'Methiant' bwrdd iechyd yn achos dyn a laddodd ei dad
- Cyhoeddwyd
Roedd yna fethiant ar ran bwrdd iechyd oedd yn gofalu am ddyn a laddodd ei dad ar 么l dianc o uned iechyd meddwl, mae cwest wedi clywed.
Mae uwch reolwr gyda Bwrdd Iechyd Bae Abertawe wedi cydnabod na chafodd gwybodaeth am gefndir Daniel Harrison ei rhannu gyda'r clinigwr oedd yn ei drin.
Clywodd y cwest yn Neuadd y Ddinas Abertawe hefyd bod yna bryderon ynghylch trefniadau diogelwch yr uned cyn iddo ffoi oddi yno.
Cafodd Dr Kim Harrison ei ddyrnu, cicio a sathru i farwolaeth yn y cartref teuluol yng Nghlydach ym mis Mawrth 2022.
Plediodd ei fab yn euog i ddynladdiad ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll, a chael ei gadw am gyfnod amhenodol dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.
Clywodd y cwest bod Daniel Harrison 芒 hanes hir o broblemau iechyd meddwl, ond roedd rheiny dan reolaeth, trwy feddyginiaeth, am dros ddegawd yng nghartref ei rieni pan ddechreuodd fusnes gwneud dodrefn.
Fe ddirywiodd ei gyflwr yn 2021 gan amlygu paranoia ac ymddygiad ymosodol at ei rieni - y ddau'n feddygon - ac roedd yna honiad iddo ymosod ar landlord.
Ym Mawrth 2022 cafodd ei gadw ar ward ddiogel yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot.
48 achos blaenorol o ddianc o uned
Yn 么l Stephen Jones, cyfarwyddwr nyrsio iechyd meddwl ac anableddau dysgu'r bwrdd iechyd, ni chafodd y meddygon oedd yn ei drin wybodaeth ynghylch ei ddirywiad meddyliol.
Fe gymrodd 10 wythnos i adolygiad annibynnol nodi'r methiant yna, ond roedd y wybodaeth yn dal heb ei rhannu pan wthiodd Harrison heibio nyrs oedd wedi agor drws diogelwch, mynd yn syth i d欧 ei rieni ac ymosod ar ei dad.
Cyfaddefodd Mr Jones hefyd bod yr asesiad risg cyn derbyn Harrison i'r uned yn anaddas gan fod staff heb eu hyfforddi'n llawn, a bod cleifion wedi dianc trwy'r un drws ar 48 achlysur arall rhwng 2019 a 2022.
Ers hynny, dywedodd, mae'r bwrdd iechyd wedi gwario 拢640,000 ar wella lefelau staff a diogelwch, a bod staff yn cael hyfforddiant asesu risg.
Ychwanegodd bod ebost ym mis Rhagfyr 2023 wedi "tanlinellu" i glinigwyr yr angen i gofnodi a chwilio am wybodaeth am gefndir cleifion sy'n cael argyfwng iechyd meddwl.
Pan ofynnwyd pam na chafodd fideo'r heddlu, yn dangos ymddygiad treisgar Harrison at ei rieni, ei rannu gyda'i feddygon na'i ystyried yn yr asesiad risg, atebodd nad oedd modd gwneud hynny.
Cytunodd Mr Jones nad oedd cynllun gofal Harrison yn dilyn yr ymosodiad honedig ar ei landlord yn ddigon "cadarn".
Cytunodd hefyd ag awgrym bod y bwrdd iechyd wedi colli cyfleoedd i ymateb yn dilyn rhybuddion cyson y teulu bod ei gyflwr yn gwaethygu i fod yn seicosis.
Mae'r cwest yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2022