Person yn parhau ar goll yn dilyn t芒n Sir Gaerfyrddin

Mae'r heddlu'n dweud fod person yn parhau ar goll yn dilyn t芒n yn Sir Gaerfyrddin ddydd Gwener.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i d芒n mewn adeilad dau lawr ym mhentref Meidrim yn oriau man ddydd Gwener, 9 Chwefror.

Mae'r t芒n wedi ei ddiffodd, ond mae'r adeilad yn parhau'n anniogel, meddai Heddlu Dyfed-Powys.

Dywedodd y gwasanaeth t芒n bod nifer o griwiau wedi eu galw i'r digwyddiad, ac nad oes modd mynd i'r adeilad yn sgil "difrod sylweddol".

Bydd y ffordd ym Meidrim yn aros ar gau wrth i'r heddlu weithio gyda'r Gwasanaeth T芒n ac Achub i sefydlu achos y digwyddiad.