'Dysgu Iaith y Nef i Jess Fishlock'

Ffynhonnell y llun, Lluniau Boom

"Ai fi yw’r un i roi Jess Fishlock ar ben ffordd gyda’r Gymraeg? A fydd fy Llan‘ari Welsh yn taro deuddeg gyda‘r ferch o Lanrumney?"

Mae'r cyflwynydd Catrin Heledd yn hen law ar holi sêr y byd chwaraeon. Ond sut brofiad oedd treulio wythnos gyfan gyda cyn gapten Cymru er mwyn ei dysgu a'i hysbrydoli i siarad iath y nef?

A hithau’n Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg mae Catrin yn edrych yn ôl ar yr her o ddysgu’r iaith i un o bêl-droedwyr mwyaf adnabyddus Cymru.

Ping - y ffôn yn dirgrynnu yn fy mhoced. Neges destun gan gwmni teledu Boom. Difyr...

‘‘Fydde‘ gen ti ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y gyfres nesaf o Iaith ar Daith… gyda Jess Fis.…?“

OES!

Does dim angen darllen mwy. I’m IN!

Seren

Jess Fishlock – lle ma‘ dechrau? Ma hi‘n eicon. Un sydd wedi sicrhau ei lle yn y llyfrau hanes ac yn oriel anfarwolion ei champ.

I’r genhedlaeth nesaf o bêl-droedwyr, yn fechgyn neu’n ferched, mae’n ysbrydoliaeth - yn cŵl gyda’i undercut ond hefyd yn brawf bod dycnwch a gwaith caled yn talu ar ei ganfed.

Cymraes i’r carn sydd - fel y ddraig goch ar ei chrys - yn danllyd, yn angerddol ac yn llawn brwydr.

Gulp.

Nid ar chwarae bach mae rhywun yn ymroi â sialens fel hyn – un cam mas o le a ma‘ posib gelyniaethu darpar siaradwr newydd. ‘Dwi am iddi gofledio, nid casau y rhodd (dwi’n gobeithio!) ei rhoi.

Ffynhonnell y llun, FAW

Dwi’n hen gyfarwydd â Jess y pêl-droediwr, wedi dilyn ei gyrfa dros y blynyddoedd ac wedi ei chyfweld sawl gwaith ar ddiwedd emosiwn gêm. Ond mae’r cyfle i dreulio wythnos yn ei chwmni yn un sy’n cyffroi - i ddymchwel y ffiniau anochel sy’n bodoli rhwng newyddiadurwr a chwaraewr rhyngwladol.

A dydy hi ddim yn siomi. Mae hi’n hyfryd – yn hwyl. Mewn wythnos lle mae hi wedi teithio o America i chwarae dwy gêm ryngwladol, torri record sgoriwr goliau Cymru a chael gradd anrhydeddus ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth, mae hi’n ymroi 100% i’r her. Fe fyddai eraill wedi ymlâdd.

Ond mae’r pêl-droedwyr proffesiynol ‘ma yn gymeriadau unigryw. Dyna pam eu bod nhw’n cyrraedd y brig.

Prin oedd Cymraeg Jess ar ddechrau’r daith - er mae angen rhoi clod arbennig i gapten newydd Cymru Angharad James. Am arweinydd! Yn ei rhoi ar ben ffordd yn ystod eu cyfnod gyda’r garfan genedlaethol yr wythnos flaenorol. Gwych gweld!

Wna i ddim datgelu gormod am yr hyn fuon ni’n ei wneud wrth deithio’r wlad ond gyda dwy sy’n ymwneud â chwaraeon yn mynd ben-ben a’i gilydd... wel, beth ych chi’n ei ddisgwyl ond elfen gystadleuol i’r dysgu?

O’r padel i’r pêl-droed Americanaidd ‘s'dim angen gradd anrhydeddus i weithio mas taw yr un seren odd yn dod i’r brig bob tro! Gutted.

Pan mae rhywun yn ymroi i sialens newydd yn aml mae’r cwestiwn yn codi. Pam? Pam bod Jess sy’n byw gyda’i gwraig filoedd o filltiroedd i ffwrdd yn America eisiau dysgu Cymraeg?

Ffynhonnell y llun, Lluniau Boom

Disgrifiad o'r llun, Un o heriau'r ddwy ar raglen Iaith ar Daith

Ysbrydoliaeth

Wel, mae’r map o Gymru sy’n datw ar ei braich yn ateb hynny ond hefyd mae’n egluro wrtha i – er mwyn ei theulu.

Mae ei neiant yn siarad Cymraeg yn yr ysgol ac fe fyddai'n gallu cynnal sgwrs â nhw. Ac mae cynnal y Gymraeg i’r genhedlaeth nesaf yn fraint, meddai.

Felly dyna freuddwyd Jess.

Fy mreuddwyd i? Gallu troi ati ar ddechrau Rhagfyr ar chwiban ola’ rownd derfynol gemau ail gyfle yr Ewros a’i llongyfarch - yn y Gymraeg wrth gwrs - ar greu hanes eto! Y garfan gyntaf erioed o ferched Cymru i gyrraedd rowndiau terfynol un o’r prif gystadleuaethau.

Mae taith wahanol gan Jess a’r criw cyn bod hynny’n digwydd... ond maen nhw yn agos - yn agos iawn y tro hyn!

Fe fydd Iaith ar Daith Jess Fishlock i’w gweld ar S4C nos Sul 20 Hydref. Mae modd gwylio y gyfres i gyd ar ³ÉÈË¿ìÊÖ iplayer.