成人快手

Chwe Gwlad: 'Rhaid cynnig y gemau yn y Gymraeg yn llawn' - ASau

  • Cyhoeddwyd
G锚m rygbiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ar hyn o bryd mae gemau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn cael eu dangos ar y 成人快手, ITV ac S4C

Rhaid cynnig gemau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad "yn y Gymraeg yn llawn" mewn darllediadau teledu am ddim, meddai adroddiad gan bwyllgor diwylliant a chwaraeon Senedd Cymru.

"Mae darlledu'n Gymraeg yn hanfodol, nid yn unig o ran cynnig dewis i siaradwyr Cymraeg, ond hefyd er mwyn hyrwyddo'r Gymraeg i siaradwyr a dysgwyr fel ei gilydd wrth inni weithio tuag at darged Cymraeg 2050," meddai cadeirydd y pwyllgor, Delyth Jewell.

Dylid symud Pencampwriaeth y Chwe Gwlad i restr o ddigwyddiadau chwaraeon sydd wedi'u diogelu ar gyfer darlledu ar wasanaethau am ddim, meddai'r ASau.

Mae'r pwyllgor am i'r bencampwriaeth gael ei symud i Gr诺p A o ddigwyddiadau mawr sy'n cael eu cynnig i sianeli daearol.

Byddai hyn yn golygu y byddai'r Chwe Gwlad yn ymuno 芒'r Gemau Olympaidd, y Gemau Paralympaidd, rownd derfynol Cwpan Rygbi'r Byd, rowndiau terfynol Cwpan y Byd FIFA a rowndiau terfynol Pencampwriaeth B锚l-droed Ewrop (rowndiau terfynol y dynion a'r menywod).

Mae Gr诺p A hefyd yn cynnwys digwyddiadau megis rowndiau terfynol tenis Wimbledon a'r Derby.

Ar hyn o bryd mae'r Chwe Gwlad yng Ngr诺p B, sy'n golygu bod modd darlledu gemau byw ar wasanaethau tanysgrifio ar yr amod fod uchafbwyntiau'n cael eu cynnig i sianeli am ddim.

Mae digwyddiadau Gr诺p B hefyd yn cynnwys pob g锚m arall yng Nghwpan Rygbi'r Byd, a Gemau'r Gymanwlad.

Ond dywedodd prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney, wrth y pwyllgor y byddai newid o'r fath yn cael effaith niweidiol ar rygbi Cymru.

Ffynhonnell y llun, Mark Lewis/Huw Evans Agency
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Abi Tierney bod 26% o incwm Undeb Rygbi Cymru dros y pum mlynedd ddiwethaf wedi dod o hawliau darlledu

Ym mis Ionawr, fe wnaeth Llywodraeth y DU gyhoeddi nad oes unrhyw gynlluniau i orfodi'r undebau rygbi i wneud gemau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar gael ar sianeli teledu di-d芒l yn unig.

Ond dywedodd Delyth Jewell AS, oedd yn arwain yr adolygiad: "mae gan rygbi r么l unigryw yn ein bywyd cenedlaethol, ac mae lle arbennig i dwrnamaint y Chwe Gwlad yng nghalonnau cynulleidfaoedd Cymru. Roedd hyn ar flaenau ein meddyliau wrth ddod i'r penderfyniad i alw am ei ddiogelu fel darllediad rhad ac am ddim.

"Rydym wedi clywed yn blwmp ac yn blaen am yr heriau sy'n wynebu'r gamp wrth i nifer y bobl sy'n chwarae rygbi leihau yng Nghymru. Rydym hefyd wedi clywed pryderon ynghylch effaith gosod y twrnamaint y tu 么l i wal dalu a sut y gall hyn effeithio ar y nifer o bobl sy'n chwarae rygbi - yng ngeiriau un o'r bobl fu'n siarad 芒 ni 'rhaid i chi ei weld, er mwyn ei wneud'."

Cyfeiriodd Ms Jewell at "yr effeithiau niweidiol" o ganlyniad i roi criced yn y DU y tu 么l i wal dalu yn 2006.

Rhwng 2006 a 2015, bu gostyngiad o 32% yn nifer y bobl sy'n chwarae criced.

"Allwn ni ddim gadael i'r un peth ddigwydd i rygbi," meddai.

Cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan ei adroddiad ar ddarlledu yng Nghymru ym mis Hydref 2023, gan argymell y "dylai'r Llywodraeth ychwanegu Pencampwriaeth y Chwe Gwlad at Gr诺p A o'r Digwyddiadau Chwaraeon Rhestredig, er mwyn sicrhau ei statws ar deledu daearol".

Ond gwrthododd Llywodraeth y DU yr argymhellion hyn.

Dywedodd Six Nations Rugby Limited ei bod yn bwysig cael cydbwysedd rhwng cyrhaeddiad a chynhyrchu refeniw er mwyn caniat谩u i gyrff llywodraethu rygbi ailfuddsoddi ar draws y g锚m.

Rhannwyd y farn honno gan yr Association for Commercial Broadcasters and On-Demand Services ("COBA") a ddywedodd fod cystadleuaeth am hawliau yn hollbwysig er mwyn buddsoddi mewn chwaraeon ar lawr gwlad.