成人快手

Llyfr newydd CPD Wrecsam i 'ysbrydoli plant' yn Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Sion Hughes
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Sion Hughes o Glwb P锚l-droed Wrecsam yn rhan o'r prosiect

Mae Clwb P锚l-droed Wrecsam yn cyhoeddi llyfr stori ddwyieithog i blant ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Llyfr.

Gobaith y clwb yw bydd y nofel yn ysbrydoli plant i ddarllen yn yr iaith Gymraeg.

Mae 'Y Ddraig Lwcus' wedi ei ysbrydoli gan drigolion a lleoliadau gwahanol yn Wrecsam ac wedi ei anelu at blant 6-10 oed.

Mae'n brosiect ar y cyd rhwng y clwb p锚l-droed, eu noddwr technoleg HP ac elusen ryngwladol NABU sy'n ceisio hybu llythrennedd plant mewn ieithoedd brodorol.

Yn 么l y partneriaid, bydd y llyfr yn dathlu cyfoeth diwylliannol ardal Wrecsam yn y gobaith o annog plant ar hyd a lled Cymru i ddarllen.

'Ceisio dathlu'r Gymraeg ar bob cyfle'

Gyda ffigyrau diweddar gan y National Literacy Trust yn dangos bod nifer y plant sy'n mwynhau darllen ar draws y DU ar ei lefel isaf ers 2005, gobaith y clwb yw "ysbrydoli plant i ddarllen trwy'r iaith Gymraeg ond mae o ar gael hefyd i bobl sydd isio dechrau dysgu'r iaith".

Ychwanegodd Si么n Hughes o'r clwb: "'Den ni fel clwb yn ceisio dathlu'r Gymraeg ar bob cyfle.

"Mae HP a NABU wedi dod i fewn ar hynny ac yn frwdfrydig am hynny hefyd."

"Mae'r cyfeiriadau lleol yn greiddiol i'r prosiect."

Ychwanegodd: "Den ni'n sylwi bod clybiau p锚l-droed yn ganolog i gymunedau lleol ac maen nhw'n hollbwysig i roi cyfle i bawb ddod at ei gilydd.

"Mae'r stori'n ffocysu ar Wrecsam, ond mae'n un i bawb ledled Cymru uniaethu efo achos dwi'n meddwl bod ni gyd efo'r teimlad yna at ein clybiau lleol."

Adrodd hanes yr ardal leol

Mae'r stori yn adrodd hanes un o gefnogwyr ffuglennol y clwb, Alys, sy'n llwyddo i wynebu ei heriau ar 么l cael tegan meddal draig yn anrheg gan ei thaid.

Mae'r llyfr hefyd yn cyfeirio at leoliad a sefydliadau go iawn yn Wrecsam fel y banc bwyd lleol a hen Orsaf Achub y Glowyr.

Amy Lalanne a'r elusen NABU yw'r awduron, ac mae'r testun wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg gan gwmni Cymen.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r llyfr yn cyfeirio at sefydliadau go iawn yn Wrecsam fel y banc bwyd lleol

Yn 么l y partneriaid, mae ymchwil yn awgrymu bod llyfrau mewn mamiaith yn effeithiol iawn wrth annog plant i ddarllen a gwella llythrennedd.

Mae llythrennedd yn gwella sgiliau digidol sydd yn ei dro yn effeithio ar ganlyniadau addysg a chyfleoedd economaidd, medd y partneriaid.

Bydd fersiwn print o'r llyfr ar gael mewn ysgolion lleol a llyfrgelloedd gyda'r elw yn mynd i elusennau lleol.

Bydd fersiwn ddigidol am ddim hefyd.

Bydd gweithgareddau wedi eu hysbrydoli gan y llyfr, megis lluniau i'w lliwio a chreu dreigiau origami hefyd ar gael o wefan HP.