o rybuddio pobl awr yn hwyr

Andrew Morgan
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Andrew Morgan yn dweud ei fod wedi 鈥渉erio鈥 CNC ar amseroedd y rhybuddion llifogydd yn ystod Storm Bert

  • Cyhoeddwyd

Gallai pobl a gafodd eu taro gan lifogydd yn ystod Storm Bert fod wedi cael eu rhybuddio awr cyn ei bod hi'n rhy hwyr, yn 么l arweinydd cyngor.

Fe welodd rhannau o dde Cymru lifogydd difrifol dros y penwythnos, ac mae gwleidyddion a phobl leol wedi dweud na fu rhybuddion digonol a phrydlon.

Fe wnaeth cartrefi a busnesau ym Mhontypridd ddioddef rhai o sgil effeithiau gwaethaf y tywydd garw, bedair blynedd ers i Storm Dennis daro'r dref.

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan, arweinydd cyngor Rhondda Cynon Taf, fod data Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi dangos lefelau uchel afonydd y cymoedd fwy nag awr cyn i drigolion Pontypridd gael eu rhybuddio.

Mewn ymateb dywedodd CNC eu bod wedi rhybuddio eu partneriaid a'r cyhoedd am y llifogydd ddydd Mercher, 20 Tachwedd.

Fe wnaeth Cyngor Rhondda Cynon Taf gyhoeddi digwyddiad difrifol oherwydd "llifogydd sylweddol" ar draws y sir dros y penwythnos.

Dywed y cyngor bod 200 eiddo wedi eu heffeithio, gyda gwerth mwy na mis o law yn disgyn mewn cyfnod byr iawn.

Dywedodd Andrew Morgan iddo gyfarfod 芒 CNC ddydd Mawrth a鈥檜 鈥渉erio鈥 ar amseroedd rhybuddion llifogydd ddydd Sul.

鈥淐yflwynais eu tystiolaeth eu hunain iddyn nhw, o鈥檜 hystadegau eu hunain yn CNC, oedd yn dangos - er enghraifft - bod lefelau afonydd yn y Gelli a Thynewydd yn y Rhondda, ac Aberd芒r, am 06:30 yn cyfateb i lefelau Storm Dennis,鈥 meddai.

鈥淎c eto, fe gymerodd awr ac 11 munud cyn i rybudd llifogydd gael ei roi i bobl Pontypridd.

鈥淓rbyn hynny鈥 roedd y d诺r eisoes droedfedd o ddyfnder yn y strydoedd ac roedd yr afon yn gorlifo.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth Afon Taf, sy'n llifo drwy Bontypridd, orlifo ar 24 Tachwedd

Dywedodd Mr Morgan nad yw鈥檙 systemau presennol ynghylch rhybuddion llifogydd yn gweithio.

鈥淥s yw鈥檙 systemau鈥檔 gweithio鈥檔 iawn, a bod y bobl hyn ddim wedi cael rhybudd nes bod d诺r yn eu tai, mae rhywbeth o鈥檌 le,鈥 ychwanegodd.

鈥淧e byddem ni wedi gwybod, gydag awr o rybudd, bod yna debygolrwydd o lifogydd, fe fydden ni wedi gwneud ein gorau glas i gael bagiau tywod yno o leiaf.鈥

Dywedodd yn flaenorol ei fod wedi ei "syfrdanu" mai dim ond rhybudd tywydd melyn gafodd ei roi yn ei le gan y Swyddfa Dywydd.

Dywedodd y Swyddfa y byddai'n cynnal asesiad llawn ond bod y storm wedi'i "rhagweld yn dda" gyda nifer o rybuddion wedi'u cyhoeddi.

Difrod 'gwerth miliynau o bunnoedd'

Mae ymgyrch lanhau fawr wedi bod ar waith yn y dref ers y storm.

Fe gafodd lido Pontypridd ar safle Parc Ynysangharad, lle gafodd yr Eisteddfod Genedlaethol ei chynnal eleni, ei gau oherwydd difrod.

Cafodd pont yn Abercynon, oedd yn cael ei thrwsio yn sgil difrod Storm Dennis, ei golchi i ffwrdd yn llwyr.

鈥淩y鈥檔 ni鈥檔 s么n am ddifrod gwerth miliynau o bunnoedd,鈥 meddai鈥檙 Cynghorydd Morgan.

鈥淢ae dwsinau ar ddwsinau o gontractwyr wedi glanhau鈥檙 strydoedd. Mae sgipiau y tu allan i dai pobl.

鈥淢ae cael hyn yn digwydd bedair wythnos cyn y Nadolig yn ofnadwy.鈥

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd nifer o siopau ar Heol y Felin, Pontypridd wedi eu difrodi

Ychwanegodd Mr Morgan y bydd cyngor RCT yn rhoi arian i bobl sydd wedi鈥檜 heffeithio gan Storm Bert o gronfeydd brys, gyda grantiau o 拢1,000 i fusnesau bach a chanolig, a thrigolion sydd wedi eu heffeithio.

Mae hynny ar ben cyllid Llywodraeth Cymru o 拢1,000 ar gyfer cartrefi heb yswiriant, a 拢500 i鈥檙 rhai sydd ag yswiriant

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan hefyd fod angen gwell rhybuddion llifogydd yng Nghymru.

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran CNC: "Ein neges i bartneriaid proffesiynol a鈥檙 cyhoedd o ddydd Mercher yr wythnos ddiwethaf, cyn Storm Bert, oedd bod llifogydd sylweddol yn bosibl ledled Cymru, ac i fod yn barod.

"Ar y dydd Gwener cyn y storm, wnaethon ni gyhoeddi datganiad i'r wasg a gafodd ei ddefnyddio yn eang yn rhybuddio am lifogydd eang posibl.

"Fe wnaethom gyhoeddi rhybudd llifogydd ar gyfer Afon Taf ym Mhontypridd ddydd Sadwrn yn rhoi rhybudd ymlaen llaw i bobl fod llifogydd yn bosibl, ac i fod yn barod.

"Yn gynnar fore Sul, disgynnodd law dwys iawn yn nalgylch Taf, gyda hyd at 160mm wedi'i gofnodi mewn rhai lleoliadau.

"Cafodd rhybudd llifogydd - sy'n nodi bod disgwyl llifogydd, a bod angen gweithredu ar unwaith - ei gyhoeddi ar gyfer Afon Taf ym Mhontypridd am 07:41 ddydd Sul pan gyrhaeddodd yr afon y lefel sy'n sbarduno rhybuddion llifogydd."

Pynciau cysylltiedig