Chwe Gwlad: Bevan yn dychwelyd i herio Iwerddon
- Cyhoeddwyd
Mae Keira Bevan yn dychwelyd i'r 15 cychwynnol wrth i Ioan Cunningham wneud pedwar newid i d卯m Cymru fydd yn wynebu Iwerddon ddydd Sadwrn ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Bu'n rhaid i'r mewnwr profiadol fodloni ar le ar y fainc ar gyfer y g锚m yn erbyn Lloegr, cyn dod ymlaen a thirio yn yr ail hanner ym Mryste.
Mae Jasmine Joyce wedi'i chynnwys ar 么l tynnu n么l yn hwyr o'r g锚m yn erbyn y Saeson, ynghyd ag Alisha Butchers a Sisilia Tuipulotu, ac fe allai fod yn ddiwrnod arbennig i'r wythwr Gwenan Hopkins fydd yn ennill ei chap cyntaf o'r fainc.
Mae Cymru ar waelod y tabl ar hyn o bryd wedi iddyn nhw golli g锚m agos ar Barc yr Arfau yn erbyn Yr Alban ac yna colli'n drwm oddi cartref yn erbyn y deiliaid Lloegr.
Ond fe allai buddugoliaeth a phwynt bonws yn Cork godi t卯m Ioan Cunningham i'r trydydd safle - yn dibynnu ar ganlyniadau eraill.
T卯m Cymru
Jenny Hesketh; Jasmine Joyce, Hannah Jones (capt), Kerin Lake, Carys Cox; Lleucu George, Keira Bevan; Gwenllian Prys, Carys Phillips, Sisilia Tuipulotu, Abbie Fleming, Georgia Evans, Alisha Butchers, Alex Callender, Bethan Lewis.
Eilyddion: Molly Reardon, Abbey Constable, Donna Rose, Natalia John, Gwennan Hopkins, Sian Jones, Kayleigh Powell, Courtney Keight.
Yn y cyfamser mae World Rugby yn ystyried cyflwyno p锚l maint 4.5 i g锚m y menywod, sydd tua 3% yn llai a 3-4% yn ysgafnach na ph锚l draddodiadol maint 5.
Y gobaith yn 么l yr awdurdodau yw y byddai p锚l yn llai o faint yn arwain at lai o gamgymeriadau, yn haws i'r cicwyr ac yn cyflymu'r g锚m yn gyffredinol.
Dyw gwahaniaethu rhwng offer dynion a menywod ym myd y campau ddim yn beth newydd - ym mh锚l fasged, er enghraifft, mae'r b锚l yn llai o faint yn yng nghystadleuaeth y WNBA yn America nag yn yr NBA (cystadleuaeth y dynion).
Er fod y syniad yn ei ddyddiau cynnar ac yn hollti barn, mae prif hyfforddwr t卯m menywod Cymru, Ioan Cunningham, ac Undeb Rygbi Cymru yn agored i'r posibilrwydd ac yn croesawu'r ymgais i geisio arbrofi er mwyn hybu poblogrwydd y g锚m.
Bydd modd gwrando ar y g锚m ar Radio Cymru am 17:00 ddydd Sadwrn.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mawrth
- Cyhoeddwyd29 Mawrth
- Cyhoeddwyd23 Mawrth