Person wedi marw mewn t芒n ym Meidrim, Sir Gaerfyrddin
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi cadarnhau bod person wedi marw mewn t芒n yn Sir Gaerfyrddin bron i bythefnos yn 么l.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i d芒n mewn adeilad dau lawr ym mhentref Meidrim yn oriau m芒n ddydd Gwener, 9 Chwefror.
Fe gadarnhaodd Heddlu Dyfed-Powys ddydd Iau bod un person wedi marw yn y digwyddiad.
Roedd y difrod i'r adeilad yn "sylweddol" ac mae ymchwiliad bellach ar waith i achos y t芒n.
Bydd y ffordd ym Meidrim yn parhau ar gau wrth i'r heddlu a Gwasanaeth T芒n ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru barhau 芒'u hymchwiliadau.
Mae swyddogion wedi rhannu eu cydymdeimlad 芒 theulu'r unigolyn ac wedi diolch i'r gymuned leol am eu cefnogaeth a'u cydweithrediad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Chwefror