Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Aelodau Llafur yn cwrdd i drafod pryderon am Vaughan Gething
Mae'r 成人快手 yn deall fod gwleidyddion Llafur Cymru wedi cynnal cyfarfod nos Lun i drafod pryderon yngl欧n 芒'u harweinydd newydd.
Mae Vaughan Gething wedi cael ei feirniadu wedi iddo dderbyn rhodd ariannol o 拢200,000 gan gwmni sy'n cael ei redeg gan ddyn a gafodd ei ddyfarnu'n euog ddwywaith am droseddau amgylcheddol.
Mae Aelodau Llafur o'r Senedd wedi dweud eu bod am i Mr Gething ddeall lefel y pryder o fewn y blaid.
Dywedodd un ffynhonnell wrth 成人快手 Cymru bod 14 o wleidyddion wedi cyfarfod nos Lun i drafod y mater.
Mae disgwyl i Mr Gething ddod yn brif weinidog ddydd Mercher yn dilyn ymddiswyddiad ffurfiol Mark Drakeford ddydd Mawrth.
Yn 么l un Aelod Llafur o'r Senedd, mae yna deimlad cynyddol o fewn y gr诺p seneddol y dylai'r arian gael ei ddychwelyd, gyda rhai hyd yn oed yn bygwth peidio pleidleisio amdano ddydd Mercher os nad yw hynny'n digwydd.
"Fedra i ddim gweld hynny yn digwydd mewn gwirionedd, ond gyda dim ond 30 pleidlais - oni bai bod y pleidiau eraill yn atal eu pleidlais - yr oll mae'n gymryd yw i un Aelod Llafur fynd yn groes er mwyn atal y broses," meddai'r AS.
Dywedodd aelod arall "nad oes unrhyw un wedi dweud eu bod am atal eu pleidlais, ond nad oedden nhw'n hoff o weld pobl yn cymryd y canlyniad yn ganiataol cyn iddyn nhw gael atebion i'w cwestiynau".
Ddydd Sadwrn, fe wnaeth Mr Gething drechu Jeremy Miles i fod yn arweinydd Llafur Cymru gan ennill 51.7% o'r bleidlais.
Yn gynharach ddydd Llun fe wnaeth o addo cynnal adolygiad o'r system rhoddion ariannol mewn ymgyrchoedd arweinyddiaeth Llafur Cymru.
Dros y penwythnos fe wnaeth Mr Gething wrthod galwadau i dalu'r arian yn 么l i Dauson Enviromental Group.
David John Neal yw perchennog Dauson, a daeth i'r amlwg ei fod o wedi ei erlyn yn 2013 am ollwng gwastraff yn anghyfreithlon ar Wastadeddau Gwent, ac eto yn 2017 am fethu 芒 glanhau'r gwastraff.
Mae Mr Gething wedi amddiffyn ei berthynas gyda'r sefydliad, gan wrthod yr awgrym ei fod wedi lob茂o o blaid cwmni Atlantic Recycling - sydd 芒 chysylltiadau gyda Dauson Environmental.
Fe wnaeth Mr Gething ofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) lacio'r cyfyngiadau ar gwmni Atlantic Recycling yn 2016, ac yn 2018, mewn llythyr pellach, dywedodd wrth swyddogion CNC nad oedd rheswm iddyn nhw oedi penderfyniad yngl欧n 芒 thrwydded.
Mae Llafur Cymru wedi cadarnhau y bydd unrhyw arian dros ben o'r ymgyrchoedd arweinyddiaeth yn cael ei roi i'r blaid.
'Dim byd o'i le'
Dywedodd Vaughan Gething ar raglen Politics Wales dros y penwythnos: "Does dim byd yn anghywir 芒'r hyn yr ydym wedi ei wneud.
"Wyth mlynedd yn 么l nes i ysgrifennu at CNC fel aelod o'r etholaeth, dim lob茂o yw hynny - mae lob茂o yn air llwythog, fel rydym yn gwybod," meddai Mr Gething.
"Fel cynrychiolydd eich etholaeth, eich swydd yw cynrychioli eich etholaeth, unigolion a busnesau.
"Dy' ni heb wneud dim byd y tu allan i'r rheolau. Does dim byd o'i le gyda'r hyn yr ydym wedi ei wneud."