'Rhaid brechu plant ar frys i atal y frech goch rhag lledu'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae babanod a phlant ifanc ymysg y rhai sydd 芒'r risg fwyaf o gymhlethdodau yn deillio o'r frech goch

Mae angen gweithredu ar frys er mwyn sicrhau fod plant ysgol yng Nghymru wedi eu brechu yn llawn yn erbyn y frech goch, yn 么l y Prif Swyddog Meddygol.

Dywedodd Syr Frank Atherton y gall achosion ddod yn fwy aml os nad yw'r nifer sy'n derbyn brechlyn MMR rhag y frech goch, clwy'r pennau a rwbela yn cynyddu.

Daw'r rhybudd wedi i Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) alw am weithredu yn dilyn twf sydyn yn nifer yr achosion mewn ysbytai yn Birmingham.

Mae byrddau iechyd yng Nghymru yn cael eu hannog i dargedu disgyblion ym mhob ysgol er mwyn cynyddu lefelau imiwnedd.

4.5% yn llai na'r targed

Babanod a phlant ifanc, menywod beichiog ac unrhyw un gyda system imiwnedd gwan yw'r rhai sydd 芒'r risg fwyaf o gymhlethdodau yn deillio o'r frech goch.

Mae'n afiechyd sy'n gallu gwasgaru yn gyflym ymysg y rheiny sydd heb gael eu brechu, yn enwedig mewn meithrinfeydd ac ysgolion.

Mae'r brechlyn MMR yn cael ei gynnig fel dau gwrs gwahanol - dos cyntaf pan mae plentyn yn un oed, ac ail ddos pan mae'r plentyn yn dair oed a phedwar mis.

Yn 么l ffigyrau diweddaraf, 89.5% yw canran y plant pum mlwydd oed sydd wedi derbyn y ddau ddos.

Targed Sefydliad Iechyd y Byd yw 95%.

Dywedodd Syr Frank Atherton y gallai'r frech goch "arwain at salwch difrifol ymysg plant, gyda rhai yn gallu dioddef cymhlethdodau sy'n newid bywyd".

"Gall rieni warchod eu plant gan wirio eu bod wedi eu brechu'n llawn," meddai.

"Does dim modd i fabanod dan un oed dderbyn y brechiad. Mae'n hanfodol felly fod y rheiny sydd yn gallu derbyn y brechiad yn gwneud hynny. Bydd hyn yn helpu lleihau lledaenu'r frech goch ac yn gwarchod y plant ieuengaf."

Targed i frechu 90% o ddisgyblion Cymru

Mae pob bwrdd iechyd wedi cael cyfarwyddyd i weithredu ar frys er mwyn sicrhau fod 90% o ddisgyblion ym mhob ysgol yng Nghymru wedi eu brechu erbyn diwedd Gorffennaf.

Dywedodd y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol, Dr Chris Jones: "Pan fod achosion yn codi, bydd gofyn i fyfyrwyr a staff sydd heb gael eu brechu'n llwyr i hunan-ynysu am hyd at 21 diwrnod er mwyn stopio'r lledaeniad.

"Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru, y GIG a Llywodraeth Cymru yn cydweithio yn agosach ar gynlluniau pellach i gynyddu'r nifer sy'n derbyn brechiad yr MMR yn y misoedd nesaf."