Brexit 'y peth gwaethaf i ddigwydd i Brydain ers y rhyfel'

Ffynhonnell y llun, S4C

Disgrifiad o'r llun, Peredur ap Gwynedd yn siarad gyda Owain Williams ar raglen Taith Bywyd S4C

Mae Peredur ap Gwynedd, gitarydd band Pendulum, wedi dweud mai Brexit yw'r "peth gwaethaf sydd wedi digwydd i Brydain ers yr Ail Ryfel Byd".

Mewn cyfweliad ar gyfer cyfres Taith Bywyd ar S4C mae'n s么n am golli degau o filoedd o bunnoedd oherwydd cyfyngiadau ar y diwydiant cerddoriaeth yn dilyn Brexit.

Mae Peredur wedi teithio'r byd gyda Pendulum, ac ar fin mynd ar daith arall o amgylch Prydain ac Ewrop.

Cyn hynny, roedd yn chwarae gyda band Natalie Imbruglia pan gafodd hi lwyddiant ysgubol gyda'r sengl Torn.

'Alla i ddim maddau'

Wrth sgwrsio gyda chyflwynydd y rhaglen, Owain Williams, dywedodd Peredur: "Pan o'n ni'n aelodau o'r UE o'n ni'n gallu symud n么l a 'mlaen i Ffrainc, i'r Eidal, i'r Almaen faint bynnag o'n i eisiau.

"Brexit yw'r peth gwaetha' sydd wedi digwydd i Brydain ers yr Ail Ryfel Byd.

"Alla i ddim maddau i unrhyw un sydd wedi pleidleisio drosto fe a fi'n beio nhw. Mae e wedi effeithio arna i a bywydau pobl fi'n gweithio gyda."

Fis Mehefin 2016 fe bleidleisiodd 53% o etholwyr Cymru o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd, gan adlewyrchu'r canlyniad terfynol ar draws Prydain.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ran Llywodraeth y DU bod y mwyafrif llethol o wledydd yr Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys y gwledydd mwyaf blaenllaw o ran teithio megis Sbaen, Ffrainc, Yr Almaen a'r Iseldiroedd yn cynnig fisa a thrwydded gwaith am ddim ar gyfer perfformwyr y DU ac unigolion creadigol arall."

Fe ychwanegon nhw eu bod yn "cefnogi artistiaid gwych y DU i addasu i'r newidiadau ac rydym yn parhau i weithio ar hyd yr Undeb Ewropeaidd i gefnogi ein cerddorion sydd ar daith."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Peredur ap Gwynedd ar lwyfan gyda Pendulum

Ym mis Medi 2022 fe wnaeth Peredur ap Gwynedd roi tystiolaeth yn Nh欧'r Arglwyddi am effaith rheolau Brexit ar fywoliaeth cerddorion a thechnegwyr o'r DU.

Yn 么l Peredur, mae dinasyddion y DU sydd 芒 phasbort Prydeinig ac yn gweithio yn y maes cerddoriaeth byw wedi colli incwm a chyfleoedd gwaith.

Wrth drafod ei gyfnod yn teithio'r byd gyda band Natalie Imbruglia a llwyddiant y sengl Torn dywedodd Peredur: "Gyda Torn, aeth e o ddim byd lan i'r stratosffer - s'dim lot o gerddorion yn cael y profiad yna.

"Sa'i wedi gweld unrhyw beth fel e erioed. Ti 'di gweld e i gyd - i gyd."

Lwcus gyda'i ddwy yrfa

Mae Peredur hefyd yn adnabyddus fel sylwebydd seiclo i S4C, ac yn enw mawr gyda'r seiclwyr hefyd, sydd wrth eu boddau 芒 cherddoriaeth Peredur.

"Y ddau hobi sydd gyda fi yw cerddoriaeth a seiclo," meddai, "Fi'n rili, rili, rili lwcus bod fi'n gallu 'neud y ddau na fel bywoliaeth."

Bydd Taith Bywyd yn cael ei darlledu nos Sul, 4 Chwefror, 21:00 ar S4C.