Eurgain Haf yn ennill Medal Ryddiaith yr Eisteddfod

Disgrifiad o'r fideo, Dywedodd Eurgain Haf ei bod hi'n "brofiad gwefreiddiol, arallfydol" ennill y Fedal Ryddiaith

Eurgain Haf yw enillydd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024.

Daw yn wreiddiol o Benisarwaun yng Ngwynedd, ond erbyn hyn mae hi wedi ymgartrefu ym mro'r Eisteddfod ym Mhontypridd.

Daeth Eurgain, dan y ffugenw Manaia, i'r brig mewn cystadleuaeth a ddenodd 14 o ymgeiswyr.

Testun y gystadleuaeth oedd cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun Newid.

Y beirniaid oedd Annes Glynn, John Roberts ac Elen Ifan.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

Disgrifiad o'r llun, Eurgain Haf ar y llwyfan gyda chopi o'i chyfrol, Y Morfarch Arian

Mae Eurgain yn gweithio ym maes cyfathrebu a PR, ac fe dreuliodd 10 mlynedd yn Adran y Wasg S4C cyn cael ei phenodi'n uwch reolwr y wasg a鈥檙 cyfryngau i elusen Achub y Plant Cymru.

Daw o Benisarwaun yn Eryri yn wreiddiol, ond mae hi bellach yn byw ym Mhontypridd gyda鈥檌 g诺r Ioan, eu dau o blant - Cian Harri a Lois Rhodd - a chi o鈥檙 enw Cai Clustia鈥.

Cafodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Tan-y-Coed, Penisarwaun ac yna Ysgol Uwchradd Brynrefail, Llanrug, ble y daeth dan ddylanwad ei hathrawon Cymraeg - Esyllt Maelor a鈥檙 diweddar Alwyn Pleming - a鈥檌 hanogodd i ysgrifennu.

Aeth ymlaen i Brifysgol Aberystwyth ble y graddiodd yn y Gymraeg a Drama ac yna mynd ati i gwblhau gradd MPhil Drama.

Mae hi wedi ennill sawl gwobr lenyddol yn y gorffennol, gan gynnwys Coron Eisteddfod yr Urdd, coron Eisteddfod M么n a鈥檙 Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Dyffryn Ogwen.

Mae Eurgain hefyd yn gyn-enillydd y Fedal Ddrama yn yr Eisteddfod Ryng-golegol ac fe berfformiwyd ei drama fer, Cadw Oed, fel rhan o gynhyrchiad teithiol Sgript Cymru yn 2005.

Mae hi wedi cyhoeddi 12 o lyfrau ar gyfer plant.

'Dwy arall yn dynn ar ei sodlau'

Dywedodd John Roberts yn ei feirniadaeth: 鈥淢ae gan Manaia allu i ysgrifennu yn gynnil ond lliwgar a bywiog, ac mae鈥檙 cymeriadau yn grwn ac yn gyfan.

"Dyma gymeriadau sydd yn aros gyda鈥檙 darllenydd a dyma ysgrifennu synhwyrus, dychmygus sydd yn defnyddio hiwmor, cynhesrwydd a thensiwn.

"Manaia聽sy鈥檔 dod i鈥檙 brig a鈥檙 ddwy nofel arall yn dynn ar ei sodlau.鈥

Disgrifiad o'r llun, John Roberts fu'n traddodi'r feirniadaeth o lwyfan y Pafiliwn ddydd Mercher

Yn ei beirniadaeth hi dywedodd Annes Glynn: 鈥淣id nofel drom, lafurus mo hon.

"Mae dawn yr awdur i newid cywair yn effeithiol, y cyfuniad o dosturi a hwyl, a鈥檙 fflachiadau cynnil o hiwmor - rhywbeth digon prin yn y gystadleuaeth - yn ei chadw rhag disgyn i鈥檙 pydew hwnnw.

"Mae鈥檔 llenor sy鈥檔 gwybod pryd i roi鈥檙 br锚cs ymlaen ac yn ddigon hyderus yn ei allu ei hun ac yng nghrebwyll y darllenydd."

Ychwanegodd Elen Ifan: 鈥淢ae鈥檙 ysgrifennu yn gadarn: ceir disgrifiadau cywrain a barddonol ar adegau, cymeriadu cryf, plotio da, a deialog gredadwy drwyddi draw.

鈥淢ae鈥檙 nofel hon yn ei chyfanrwydd, a鈥檌 chymeriadau yn arbennig, yn cyfareddu, ac yn aros gyda鈥檙 darllenydd am gyfnod hir wedi鈥檌 darllen."

Cyflwynwyd y Fedal gan Clochdar, papur bro Cwm Cynon, er cof am Idwal Rees, pennaeth cyntaf Ysgol Gynradd Gymraeg Aberd芒r, a鈥檙 wobr ariannol o 拢750, gan Gymdeithas Gymraeg Rhiwbeina.