成人快手

Toni Schiavone: Achos llys arall yn bosib dros d芒l parcio 拢70

  • Cyhoeddwyd
Toni Schiavone
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Toni Schiavone: "Mae'n costio llai i gyfieithu llythyr i'r Gymraeg nag y mae'n costio i'r erlyniad i ddod yma i ymladd yr achos"

Mae'n bosib y bydd ymgyrchydd iaith yn wynebu gwrandawiad llys arall am iddo wrthod talu t芒l parcio oedd wedi cael ei rhoi yn uniaith Saesneg.

Bu Toni Schiavone yn y llys am y trydydd tro ddydd Gwener wrth i gwmni One Parking Solution (OPS) apelio yn erbyn dyfarniad o fis Mai 2022, pan fethodd y cwmni yn ei gais i orfodi Mr Schiavone i dalu'r taliad o 拢70.

Mae Mr Schiavone yn gwrthod talu hyd nes iddo gael yr ohebiaeth yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.

Yn yr achos gwreiddiol, roedd y barnwr wedi gwrthod cais y cwmni gan nad oedd neb yn y llys i gynrychioli OPS.

Ond yn y llys ap锚l ddydd Gwener, dyfarnodd y Barnwr Gareth Humphreys bod hynny yn anghywir a bod afreoleidd-dra gweithredol difrifol wedi'i gyflawni.

Yn siarad wedi'r gwrandawiad ddydd Gwener, dywedodd Toni Schiavone: "Gallai'r mater yma wedi cael ei datrys yn hawdd iawn ac yn gyflym iawn trwy ddarparu Hysbysiad Cosb Parcio Cymraeg neu ddwyieithog.

"Mae'n amlwg erbyn hyn bod gan yr hawlydd mwy o ddiddordeb mewn dial na mewn dangos parch at y Gymraeg a darparu Taleb Cosb Parcio.

"Yn fy marn i mae'r hawlydd wedi ymddwyn ym amharchus, yn afresymol ac yn ddialgar.

"Fe wnaeth One Parking Solutions gyflwyno costau o 拢10,156.70 i fi mewn llythyr ddoe hefyd. Mae hynny'n hollol amhriodol, yn fygythiad diangen ac yn dangos mai dial yw nod y cwmni."

Beth yw'r cefndir?

Derbyniodd Mr Schiavone y rhybudd gwreiddiol ym Medi 2020 am beidio talu OPS am barcio mewn maes parcio yn Llangrannog.

Roedd Mr Schiavone, aelod o Gymdeithas yr Iaith, wedi gwrthod talu'r 拢70 oherwydd bod yr hysbysiad a'r gwaith papur yn uniaith Saesneg.聽

Yn 么l Cymdeithas yr Iaith byddai cyfieithu'r rhybudd, ac osgoi tair achos llys dros gyfnod o dair blynedd a hanner, wedi costio rhwng 拢60 a 拢70.

Doedd y cwmni ddim yn bresennol ar gyfer yr achos cyntaf a chafodd yr ail achos ei daflu o'r llys am ei fod wedi'i gyflwyno yn hwyr ac o dan yr amodau anghywir.

Doedd peidio ystyried y dystiolaeth am nad oedd neb yn bresennol o OPS ddim yn opsiwn i'r barnwr gwreiddiol yn 么l y rheolau, medd y Barnwr Humphreys, gan ychwanegu bod gan y cwmni yr hawl i'r achos gael ei glywed ar sail y papurau yn unig.

Dywedodd y Barnwr Humphreys hefyd bod mater ieithyddol yr achos yn "dal yn fyw" ac nad oedd yr ap锚l wedi ystyried hynny.

Ychwanegodd y barnwr, fel arfer mewn achosion lle mae ap锚l yn llwyddiannus y byddai ef fel arfer yn cyfeirio'r achos yn 么l i'r llys gwreiddiol i'w ail gynnal.

Yn yr achos hwn, mae'r barnwr wedi atal yr achos am 28 diwrnod i roi cyfle i OPS i ystyried a yw am barhau i fynd 芒 Toni Schiavone i'r llys.

Wrth agor y gwrandawiad, dywedodd y Barnwr Humphreys fod yr achos hwn wedi bod yn un hir a chymhleth iawn, ac yn anghymesur 芒'r swm ariannol sy'n cael ei hawlio.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu rhai o gefnogwyr Mr Schiavone y tu allan i'r llys yn un o'r achosion blaenorol

Dywedodd Cai Phillips, Is-gadeirydd Gr诺p Hawl Cymdeithas yr Iaith: "Mae agwedd y cwmni yn gwbl hurt.

"Rydym ni wedi cael gwybod gan sawl cwmni cyfieithu y byddai cost cyfieithu'r rhybudd gwreiddiol i'r Gymraeg rhwng tua 拢60 a 拢70.

"Ond, yn lle gwneud hyn a pharchu hawl Mr Schiavone, mae One Parking Solution wedi mynnu mynd i'r llys am y trydydd tro gan dalu'r holl ffioedd cyfreithiol costus yn y broses.

"Mae'r anghydfod yma'n adlewyrchu methiannau ehangach Mesur Iaith 2011 i warantu hawliau siaradwyr Cymraeg yn y sector preifat.

"Yn ddiweddar, fe gollodd cwsmeriaid HSBC y gallu i ffonio eu banc trwy gyfrwng yr iaith. Ddydd Sadwrn roedd rhai yn picedu Swyddfa Bost Aberystwyth oherwydd agwedd wrth-Gymraeg a diffyg gwasanaeth Cymraeg yno.聽

"Ers i ni ddechrau ein hymgyrch i beidio talu rhybuddion parcio uniaith Saesneg, mae unigolion ar hyd a lled Cymru wedi gwrthod talu ac mewn sefyllfaoedd tebyg i Toni.

"Mae'n allweddol ein bod yn parhau i bwyso i gryfhau Mesur Iaith 2011 ei hun yn ogystal 芒'i weithrediad."