Rhoddion ymgyrch Gething: 'Dim effaith ar gais cynllunio'
- Cyhoeddwyd
Mae un o weinidogion Llywodraeth Cymru yn dweud na fydd rhoddion dadleuon i ymgyrch arweinyddiaeth Vaughan Gething yn effeithio ar ei phenderfyniad ynghylch cais cynllunio gan fusnes y rhoddwr.
Yn ei ymgyrch i olynu Mark Drakeford fel arweinydd Llafur Cymru a Phrif Weinidog Cymru, fe dderbyniodd Mr Gething 拢200,000 gan y cwmni Dauson Environmental Group.
Mae'r cwmni hwnnw, sy'n eiddo i ddyn sydd wedi ei erlyn ddwywaith am droseddau amgylcheddol, yn gobeithio codi fferm solar ar Wastadeddau Gwent.
Gan ei fod 芒 statws Datblygiad o Arwyddoc芒d Cenedlaethol, byddai angen i Lywodraeth Cymru gymeradwyo'r cynllun.
A hithau newydd ei phenodi'n Ysgrifennydd Tai, Llywodraeth Leol a Chynllunio, Julie James fydd yn ystyried y cais.
Mewn ymateb i gwestiwn a oedd penderfyniad Mr Gething i dderbyn yr arian wedi ei rhoi mewn sefyllfa anodd, atebodd: 'Na. Mae ceisiadau cynllunio unigol yn cael eu trin yn 么l eu teilyngdod.
"Rwy'n gwybod dim am y cais yna. Fe allai ein sicrhau'n llwyr na fydd wnelo'r prif weinidog dim ag e, a fyddwn i heb dderbyn y job petawn ni'n meddwl bod yna broblem."
Fe fyddai'r datblygiad yn Nhredelerch, yng Nghaerdydd ar safle gwarchodaeth o ddiddordeb gwyddonol arbennig.
Fel yr Aelod o'r Senedd lleol, ni fyddai modd i Vaughan Gething benderfynu ar y cynllun.
Yn ystod y ras am yr arweinyddiaeth, fe ddaeth y 成人快手 Newswybod nad oedd Mr Gething yn gwybod am y cais cynllunio pan dderbyniodd y rhodd.
Ardal apelgar i ddatblygwyr
Mae datblygiadau ar Wastadau Gwent yn ddadleuol, ac mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod dau gais arall yn ddiweddar i godi ffermydd solar ar sail bioamrywiaeth.
Fe gafodd cynllun ffordd liniaru'r M4 ei wrthod hefyd yn 2019 oherwydd ffactorau amgylcheddol.
Mae'r ardal yn apelgar i ddatblygwyr ffermydd solar yn rhannol am fod y peilonau sydd yno yn gwneud hi'n hawdd i gysylltu gyda' grid cenedlaethol.
Dydy cwmni Dauson, sy'n cael ei redeg gan David Neal, heb gyflwyno cais cynllunio llawn eto ond mae'n fwriad i wneud hynny yn ystod tri mis olaf 2024.
Wedi i Mr Gething ddod yn arweinydd ei blaid, fe alwodd Julie James am adolygu rheolau rhoddion ymgyrch, ac fe wnaeth Mr Gething addewid y byddai hynny'n digwydd.
Dywedodd Ms James ei bod yn falch o hynny, ond bod angen i'r adolygiad "wneud nifer o bethau" a bod y rheolau presennol yn "gymylog".
Mae Mr Gething wedi mynnu o'r dechrau bod rhoddion i'w ymgyrch wedi eu cofnodi'n gywir.
Mae Politics Wales yma ar iPlayer.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mawrth
- Cyhoeddwyd17 Mawrth
- Cyhoeddwyd29 Chwefror
- Cyhoeddwyd22 Chwefror
- Cyhoeddwyd21 Chwefror