³ÉÈË¿ìÊÖ

Crynodeb

  • 8,124 o achosion wedi'u cadarnhau yng Nghymru, a 624 wedi marw gyda Covid-19

  • Galw am wneud teithio i ail gartrefi yn anghyfreithlon

  • Merch i ddyn o Abersoch fu farw gyda coronafeirws yn erfyn ar bobl i gadw draw

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 18:01 Amser Safonol Greenwich+1 22 Ebrill 2020

    Dyna'r cyfan gan dîm y llif byw.

    Fe fe fyddwn ni nôl bore fory gyda'r diweddaraf am coronafeirws yng Nghymru.

    Cofiwch bydd modd cael y newyddion diweddaraf ar ein hafan yn y cyfamser.

    Diolch am ddilyn, a hwyl am y tro!

  2. Vaughan Gething yn ymddiheurowedi ei gyhoeddi 17:57 Amser Safonol Greenwich+1 22 Ebrill 2020

    Twitter

    Mae'r gweinidog iechyd Vaughan Gething wedi anfon trydar yn ymddiheuro am regi yn ystod cyfarfod rhithwir o'r Senedd.

    Roedd o wedi anghofio diffodd ei meic pan wnaeth y sylw.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. Teyrnged i weithiwr iechydwedi ei gyhoeddi 17:50 Amser Safonol Greenwich+1 22 Ebrill 2020

    Mae Bwrdd Iechyd Bae Abertawe wedi bod yn rhoi teyrnged i aelod o staff a fu farw o Covid-19.

    Roedd Sharon Bamford yn gynorthwyydd ar ward onocoleg yn Ysbyty Singleton. Yn ddiweddar bu farw ei gŵr, Malcolm, hefyd o'r haint.

    Bu'r ddau yn cael triniaeth yn uned gofal ddwys Ysbyty Treforys.

    Fe wnaeth eu mab Christian hefyd ddioddef o Covid-19 ond mae o wedi gwella.

    "Roedd gan gleifion feddwl mawr o Sharon, ac roedd staff a'i ffrindiau yn ei charu'n fawr," meddai llefarydd.

  4. Bale yn rhoi £500,000 i fwrdd iechydwedi ei gyhoeddi 17:38 Amser Safonol Greenwich+1 22 Ebrill 2020

    Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

    Mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro wedi datgelu eu bod wedi derbyn rhodd o £500,000 gan Gareth Bale a'i wraig Emma.

    Gwnaed y cyhoeddiad ar dudalen Facebook y bwrdd iechyd.

    Gareth Bale
  5. Beth am daith rithwir i'r amgueddfa?wedi ei gyhoeddi 17:23 Amser Safonol Greenwich+1 22 Ebrill 2020

    Mewn cyfres o ddigwyddiadau ar wefan Twitter mae ymgais i roi blas i bobl o gynnwys amgueddfeydd... a tro Cymru yw hi heddiw!

    Dilynnwch y ddolen isod am gyfle i weld yr hyn sydd gan amgueddfeydd Cymru i'w gynnig, a hynny heb adael eich soffa.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  6. Ysbyty Llandarcywedi ei gyhoeddi 17:07 Amser Safonol Greenwich+1 22 Ebrill 2020

    Cyngor Castell-nedd Port Talbot

    Ysbyty LLandarcyFfynhonnell y llun, Cyngor Castell-nedd Port Talbot

    Yn ardal Abertawe, fe fydd Academi Chwaraeon Llandarcy yn cael ei ddefnyddio fel ysbyty ar gyfer cleifion sy'n gwella o Covid-19.

    Pan fydd yr holl waith wedi ei gwblhau mae disgwyl iddo ddarparu hyd at 1,340 o wlâu ychwanegol.

  7. Bywyd 'diflas' heb ddulliau cyfathrebu dibynadwywedi ei gyhoeddi 17:02 Amser Safonol Greenwich+1 22 Ebrill 2020

    Pentref heb gyswllt band eang cyflym na signal ffôn cryf ar adeg pan mae pawb yn gorfod aros adre.

    Read More
  8. O diar, Vaughan Gething i'w glywed yn rhegiwedi ei gyhoeddi 16:49 Amser Safonol Greenwich+1 22 Ebrill 2020

    Cynulliad Cenedlaethol Cymru

    Yn ystod cyfarfod rhithwir y Senedd, clywyd rheg gan y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething.

