成人快手

'Gwneud synnwyr' adolygu rhoddion ariannol - Keir Starmer

  • Cyhoeddwyd
Vaughan Gething a Keir Starmer
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyma'r tro cyntaf i Syr Keir Starmer ymweld 芒 Chymru ers i Vaughan Gething ddod yn brif weinidog

Mae Syr Keir Starmer yn dweud ei fod yn "gwneud synnwyr" i Lafur Cymru adolygu rheolau ynghylch ariannu ymgyrchoedd, yn dilyn ffrae dros roddion ariannol i ymgyrch Vaughan Gething.

Roedd arweinydd Llafur y DU yng Nghymru ddydd Llun am y tro cyntaf ers i Mr Gething gael ei benodi yn brif weinidog.

Fe wnaeth ymgyrch Mr Gething i arwain Llafur Cymru dderbyn rhoddion ariannol gwerth 拢200,000 gan gwmni sy'n cael ei redeg gan ddyn a gafwyd yn euog ddwywaith am droseddau amgylcheddol.

Mae'r prif weinidog wedi gwrthod ceisiadau gan wrthwynebwyr i ad-dalu'r arian, ond mae'n dweud y bydd ei blaid yn cynnal adolygiad o ariannu ymgyrchoedd.

"Dwi'n meddwl bod y prif weinidog wedi ateb y cwestiynau ac wedi dweud bod angen adolygu'r rheolau, mae hynny'n gwneud synnwyr, ond mae eisoes wedi ateb y cwestiynau hynny," meddai Syr Keir wrth ymweld 芒 Chaergybi ar Ynys M么n.

Fe ychwanegodd: "Mae'r prif weinidog wedi esbonio ei weithredoedd. Nid yw wedi torri unrhyw reolau a dyna ddiwedd ar y ddadl honno."

Roedd y ddau, Vaughan Gething a Syr Keir Starmer, yn ymweld ag Ynys M么n i drafod cynllun Llafur i ariannu ffermydd solar yn y m么r os fydd y blaid yn ennill yr etholiad cyffredinol nesaf.

Dywedodd Syr Keir fod Llafur wedi ymrwymo i b诺er niwclear a bod Wylfa ar Ynys M么n yn "ddelfrydol".

"Yn amlwg bydd yn rhaid i ni edrych ar y manylion os rydym yn ddigon ffodus o fod mewn grym," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ymwelodd Syr Keir Starmer 芒 Chaergybi er mwyn trafod cynllun Llafur ar gyfer ffermydd solar ar y m么r

Ni wnaeth ymrwymo i roi cyllid ychwanegol i Lywodraeth Cymru drwy'r prosiect HS2 - rhywbeth y mae pob plaid yn y Senedd wedi galw amdano.

Mae llywodraeth bresennol y DU wedi gwneud "llanast llwyr o hynny - mae'r cyllid dros y lle i gyd", meddai.

"Bydd yn rhaid i ni adolygu hynny a gwneud penderfyniadau pan fydd modd i ni wneud hynny."

Gobeithio am berthynas 'adeiladol'

Dywedodd Syr Keir a Mr Gething y byddai gwell perthynas rhwng llywodraethau Cymru 芒'r DU petai Llafur mewn grym yng Nghaerdydd a San Steffan.

Wrth drafod y berthynas rhwng Llafur Cymru a Llafur y DU, dywedodd Mr Gething: "Dwi'n meddwl y bydd yn adeiladol ac yn bositif.

"Dydyn ni ddim am gytuno ar bob mater, ond rydych chi ddim yn cytuno gyda'ch teulu eich hun ar bob mater.

"Y pwynt yw, trwy gael llywodraeth Lafur y DU, bydd yna uchelgais go iawn ar gyfer dyfodol Cymru a dyfodol y DU - perthynas go iawn gan droi tudalen newydd."