Cyn-aelod Bwncath yn gwadu cyfathrebu'n rhywiol 芒 phlentyn

Disgrifiad o'r llun, Alun Jones Williams yn cyrraedd Llys y Goron Caernarfon ddydd Mawrth, 2 Ionawr

Mae cyn-aelod o fand Bwncath wedi pledio'n ddieuog i gyhuddiad o gyfathrebu'n rhywiol 芒 phlentyn.

Fe ymddangosodd Alun Jones Williams, 26, o ardal Y Ff么r ger Pwllheli, mewn gwrandawiad byr yn Llys y Goron Caernarfon fore Mawrth.

Mae wedi ei gyhuddo o gyfathrebu'n rhywiol gyda phlentyn o dan 16 oed rhwng 1 Ebrill 2023 a 20 Tachwedd 2023.

Plediodd yn ddieuog i'r cyhuddiad yn ei erbyn ac mae disgwyl i'r achos llys yn ei erbyn ddechrau ar 3 Gorffennaf.

Cafodd ei ryddhau ar fechn茂aeth amodol.