成人快手

Holi plant ysgol am hunan-niweidio 'yn beth cyffredin'

  • Cyhoeddwyd
Ysgol John Bright
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l prifathro Ysgol John Bright, mae nifer y disgyblion sydd 芒 phroblemau iechyd meddwl difrifol bedair gwaith yn uwch ers Covid

Mae gofyn i blant os ydyn nhw'n hunan-niweidio wedi dod yn beth cyffredin ers i ddisgyblion ddychwelyd i'r ysgol wedi'r pandemig, yn 么l un ysgol uwchradd yn y gogledd.

Yn 么l arweinwyr ysgolion a gweithwyr iechyd meddwl, mae yna gynnydd wedi bod mewn achosion o orbryder, hunan-niweidio ac anhwylderau bwyta ymhlith plant a phobl ifanc.

Yn ogystal, mae nifer y disgyblion sy'n gyson yn absennol o'r dosbarth wedi dyblu yn ysgolion uwchradd Cymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod presenoldeb mewn ysgolion yn "flaenoriaeth genedlaethol".

Mae gan Ysgol John Bright yn Llandudno dros 1,000 o ddisgyblion.

Millie Jones yw arweinydd uned cynhwysiant yr ysgol, sy'n cefnogi dysgwyr sydd methu ymdopi mewn dosbarthiadau arferol.

Wrth ymateb i gwestiwn yngl欧n 芒'r angen i holi disgyblion am hunan-niweidio, dywedodd Ms Jones: "Dwi ddim yn gwybod os ydi o'n deillio o awydd i frifo eu hunain, neu os ydi o'n alwad am help."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Millie Jones sy'n arwain uned cynhwysiant Ysgol John Bright

"Yr hyn 'da ni wedi ei weld fwyaf yw'r cynnydd yma mewn pryder cymdeithasol," meddai Ms Jones.

"Pethau arferol fel cerdded lawr coridor prysur neu gyrraedd gwers yn hwyr, mae'n dysgwyr pryderus iawn ni'n cael trafferth fawr gyda rhain."

Ymddygiad 'eithafol' ar gynnydd

Yn 么l prifathro Ysgol John Bright, Hywel Parry, mae nifer y disgyblion sy'n byw gyda phroblemau iechyd meddwl difrifol bedair gwaith yn uwch o'i gymharu 芒 chyn y pandemig.

"Mae'n ofid mawr i ni. Mae'r heriau sy'n ein hwynebu ni wedi cynyddu'n eithriadol ers y pandemig," meddai.

"Mae lefelau absenoldeb yn broblem, 'da ni wedi gweld cynnydd yn y nifer sy'n pryderu am eu hiechyd meddwl ac mae yna gynnydd wedi bod yn nifer yr achosion o ymddygiad mwy eithafol.

"A hynny oll mewn cyfnod ble mae'r staff ategol yn cael eu cwtogi oherwydd trafferthion ariannol o fewn y sector addysg.

"Mae sicrhau bod pob disgybl yn dod i'r ysgol, cael yr addysg orau a'r gofal a chymorth sydd angen, yn dod yn fwyfwy heriol."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Hywel Parry yn dweud y sefyllfa ariannol bresennol wedi gwneud sefyllfa anodd yn fwy heriol fyth

Mae'r arian sydd gan ysgolion Sir Conwy wedi gostwng 10.5% dros y ddwy flynedd ddiwethaf, er i ysgolion weld cynnydd yn y galw am gymorth.

Yn sg卯l y toriadau hynny, mae Mr Parry wedi gorfod colli aelodau staff a chynyddu maint dosbarthiadau i'r uchafswm sy'n cael ei ganiat谩u gan faint yr ysgol.

'Trafferthion mwy cymhleth'

Yn aml iawn, athrawon ysgol yw'r cyntaf i sylwi ar broblemau difrifol, yn 么l gweithwyr iechyd meddwl.

"Mae'r profiadau hynny o'r cyfnodau clo yn dal i effeithio ar y bobl ifanc sy'n cael eu cyfeirio atom ni," meddai Sarah Langford, arweinydd strategol plant a phobl ifanc elusen iechyd meddwl Adferiad.

"Mae'r niferoedd sy'n cael eu cyfeirio aton ni yn cynyddu ac yn aml mae ganddyn nhw drafferthion mwy cymhleth.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae nifer y plant sy'n cael eu cyfeirio at elusen iechyd meddwl Adferiad ar gynnydd, yn 么l Sarah Langford

"Ni'n gweld llawer mwy o bobl ifanc yn siarad 芒 ni am hunan-niweidio a beth maen nhw'n ei wneud. Mae 'na esiamplau o losgi a thynnu gwallt.

"Mae llawer eisiau gwneud yn dda yn eu harholiadau TGAU a Lefel A, ond maen nhw'n cael trafferth ffocysu yn ystod gwersi neu eistedd yn llonydd," meddai.

Y cyfnod clo o safbwynt pobl ifanc

"Fe wnaeth ymddygiad disgyblion newid tipyn," meddai Daynton, 16 oed.

"Roedd pobl methu canolbwyntio'n iawn oherwydd eu bod wedi arfer bod gartref.

"Fe wnes i hefyd fynd i lawr y llwybr hwnnw - lle nad oeddwn yn gallu canolbwyntio cymaint ag oherwydd nad oeddwn bellach gystal ag yr oeddwn i mewn rhai pynciau, fe wnes i gamymddwyn."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae uned cynhwysiant Ysgol John Bright yn cefnogi dysgwyr sydd methu ymdopi mewn dosbarthiadau arferol

Dywedodd Tyrun, sydd hefyd yn 16: "Roedd llawer o blant yn yr ysgol ar 么l y cyfnod clo yn achosi trafferth, yn arbennig fi.

"Blwyddyn wyth oedd y cyfnod pan nes i achosi bach o drafferth. O'n i'n teimlo'n fwy unig a gwnaeth o wneud fi braidd yn ddiflas."

Cytunodd Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes, fod y pandemig yn dal i gael "effaith negyddol" ar blant.

"Ni ddaeth yr effaith i ben pan godwyd y cyfyngiadau. 'Da ni'n dal i weld effeithiau'r ddwy flynedd hynny, efallai'n fwyaf nodedig ar iechyd meddwl plant a'u haddysg," meddai.

"Nid yw'r niwed a gafodd ei achosi gan y pandemig yn dangos unrhyw arwydd o ddiflannu, ac mae angen buddsoddiad mawr i wella'r sefyllfa."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod 拢13.6m yn cael ei ddarparu i gefnogi mentrau lles ysgolion.

"Bydd y cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio i ehangu a gwella cwnsela mewn ysgolion, darparu ymyriadau lles cyffredinol ac i hyfforddi staff ysgol ar les," meddai llefarydd.