成人快手

Felinfach: Sensient yn ystyried cau ffatri sy'n 'cyflogi 100'

  • Cyhoeddwyd
Sensient

Mae ansicrwydd am ddyfodol ffatri yng Ngheredigion wedi i'w pherchnogion gyhoeddi cynlluniau i ailstrwythuro.

Mae cwmni Sensient, sy'n datblygu blasau a lliwiau bwydydd, wedi cadarnhau eu bod yn ystyried cau eu safle ger Felinfach yn Nyffryn Aeron.

Yn 么l cynghorydd lleol mae tua 100 o bobl yn gweithio yn y safle.

Gyda dyfodol safle arall yn Sbaen hefyd yn y fantol, dywedodd y cwmni Americanaidd eu bod hefyd yn "ystyried y posibilrwydd o ganoli a dileu rhai swyddi gwerthu a gweinyddol".

Mewn datganiad dywedodd y cwmni: "Ar 8 Chwefror 2024, cyhoeddwyd cynllun optimeiddio portffolio i wneud y gorau o rai cyfleusterau cynhyrchu a gwella effeithlonrwydd.

"Fel rhan o'r cynllun mae'r cwmni yn ystyried y posibilrwydd o gau'r cyfleuster gweithgynhyrchu yn Felinfach yng Nghymru, y posibilrwydd o gau'r swyddfa werthu yn Granada, Sbaen, a'r posibilrwydd o ganoli a dileu rhai swyddi gwerthu a gweinyddol."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd y Cynghorydd Ceris Jones fod y cwmni yn "gyflogwr anferthol yn yr ardal"

Dywedodd cynghorydd yn Nyffryn Aeron bod y sibrydion am ddyfodol y safle yn "drist ofnadwy" ac y byddai'n "ergyd anferthol" i'r ardal petai swyddi'n cael eu colli.

Dywedodd y Cynghorydd Ceris Jones ar Dros Frecwast: "Maen nhw'n gyflogwr anferthol yn yr ardal, ac mae gymaint o bobl yn dibynnu arno fe o ran eu swyddi - mae byti 100 o bobl yn gweithio 'ma."

"Fi'n gobeithio mai dim ond ystyried e maen nhw - o ran beth o'n i'n meddwl o' nhw'n gwmni sefydlog... a dim unrhyw arwyddion fod unrhyw fath o drafferthion gyda nhw a bod nhw'n meddwl adleoli'r busnes."

Ychwanegodd y byddai cau'r ffatri yn cael "impact massive ar yr economi leol, ar y bobl leol", a'i bod yn "teimlo dros bob un sy'n gweithio yna a'r ansicrwydd yma o ddim gwybod be' sy'n mynd i ddigwydd nesa'".

Aeth datganiad y cwmni ymlaen i ddweud bod safleoedd yng Nghanada ac Ariannin yn cau.

Petai'n cael ei gyflawni, dywedodd Sensient y byddai'n arwain at arbedion o rhwng $8-$10m wrth ddiswyddo 130 o bobl ar draws yr holl safleoedd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y newyddion yn "bryder".

Ychwanegodd llefarydd eu bod yn ceisio siarad 芒 Sensient a'i bod yn "amser pryderus i weithwyr, eu teuluoedd a'r gymuned ehangach yn Felinfach".

Pynciau cysylltiedig