Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Rhaid ailfeddwl cynlluniau newid cymwysterau TGAU Cymru'
- Awdur, Bethan Lewis
- Swydd, Gohebydd Addysg a Theulu 成人快手 Cymru
Mae angen ailfeddwl polisi addysg Cymru gan oedi cynlluniau i ddiwygio cymwysterau TGAU, yn 么l adroddiad newydd.
Dywed sefydliad ariannol yr IFS bod angen newidiadau mawr i ddatrys perfformiad gwael a'r bwlch rhwng plant difreintiedig a'u cyd-ddisgyblion.
Y bwriad yw cyflwyno TGAU diwygiedig o 2025 i gyd-fynd 芒 chwricwlwm newydd, ond mae'r adroddiad yn dweud y dylai'r cyrsiau gael eu hoedi i ystyried sut fydden nhw'n gwella safonau.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod y TGAU newydd yn adlewyrchu gwaith ymgynghori eang gydag athrawon ac eraill.
Yn 么l awdur yr adroddiad, Luke Sibieta, dylai sg么r isel Cymru ym mhrofion rhyngwladol PISA o ran darllen, mathemateg a gwyddoniaeth fod yn achos "pryder mawr" i'r prif weinidog newydd, Vaughan Gething.
Dywedodd bod y canlyniadau'n dangos "dirywiad sylweddol" ym mherfformiad myfyrwyr 15 oed Cymru, sydd ar ei h么l hi o gymharu 芒'u cyfoedion yng ngweddill Prydain.
Problem arall yn 么l yr IFS yw bod plant o gefndiroedd difreintiedig bron ddwy flynedd tu 么l i'w cyfoedion ar lefel TGAU. Deunaw mis yw'r gwahaniaeth yn Lloegr.
Yn ogystal mae mwy o bobl ifanc yng Nghymru ddim mewn addysg, gwaith na hyfforddiant ar 么l gadael yr ysgol o gymharu 芒 gweddill Prydain.
Dywed Mr Sibieta na all lefelau uwch o dlodi egluro'r "darlun diflas" yng Nghymru.
Mae'n annog "dewrder" i wneud newidiadau "ar sail tystiolaeth gadarn".
Mae hynny'n cynnwys edrych eto ar y cwricwlwm i Gymru sy'n cael ei gyflwyno i bob plentyn rhwng tair ac 16 mlwydd oed gan roi mwy o bwyslais ar wybodaeth yn hytrach na sgiliau.
Dylid oedi diwygio TGAU, medd yr adroddiad, i roi amser i ystyried sut y bydd yn "datrys perfformiad gwael ac anghydraddoldeb eang".
Rhybudd Mr Sibieta yw y gallai'r sefyllfa "waethygu" heb newidiadau.
Athrawon yn gweithio 'yn y tywyllwch'
Yn 么l Sion Amlyn o undeb athrawon yr NASUWT, doedd cynnwys yr adroddiad ddim yn syndod iddo.
"Mae hyn wedi bod yn ffrwtian ers sawl blwyddyn, yn sicr ers diwedd y pandemig, ac mae'r neges y mae'r adroddiad yn ei gyfleu yn un y mae Mr Gething angen ei dderbyn," meddai.
"Dydy'r system addysg yng Nghymru ddim yn mynd i wella ar sail y cyllido presennol... yn sicr wnaiff o ddim esblygu a datblygu heb chwistrelliad sylweddol o arian."
Ychwanegodd Mr Amlyn bod diffyg eglurder o ran cymwysterau yn gwneud pethau'n anodd i athrawon.
"Mae hi'n sefyllfa od, mae athrawon mewn ysgolion uwchradd ar hyn o bryd yn cyflwyno'r cwricwlwm newydd, ond dydyn nhw ddim yn gwybod sut si芒p fydd ar y cymwysterau y maen nhw'n paratoi ar eu cyfer.
"Mae hi bron fel eu bod nhw'n gweithio yn y tywyllwch yn llwyr, a tybed a fyddai oedi cael unrhyw fath o gadernid o ran cymwysterau yn neud pethau'n waeth.
"Be ddylai fod wedi digwydd ydi dod allan efo'r cymwysterau gyntaf, ac adeiladu cwricwlwm ar eu cyfer."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod canlyniadau PISA Cymru wedi gwella cyn y pandemig a bod "cynlluniau clir" i daclo effeithiau Covid-19 ar safonau.
Ychwanegodd y llefarydd bod "gwybodaeth yn hanfodol i'r cwricwlwm newydd a'i bod yn anghywir i hawlio fel arall".
"Ynghyd 芒 ffocws o'r newydd ar y sgiliau hanfodol o lythrennedd a rhifedd, bydd pob disgybl yn elwa o ddysgu sy'n eu cefnogi i ddod yn hyderus a chreadigol gyda sgiliau bywyd a'r wybodaeth sydd ei angen arnynt i gyrraedd eu potensial."
Disgrifiodd y Ceidwadwyr Cymreig yr adroddiad fel un "damniol" sy'n dangos pa mor anghywir mae diwygiadau Llafur wedi bod".
Dywedodd Eithne Hughes, Cyfarwyddwr Undeb Penaethiaid ASCL Cymru bod athrawon Cymru yr un mor dalentog ag athrawon gweddill Prydain "ac eto mae'r adroddiad hwn yn glir bod gwahaniaeth yng nghanlyniadau myfyrwyr".
Ychwanegodd: "Ry'n ni'n credu bod diwygiadau niferus, ar gymaint o ras, ar draws cymaint o feysydd gwahanol yn system addysg Cymru yn ei gwneud hi'n gynyddol heriol i'r gweithlu i ganolbwyntio ar eu prif waith o helpu pobl ifanc i ddysgu."