成人快手

'Rhaid bod yn unigryw' i oroesi fel busnes bwyd

  • Cyhoeddwyd
Janet Wei
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhaid "ffeindio beth sy'n unigryw i chi" er mwyn llwyddo, meddai Janet Wei

Agor t欧 pitsa yn 17 oed, dosbarthu bwyd ar droed, ac ehangu gyda chyllid torfol - mae busnesau bwyd bellach yn gorfod meddwl am ffyrdd amgen o weithio.

Ond i eraill, dyw'r cyfnod economaidd heriol heb eu rhwystro nhw rhag ehangu os ydyn nhw'n llwyddo i gynnig rhywbeth "unigryw".

Daw hyn wrth i ffigyrau gan UK Hospitality Cymru ddangos bod Cymru wedi colli 17% o'u busnesau lletygarwch ers y pandemig, sy'n uwch na chanran Lloegr a'r Alban.

A chyda costau byw yn cynyddu, bydd busnesau ar hyd a lled y wlad yn aros i weld beth sydd gan gyllideb Llywodraeth y DU ddydd Mercher i'w gynnig.

'Rhaid bod yn unigryw'

Mae Janet Wei bellach wedi agor bwyty Chineaidd ym Mhontypridd gyda'i g诺r Huw, ar 么l dechrau gyda stondin ym marchnad y dref.

Mae hi'n wreiddiol o ardal yng ngogledd China ger y ffin gyda Gogledd Corea, ac felly roedd rhai o'r bwydydd roedd hi'n eu coginio yn anghyfarwydd i'w chwsmeriaid i ddechrau.

"Dyn ni ddim yn gwneud y bwyd Chineaidd mae pobl Prydain fel arfer yn ei feddwl amdano," meddai.

"Ar y dechrau roedd pobl yn poeni beth oedden nhw'n ei archebu, felly ro'n i'n dweud wrthyn nhw 'os nad ych chi'n hoffi e, does dim rhaid i chi dalu'."

Wrth i bobl ddweud wrth eraill am y busnes, dywedodd Ms Wei bod pobl bellach yn "teithio o bobman yng Nghymru a thu hwnt i ddod yma".

"Mae'n anodd ei gwneud hi yn y diwydiant bwyd. Felly mae'n rhaid i chi ffeindio beth sy'n unigryw i chi."

Byddai hi'n hoffi gweld newidiadau i Dreth ar Werth yn y gyllideb ddydd Mercher er mwyn helpu busnesau bach fel ei un hi.

"Mae costau popeth wedi mynd lan, ond mae'r trothwy VAT [lle mae'n rhaid dechrau talu] dal yn 拢85,000," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Rhoi rhywbeth yn 么l i'n cwsmeriaid" yw rhan o'r ap锚l o gyllido torfol i Rhys a Laura Keogh

Yn wahanol i Janet Wei, symud o'r bwyty i'r farchnad mae Rhys a Laura Keogh wedi ei wneud.

Ar 么l rhedeg bwyty Eidalaidd am wyth mlynedd, maen nhw nawr wedi agor stondin Dirty Gnocchi ym Marchnad Caerdydd ar 么l sylwi ar y newid yn arferion pobl ers Covid.

"Dyna pryd naethon ni benderfynu symud tuag at fwyd stryd a manteisio ar yr arfer o fwyta tu fas," meddai Rhys.

"Ni'n lwcus iawn achos mae llawer o bobl yn dod mewn, ac mae cymaint o fusnesau gwych eraill yma."

Disgrifiad,

Rhys Keogh sy'n rhedeg stondin Dirty Gnocchi ym Marchnad Caerdydd

Dyddiau lleoliad sefydlog 'wedi hen fynd'

Maen nhw nawr eisiau ehangu drwy gyllid torfol, gan fod gofyn am gymorth eu cwsmeriaid yn rhatach na cheisio cael benthyciad gan y banc.

"Rydyn ni wedi hel y rhan fwyaf o'r arian ein hunain, ond mae angen ychydig eto," meddai Rhys.

