成人快手

'Angen gwneud mwy' i gynnwys plant byddar yn y theatr

  • Cyhoeddwyd
Sarah Adedeji
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Sarah Adedeji yw'r stor茂wr sy'n defnyddio Iaith Arwyddo Brydeinig

Mae llai o gyfleoedd i blant byddar fwynhau yn y theatr, yn 么l elusen.

Am y tro cyntaf, mae sioe aeaf Theatr Genedlaethol Cymru i blant yn ddwyieithog, gan ddefnyddio'r Gymraeg a Iaith Arwyddo Brydeinig (BSL).

Er hyn, mae un elusen yn honni bod angen gwneud mwy i gynnwys y gymuned fyddar yn y celfyddydau.

Yn 么l un actores, sy'n fyddar, fe ddylai cynulleidfaoedd byddar "gael yr un hawl" i fwynhau perfformiadau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Swyn wedi'i seilio ar lyfr 'Whimsy' gan Krystal S Lowe.

Yn seiliedig ar y llyfr 'Whimsy' gan Krystal S Lowe, mae'r ddrama Swyn yn rhannu stori merch fach sy'n mynd ar daith aeafol trwy fyd natur i greu ffrindiau newydd.

Mae Sarah Adedeji yn chwarae rhan y stor茂wr sy'n defnyddio BSL trwy gydol y sioe, ochr yn ochr 芒'r stor茂wr Cymraeg.

"Yn yr un ffordd y gall cynulleidfa sy'n clywed fwynhau sioe lawn, dylai fod gan berson byddar yr un hawl i'w fwynhau yn yr un modd," meddai.

Ychwanegodd: "Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn dod o hyd i wahanol ffyrdd o integreiddio BSL.

"Nid dim ond y ffordd draddodiadol o ddod 芒'r cyfieithydd i mewn bob hyn a hyn.

"Dylai BSL fod [ar gael] ym mhob sioe a phob perfformiad."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Idris, Anest, Mali a Elsi o Ysgol Gymunedol Peniel yn mwynhau'r ddrama

Yn 么l y Consortiwm Ymchwil i Addysg Byddar, roedd 2,329 o blant byddar yn byw yng Nghymru y llynedd.

  • Mae 81% o blant byddar oed ysgol yn mynychu ysgolion prif ffrwd;

  • Mae 9% yn mynychu ysgolion prif ffrwd gyda darpariaethau adnoddau;

  • Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ysgolion arbenigol ar gyfer plant byddar yng Nghymru.

Gethin Watkins yw Swyddog Cyngor ac Arweiniad i'r Gymdeithas Plant Byddar Cenedlaethol.

"Ni'n clywed o lot o rieni bod dim digon o gyfleoedd fel hyn iddyn nhw mynd gyda'u plant byddar nhw i weld sioeau," meddai.

"Mae jest llai o cyfleoedd o blant byddar i fynd mas a joio'u hun."

"Yn enwedig amser Nadolig os ti'n meddwl am fynd i weld sioeau gyda'r ysgol - mae'r profiad yna yn gallu bod yn rili positif ond yn anffodus mae plant byddar yn cael eu dal mas o hwna.

"Felly ni jest moen mwy o gyfleoedd fel hyn ar gael," ychwanegodd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r ddrama Theatr Genedlaethol Cymru, Swyn, yn cael ei pherfformio drwy'r Gymraeg a BSL

Mae Aisha-May Hunte yn chwarae rhan y stor茂wr Cymraeg yn Swyn.

Dyma'r ail gynhyrchiad iddi fod yn rhan ohono sy'n defnyddio BSL.

"Mae mor bwysig i gael yr iaith arwyddo pan mae'r plant yn ifanc, yr un ffordd 芒 chael yr iaith Gymraeg," meddai.

"Ni'n gweld yn y sioe eu bod nhw'n ymateb i'r iaith hefyd a maen nhw eisiau dysgu'r iaith yma."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r actor Aisha-May Hunte yn dweud bod angen fwy o ymdrech i gynnwys y gymuned fydddar.

Yn 么l Aisha-May mae angen mwy o ymdrech gan gwmn茂au theatr i gynnwys y gymuned fyddar.

"Mae e'n gallu digwydd, ni'n dangos bod e'n bosib," ychwanegodd.

"Dwi'n meddwl bydd cwmn茂au eraill yn gallu gwneud os bod nhw'n trio tipyn bach yn galetach."

Bydd Swyn, sioe hanner awr, yn teithio o amgylch Cymru hyd at 20 Rhagfyr.

Mae'r Gymdeithas Plant Byddar Cenedlaethol wedi darparu o berfformiadau pantomeim sy'n addas ar gyfer plant byddar yng Nghymru eleni.