    Roedd e newydd orffen ateb cwestiwn gan Jenny Rathbone, hefyd o'r Blaid Lafur, a gan beidio sylweddoli bod ei feicroffon dal ymlaen clywyd ef yn dweud wrth berson arall "what the **** is the matter with her" a hynny cyn i'r llywydd Elin Jones alw am ddiffodd ei gyfarpar.

    Roedd Jenny Rathbone newydd fynegi pryderon y gwyddonydd Syr Martin Evans am yr ymateb i coronafeirws ac roedd hi hefyd wedi gofyn beth oedd y teimladau am ailddefnyddio cyfarpar PPE, ynghyd â mwy o wybodaeth am brofi adre a'r posibilrwydd o gael uned symudol i brofi mewn cartrefi gofal.

    senedd
    Disgrifiad o’r llun,

    Ymateb rhai o'r ACau wedi iddynt glywed sylwadau Vaughan Gething

  9. 'Dim modd osgoi dirwasgiad'wedi ei gyhoeddi 16:46 Amser Safonol Greenwich+1 22 Ebrill 2020

    Cynulliad Cenedlaethol Cymru

    Yn y cyfarfod llawn rhithwir o'r Senedd mae Gweinidog yr Economi, Ken Skates, yn rhybuddio nad oes modd osgoi dirwasgiad ond dywedodd bod yn rhaid i lywodraethau ar draws y DU amddiffyn busnesau rhag y storm a diogelu gweithwyr rhag diweithdra".

    Dywedodd bod Cronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru - a gafodd ei lansio ddydd Gwener diwethaf - wedi derbyn hyd yma 8,109 cais - cyfanswm o £184m.

    "Mae'r galw yn dangos maint yr argyfwng," ychwanegodd.

    ken skates
  10. Diolch o galonwedi ei gyhoeddi 16:33 Amser Safonol Greenwich+1 22 Ebrill 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. Teyrnged arbennig i ffermwr adnabydduswedi ei gyhoeddi 16:14 Amser Safonol Greenwich+1 22 Ebrill 2020

    Mae angladd ffermwr adnabyddus o Bowys a fu farw ddechrau'r mis wedi ei chynnal ddydd Mercher.

    Bu farw Richard Tudor mewn damwain tractor wrth iddo weithio ar dir ei fferm yn Llanerfyl ger Llanfair Caereinion,

    O dan y cyfyngiadau presennol i geisio lleihau lledaeniad y coronafeirws, nid oedd ffrindiau ac aelodau'r gymuned ehangach yn cael mynd i'r angladd.

    Ond trwy negeseuon ar wefannau cymdeithasol fe wnaeth pobl yn Llanerfyl a Dyffryn Banw drefnu ffordd o dalu teyrnged iddo.

    Fe benderfynon nhw yfed gwydryn o laeth iddo am 15:00 fel arwydd o barch, a chydnabyddiaeth o'r ffaith bod fferm Richard Tudor wedi newid i fod yn fferm laeth yn ystod yr wythnosau cyn ei farwolaeth.

    Richard TudorFfynhonnell y llun, LLUN TEULU
    Disgrifiad o’r llun,

    Richard Tudor

  12. "Arhoswch adre," medd Drakefordwedi ei gyhoeddi 15:58 Amser Safonol Greenwich+1 22 Ebrill 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  13. Ffrae rhwng llywodraethau am brofion coronafeirwswedi ei gyhoeddi 15:42 Amser Safonol Greenwich+1 22 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru'n taro nôl ar ôl beirniadaeth am roi'r gorau i dargedau profi Covid-19.

    Read More
  14. Newid rheolau ymarfer corff i helpu plant awtistig ac eraillwedi ei gyhoeddi 15:27 Amser Safonol Greenwich+1 22 Ebrill 2020

    Cynulliad Cenedlaethol Cymru

    Er mwyn helpu plant awtistig a phlant sydd ag anghenion meddygol eraill bydd rheolau ymarfer corff yn ystod haint coronafeirws yn cael eu newid yng Nghymru.

    Yn ystod y cyfarfod llawn rhithwir, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, bod angen adolygu'r rheolau bob 21 diwrnod ac y bydd y newid yma yn digwydd yn ystod yr adolygiad nesaf.