"Er enghraifft, rydyn ni'n cynnig 'addewid 拢20' sy'n golygu cewch chi werth 拢25 o fwyd yn 么l.

"Roedden ni eisiau rhoi rhywbeth yn 么l i'n cwsmeriaid ni a gadael iddyn nhw helpu ni hefyd, i osgoi gorfod cael benthyciad llog uchel o'r banc."

Yn 么l Dr Edward Jones, mae busnesau fel Dirty Gnocchi yn rhan o dueddiad ehangach o gwmn茂au sydd wedi newid eu ffordd o weithredu ers Covid.

"Mi wnaeth y pandemig acceleratio y newid yma, lle 'dan ni'n gweld busnesau r诺an yn defnyddio lot mwy o dechnoleg i siarad efo'u cwsmeriaid, ac hefyd i redeg eu busnesau," meddai.

"Mae'r dyddiau o gael lleoliad i fusnes wedi hen fynd.

"Dan ni'n gweld busnesau'n gwneud llawer mwy o ddefnydd o'r we, ac yn sefydlu busnesau yn unrhyw le ar draws Cymru."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Byddai'n dda os oes cymorth gan y llywodraeth yn haws i ddod o hyd iddo," meddai Joshua Wheeler

Mae Joshua Wheeler, 17, yn rhedeg busnes Pizzaboy yn rhan amser, ac yn dweud bod y cyfryngau cymdeithasol a phlatfformau cludo wedi newid pethau.

Ond mae'n dweud bod angen mwy o gymorth ar berchnogion busnes ifanc.

"Chi methu sefydlu cyfrif banc ond chi'n gallu bod yn gyfarwyddwr ar gwmni, felly nes i dreulio mis a hanner just yn sortio hwnna," meddai.

Ychwanegodd ei bod hi'n gallu bod yn anodd cael pobl i "ymddiried" mewn person 17 oed i redeg busnes bwyd, ond mae'n dweud bod gan bobl ifanc gymaint i'w gynnig.

"Byddai'n dda os oes cymorth gan y llywodraeth yn haws i ddod o hyd iddo," meddai.

"Mae gan bobl ifanc gymaint o egni.

"Petai mwy yn cael y cyfle i wneud beth roedden nhw eisiau gyda busnesau, a ddim mor ofn i gymryd y cam yna, byddai gennym ni gymaint mwy o fusnesau c诺l, hwyl ac unigryw."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae twf gwasanaethau cludo bwyd wedi bod o fudd i fusnesau fel un Joshua Wheeler

Dibynnu ar ddulliau mwy traddodiadol i gludo ei bwyd mae May Kukua Anderson, 25, o Bontypridd.

Fe ddechreuodd hi Ronen's African Kitchen, gan dynnu ar ei gwreiddiau yn Ghana a Nigeria, yn dilyn anogaeth gan ei theulu a'i ffrindiau.

"Fe wnaeth mam-gu ddysgu fi sut i goginio - a dwi'n gwybod mod i'n dda achos pan dwi adref dyw hi byth [yn bwyta] oni bai mai fi sy'n coginio," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae May yn dosbarthu ei bwyd ar droed, tra hefyd yn gofalu am ei mab 11 mis oed

Gyda chefndir mewn busnes a chyfrifeg roedd ganddi sgiliau defnyddiol eisoes. Mae hi nawr yn dosbarthu ei bwyd ar droed, tra hefyd yn gofalu am ei mab 11 mis oed.

"Bob wythnos mae gen i fyfyrwyr yn dod yn 么l i gael mwy i roi yn yr oergell," meddai.

"Nid just pobl o Ghana a Nigeria, ond pobl sydd eisiau cael blas arno fe, neu sydd gyda phartneriaid o'r gwledydd yna ac eisiau rhoi sypreis iddyn nhw.

"Dyna nes i fanteisio arno - ro'n i'n gwybod bod dim byd arall fel hyn o gwmpas."