成人快手

Cau banciau Barclays olaf Ceredigion yn 'gywilyddus'

  • Cyhoeddwyd
Banc Aberystwyth
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Banc Barclays yn dweud fod ymweliadau 芒 changhennau yn gostwng a bod y mwyafrif yn dewis bancio ar-lein

Mae'r penderfyniad i gau banciau Barclays yn Aberystwyth ac Aberteifi wedi'i ddisgrifio yn "weithred gywilyddus".

Dim ond y ddwy gangen yma sydd ar 么l gan Barclays yng Ngheredigion.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae'r banc wedi cau eu canghennau yn Aberaeron, Llanbedr Pont Steffan a Thregaron.

Bydd banc Aberteifi yn cau ar 26 Ebrill ac un Aberystwyth ar 3 Mai.

Mae Banc Barclays yn dweud fod ymweliadau 芒 changhennau yn gostwng a bod y mwyafrif yn dewis bancio ar-lein.

Dywedodd Ben Lake, Aelod Seneddol Ceredigion, ei fod wedi cael gwybod am benderfyniad y banc ddydd Iau.

Mae wedi gofyn i swyddogion gweithredol Barclays am gyfarfod cyn gynted 芒 phosib i egluro'r penderfyniad.

"Does gan sawl tref yn y sir ddim cangen banc yn barod, ac mae'n frawychus bod dwy o drefi mwyaf Ceredigion yn gweld eu canghennau'n cau," meddai.

Dywed Elin Jones, sy'n cynrychioli Ceredigion yn y Senedd, bod "cau Barclays yn Aberystwyth ac Aberteifi yn ergyd enfawr gan Barclays, ac yn weithred gywilyddus".

"Cyn hir, ni fydd unrhyw fanc ar 么l yng Ngheredigion, na hyd yn oed yng Nghymru," meddai.

"Mae banciau'n trin eu cwsmeriaid yn wael drwy gau presenoldeb yng nghanol trefi a chefnu'n llwyr ar adeiladau hanesyddol y maent wedi'u meddiannu ers degawdau.

"Mae swyddi'n cael eu colli hefyd o'n trefi gwledig i ganolfannau galwadau pell a botiau di-wyneb.

"Bydd pobl a busnesau yn ei chael yn anoddach cael mynediad at wasanaethau o hyn ymlaen, yn enwedig yr henoed."

Agor banc heb arian i roi cymorth

Wrth ymateb dywedodd Banc Barclays fore Gwener: "Wrth i'r ymweliadau 芒 changhennau barhau i ostwng gyda'r mwyafrif yn dewis bancio ar-lein mae'n rhaid i ni addasu ein gwasanaeth i anghenion cwsmeriaid.

"Yn Aberystwyth ac Aberteifi fe fyddwn ni'n cyflwyno ffyrdd newydd o gefnogi cwsmeriaid a'r gymuned.

"Ein bwriad yw agor Barclays Lleol - banc heb arian ond bydd yn gyfle i bobl weld rhywun wyneb yn wyneb i cael cymorth gyda'u bancio.

"Ry'n ar hyn o bryd yn trafod gyda'r gymuned leol lleoliadau addas."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Maer Aberystwyth, Kerry Ferguson, ei bod wedi cael sioc o glywed y newyddion

Wrth siarad 芒 Cymru Fyw fore Gwener dywedodd Maer Aberystwyth, Kerry Ferguson bod y newyddion yn "ergyd ac yn sioc".

"Doeddwn i ddim wedi disgwyl y newyddion a dwi'n poeni am y staff wrth gwrs.

"Mae'n rhaid cofio nad yw pawb yn gallu bancio ar-lein. Bob tro dwi'n pasio mae'r banc i weld yn brysur iawn.

"Rhaid i ni gofio bod carfan henoed yng Ngheredigion yn uchel iawn - ydy'r banc yn poeni amdanyn nhw?

"Dwi hefyd yn gadeirydd y clwb busnes ac mae'n ergyd fawr i fusnesau yn lleol colli banc arall o'r stryd fawr."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Rhaid ystyried nad yw nifer yn gallu bancio ar-lein," medd Tegwen Morris, Cyfarwyddwr Merched y Wawr

Ar ran Merched y Wawr, dywedodd y Cyfarwyddwr Tegwen Morris wrth Cymru Fyw: "Rydym fel elusen Merched y Wawr yn meddwl fod y datblygiadau diweddaraf gan fanc Barclays yn frawychus a bydd yn cael effaith andwyol ar fusnesau, elusennau ac unigolion yn y canolbarth.

"Mae teithio i fanc eisoes yn heriol ond bydd y ffaith mai yng Nghaerfyrddin neu Fangor bydd y banc Barclays agosaf yn peri pryder a gofid i nifer fawr.

"Rhaid ystyried effaith hyn ar bobl h欧n, bregus ac anabl - o ystyried nad oes nifer yn medru bancio ar-lein."

Ychwanegodd Ben Lake AS: "Mae'r penderfyniad diweddaraf hwn yn atgyfnerthu fy nghred y dylai hybiau bancio gael eu sefydlu mewn ardaloedd gwledig fel Ceredigion fel bod mynediad at wasanaethau a bancio wyneb i wyneb ar gael.

"Dyma gysyniad rydw i wedi bod yn ei gefnogi ers i mi gyflwyno Mesur Seneddol yn San Steffan yn 么l yn 2018 yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud darpariaeth ar gyfer hybiau bancio cymunedol.

"Mae cefnogaeth eang am hybiau o'r fath, ble mae banciau gwahanol yn cytuno i gydleoli gwasanaethau mewn un adeilad, ac er fy mod yn croesawu'r ymdrechion hyd yma i sefydlu hybiau bancio ar draws y DU, mae angen cyflymu'r broses o'u cyflwyno fel y gall ardaloedd yng Ngheredigion elwa ohonynt."