    Roedd e'n ateb cwestiwn gan yr aelod Ceidwadol, Mark Isherwood, a ofynnodd a oedd hi'n bosib i'r rheolau yng Nghymru ddilyn patrwm Lloegr lle mae mwy o ymarfer corff yn cael ei ganiatáu mewn rhai amgylchiadau.

  15. Arwyddion o ddiolchwedi ei gyhoeddi 15:24 Amser Safonol Greenwich+1 22 Ebrill 2020

    Mae contractwyr ar ran Cyngor Caerdydd wedi bod yn paentio arwyddion newydd ar ffyrdd sy'n arwain tuag at Ysbyty Athrofaol Cymru yn y brifddinas.

    diolchFfynhonnell y llun, Cyngor Caerdydd
  16. Marwolaethau yn y DUwedi ei gyhoeddi 15:11 Amser Safonol Greenwich+1 22 Ebrill 2020

    Mae 763 o bobl eraill wedi marw gyda coronafeirws ar draws ysbytai’r DU ar ôl profi’n bositif am Covid-19, yn ôl ffigyrau diweddaraf Llywodraeth y DU.

    Mae'n cymryd y cyfanswm i 18,100.

    Nid yw'r ffigyrau'n cynnwys marwolaethau yn y gymuned, mewn llefydd fel cartrefi gofal.

  17. Ysgrifennydd Cymru y cyntaf i gael ei holi dros y wewedi ei gyhoeddi 15:04 Amser Safonol Greenwich+1 22 Ebrill 2020

    Dywedodd Simon Hart na ddylai ASau geisio "sgorio pwyntiau gwleidyddol" yn y frwydr yn erbyn Covid-19.

    Read More
  18. 'Ymwybodol o bwysau gweithwyr rheng flaen'wedi ei gyhoeddi 15:01 Amser Safonol Greenwich+1 22 Ebrill 2020

    Cynulliad Cenedlaethol Cymru

    Yng nghyfarfod llawn y Senedd, dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, ei fod yn gwbl ymwybodol o'r pwysau y mae staff rheng flaen wedi'i wynebu yn sgil ansicrwydd am gyfarpar angenrheidiol.

    Dywedodd bod sicrhau cyflenwad parhaus o gyfarpar amddiffyn PPE yng Nghymru yn cynnwys:

    • cydweithio gyda chenhedloedd eraill y DU i sicrhau cyflenwadau newydd
    • sicrhau mwy o gyflenwadau PPE drwy'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol
    • a chydweithio â busnesau Cymreig i gynhyrchu cyfarpar PPE yng Nghymru."

    vaughan gething
  19. 'Dim dychwelyd sydyn i'r hen ffordd o fyw'wedi ei gyhoeddi 14:52 Amser Safonol Greenwich+1 22 Ebrill 2020

    Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud wrth aelodau'r cynulliad fod y bygythiad o coronafeirws "ymhell o fod ar ben".

    "Yn anffodus bydd bywydau'n dal i gael eu colli yn y dyddiau i ddod," meddai.

    Dywedodd y byddai penderfyniadau i leddfu cyfyngiadau yn cael eu gwneud dim ond pan oedd y dystiolaeth feddygol a gwyddonol yn glir "bod yr amser yn iawn i wneud hynny".

    "Bydd y broses yng Nghymru yn ofalus ac yn raddol," meddai Mr Drakeford. "Ni all fod unrhyw ddychwelyd sydyn i'r ffordd o fyw yr oeddem yn mwynhau cyn i'r pandemig ddechrau."

  20. Cyntaf i adael Ysbyty Gwyneddwedi ei gyhoeddi 14:37 Amser Safonol Greenwich+1 22 Ebrill 2020

    Mae dyn o Gaergybi wedi cyrraedd adre ar ôl derbyn triniaeth am dair wythnos yn yr ysbyty am coronafeirws.

    Brian Davies, gyrrwr tacsi 69 oed, yw'r claf cyntaf o gael mynd adre o Ysbyty Gwynedd ym Mangor yn dilyn triniaeth lwyddiannus yn y ward gofal dwys.

    Cafodd ei gymeradwyo gan staff oedd wedi ei drin pan adawodd yr ysbyty ddydd Llun.

    brian davies