成人快手

Aberfan: Cyhuddo dyn o geisio llofruddio menyw feichiog

  • Cyhoeddwyd
Daniel Mihai Popescu yn cyrraedd Llys Ynadon MerthyrFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Daniel Mihai Popescu yn cyrraedd Llys Ynadon Merthyr

Mae dyn 28 oed wedi bod o flaen Llys Ynadon Merthyr Tudful wedi'i gyhuddo o geisio llofruddio ar 么l i fenyw feichiog, 29, gael ei thrywanu yn Aberfan.

Cafodd Daniel Mihai Popescu, 28, ei arestio wedi i Andreea Pintili ddioddef ymosodiad ar Ffordd Coronation yn Aberfan ddydd Mawrth.

Aed 芒 hi i'r ysbyty ond mae hi bellach wedi gadael.

Yn ystod y gwrandawiad byr fe wnaeth Daniel Popescu ond cadarnhau ei enw a'i ddyddiad geni a dywedodd nad oedd ganddo gartref parhaol.

Mae Daniel Popescu wedi'i gyhuddo hefyd o stelcian a chodi ofn ar dyst.

Ffynhonnell y llun, Andreea Pintili
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd llygad dystion i'r digwyddiad bod Andreea Pintili yn feichiog

Clywodd y llys ei fod yn y cyfnod rhwng 25 Hydref 2023 a 6 Rhagfyr 2023 "wedi dilyn Ms Pintili, wedi ceisio ei ffonio o lefydd na sy'n dangos y rhif ff么n, wedi gwneud ffilm fideo ohoni a'i roi ar gyfrif Tik Tok ac wedi eistedd y tu allan i'w chyfeiriad".

Dywedodd y Barnwr Neale Thomas fod y cyhuddiad o geisio llofruddio mor ddifrifol fel mai dim ond yn Llys y Goron y gellir delio ag ef, a'i fod yn "gwneud synnwyr" i'r ddau gyhuddiad arall gael eu clywed ar yr un pryd.

Cafodd yr achos ei ohirio tan 4 Ionawr lle bydd gwrandawiad yn Llys y Goron Merthyr Tudful.

Mae Mr Popescu wedi'i gadw yn y ddalfa tan hynny.

Pynciau cysylltiedig