Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Rhoddion ymgyrch Gething: Gwrthod ymchwiliad annibynnol
Mae'r prif weinidog wedi gwrthod gorchymyn ymchwiliad annibynnol i'w benderfyniad i dderbyn £200,000 gan gwmni sy'n eiddo i ddyn a gafwyd yn euog o dipio gwastraff yn anghyfreithlon.
Dywedodd Vaughan Gething nad oedd "unrhyw wrthdaro buddiannau" wrth dderbyn yr arian gan Dauson Environmental Group, sydd â dyled o £400,000 i Fanc Datblygu Cymru, sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru.
Gorfodwyd Mr Gething i amddiffyn y rhoddion am yr ail wythnos yn olynol yn Senedd Cymru, wrth iddo wynebu cyhuddiadau fod ei grŵp wedi ei hollti dros y mater.
Rhybuddiodd Plaid Cymru fod y saga yn atgoffa pobl o lefelau "llygredd" San Steffan.
Wedi'i amgylchynu gan wleidyddion Llafur tawel, gwadodd Mr Gething fod ganddo egwyddorion gwahanol i'w gyn-wrthwynebydd am yr arweinyddiaeth Jeremy Miles, sydd wedi dweud y byddai wedi gwrthod y rhodd.
Adolygiad, ond nid ymchwiliad
Yn y cyfamser, cyhoeddwyd y bydd y cyn-brif weinidog Carwyn Jones yn arwain adolygiad o roddion ymgyrch arweinyddiaeth i Lafur Cymru.
Nid yw union gylch gorchwyl yr adolygiad wedi'i gadarnhau eto.
Bydd yr adolygiad hefyd yn edrych ar enwebiadau, cyfathrebu ag aelodau'r blaid a hyd y cystadlaethau.
Addawodd Mr Gething i'r Senedd y bydd adolygiad Mr Jones yn cael ei gyhoeddi.
Derbyniodd Mr Gething £200,000 ar gyfer ei ymgyrch arweinyddiaeth gan gwmni sy'n cael ei redeg gan ddyn a gafwyd yn euog ddwywaith am droseddau amgylcheddol.
Cafodd David Neal ddedfryd o garchar wedi'i gohirio yn 2013 am dipio gwastraff yn anghyfreithlon ar safle cadwraeth.
Fe wnaeth Mr Gething - Aelod Senedd De Caerdydd a Phenarth - drechu Jeremy Miles o drwch blewyn i ddod yn brif weinidog fis diwethaf.
Mae Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw am adolygiadau annibynnol.
Mae'r Ceidwadwyr wedi dweud ei bod hi'n debygol bod Mr Gething wedi torri cod y gweinidogion.
Ond dywedodd Mr Gething mewn llythyr at Andrew RT Davies: "Ni fyddaf yn comisiynu unrhyw gyngor pellach nac ymchwiliad annibynnol."
Mae arweinydd Llafur Cymru wastad wedi mynnu bod y rhoddion wedi'u datgan a'u cofrestru yn y ffordd gywir ac na fyddai'n dychwelyd yr arian.
Gwahaniaeth mewn egwyddor?
Yn sesiwn Cwestiynau i'r Prif Weinidog ddydd Mawrth, fe wnaeth Mr Davies ofyn a oedd yna wahaniaeth mewn egwyddor rhyngddo ef a Jeremy Miles.
"'Dw i ddim yn meddwl bod 'na wahaniaeth mewn egwyddor o gwbl," meddai Mr Gething wrth arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.
Dywedodd fod yr holl roddion wedi'u cofrestru a'u cofnodi, a dywedodd fod pwyllgor gwaith Llafur Cymru wedi cael "cyfarfod cytûn a chadarnhaol iawn" pan wnaethon nhw gytuno ar adolygiad o reolau ymgyrch yr arweinyddiaeth.
Dywedodd Mr Davies y byddai "person rhesymol… yn dweud bod yna wrthdaro buddiannau posib yno".
Ond dywedodd Mr Gething y bydd gan "berson rhesymol ddiddordeb yn y ffeithiau" - gan ddweud bod Banc Datblygu Cymru yn gwneud penderfyniadau "hollol annibynnol ar Lywodraeth Cymru".
Dywed Mr Davies ei fod yn cael "effaith andwyol ar y llywodraeth" ac mae'n galw am ymchwiliad llawn, annibynnol i fynd i'r afael â'r pryderon am gyllid ei ymgyrch.
Fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth ofyn i Mr Gething a oedd wedi cwestiynu o ble ddaeth yr arian.
"A gafodd wybod am orffennol troseddol y rhoddwr a dweud nad oes ots? 'Fe gymeraf yr arian beth bynnag', ac os felly mae hynny'n codi cwestiynau sylfaenol," meddai.
"Neu ai er gwaethaf maint y rhodd hon, nid oedd yn meddwl gofyn am ddiwydrwydd dyladwy? Byddai hynny eto, yn farn wael iawn."
'Ni all hyd yn oed uno ei blaid ei hun'
Dywedodd Mr Gething fod "yr holl ddiwydrwydd dyladwy wedi'i wneud ynghylch a oedd hwn yn rhoddwr a ganiateir y gellid derbyn arian ganddo."
Ychwanegodd bod prosesau ar waith i sicrhau na all ymgeiswyr yn yr etholiad arweinyddiaeth wneud dewisiadau am fusnesau rhoddwyr.
Dywedodd Mr ap Iorwerth fod Mr Gething wedi sôn am fod eisiau arwain gwlad "llawn gobaith, uchelgais ac undod".
"Ni all hyd yn oed uno ei blaid ei hun ynghylch a oedd yn iawn ai peidio."
Dywedodd Mr Gething fod pwyllgor gwaith Llafur Cymru - swyddogion y blaid a gytunodd ar yr adolygiad - "wedi bod yn unedig iawn".
Pan ofynnwyd iddo gan arweinydd Plaid Cymru a fyddai'n ymrwymo i wneud y canfyddiadau'n gyhoeddus, dywedodd Mr Gething bod ganddo "ddim amheuaeth o gwbl" y bydd adolygiad Carwyn Jones "yn y parth cyhoeddus".