Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dyfodol ansicr Gemau'r Gymanwlad yn 'dorcalonnus'
- Awdur, Annell Dyfri a Rhian Price
- Swydd, 成人快手 Cymru Fyw
Mae rhai o athletwyr amlycaf Cymru wedi mynegi pryder ynghylch dyfodol Gemau'r Gymanwlad wedi i Awstralia dynnu eu cais yn 么l i'w cynnal yn 2026.
Does na'r un wlad wedi gwneud cais chwaith i lwyfannu'r gemau yn 2030.
Mae'r gemau'n rhoi cyfle prin i gystadleuwyr o Gymru gynrychioli eu mamwlad yn hytrach na Phrydain Fawr neu'r DU ar y llwyfan rhyngwladol.
Fe fyddai colli'r fath gyfle yn y dyfodol yn "dorcalonnus" yn 么l y cyn-bencampwr nofio Georgia Davies ac yn "siom fawr" i'r cyn-athletwr Rhys Williams.
Mae'r ddau hefyd yn poeni ynghylch effaith yr ansicrwydd ar baratoadau athletwyr sydd wedi bod yn ymarfer yn gyson ers rhai blynyddoedd.
Dywed llywodraethau bod cost cynnal y gemau bellach yn rhy uchel, ond mae rhai arbenigwyr yn dadlau bod delwedd a pherthnasedd yr achlysur yn llai nag yr oedd.
Bu'n rhaid i ddinas Birmingham gamu i'r adwy a chynnal Gemau 2022 wedi i'r trefniadau yn Durban, yn Ne Affrica fynd o chwith.
Ond mae cyngor y ddinas ei hun mewn trafferthion ariannol dybryd erbyn hyn ac wedi methdalu.
Mae'r cadarnhad na fydd modd cynnal Gemau 2026 yn Awstralia wedi'r cyfan yn "siom fawr", medd y cyn-athletwr Rhys Williams, sydd bellach yn bennaeth gwibio Athletau Cymru - nid yn unig i'r athletwyr ond i bawb sy'n cael eu cyflogi yn sgil y gystadleuaeth.
Mae'n "newyddion drwg", dywedodd ar raglen Dros Frecwast, yn enwedig i'r athletwyr sy'n anelu at gyrraedd Gemau'r Gymanwlad, am eu bod yn annhebyg o gael eu cynnwys yn nh卯m Prydain Fawr yn y Gemau Olympaidd.
Dywedodd y cyn-bencampwr Ewropeaidd 400m dros y clwydi ei fod "mor falch" o gael cystadlu dros Gymru a chlywed Hen Wlad Fy Nhadau yn y stadiwm pa fo Cymru'n cipio medal aur.
"Dwi'n credu mae blas mas fan'na am Gemau'r Gymanwlad, nid dim ond mewn athletau ond campau fel p锚l-rwyd," dywedodd.
Ond mae'n cydnabod bod yna her fawr erbyn hyn i drefnwyr y Gemau ddenu'r noddwyr angenrheidiol i'w cynnal yn y dyfodol.
Georgia Davies: 'Un o atgofion hapusaf fy ngyrfa'
"Dwi'n bendant yn poeni am ddyfodol y Gemau," dywedodd Georgia Davies, a enillodd fedalau aur ac arian yng Ngemau Glasgow yn 2014.
"Mae'n eithaf pryderus bod Awstralia wedi tynnu allan yn eithaf hwyr yn y dydd, oherwydd mae'n golygu nad oes gormod o amser i rywun arall gamu i mewn.
"Byddai'n drueni enfawr os oes rhaid canslo'r gemau oherwydd bydd mor gymaint o athletwyr wedi bod yn hyfforddi am amser ac wedi bod yn canolbwyntio ar yr eiliad honno mewn amser.
"Roedd Gemau'r Gymanwlad mor bwysig i mi, oherwydd nhw oedd fy nghystadleuaeth ryngwladol senior gyntaf, a helpodd i adeiladu fy hyder ar y lefel honno o lwyfan, ac fe wnaethon nhw roi'r cyfle i mi gynrychioli Cymru, rhywbeth rydw i mor falch ohono.
"Roedd y cyfle i gystadlu dros Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn game-changer i mi. Fe wnaeth wir fy helpu i gredu ynof fy hun a rhoi'r hwb i'r hyder yr oedd ei angen arnaf i gefnogi fy hun ar lwyfan y byd.
"Es i o fy Ngemau Cymanwlad cyntaf yn Delhi, i fy Mhencampwriaethau Byd cyntaf y flwyddyn ganlynol, i gymhwyso ar gyfer fy Ngemau Olympaidd cyntaf y flwyddyn wedyn.
"Byddai'n drueni mawr pe na bai cenedlaethau'r dyfodol yn cael yr un cyfle a phrofiad o gystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad."
Ychwanegodd: "Er eu bod yn cael eu hadnabod fel y 'gemau cyfeillgar' roedd cystadleuaeth ffyrnig bob amser rhwng yr holl wledydd cartref, yn ogystal ag ymdeimlad dwys o falchder dros gystadlu i Gymru.
"Fe wnes i gystadlu mewn tair o Gemau'r Gymanwlad dros fy yrfa a nhw yw rhai o fy hoff atgofion. Enillais fedal efydd yn fy Ngemau cyntaf yn 2010 yn y 50m trawiad cefn, deuthum yn Bencampwr y Gymanwlad yn yr un ras bedair blynedd yn ddiweddarach yn Glasgow ac ennill arian yn y 100m cefn.
"Yna yn fy trydydd Gemau, a'r olaf yn 2018 ar y Gold Coast, enillais fedal efydd ar y 50m trawiad cefn ac ail efydd ar ras gyfnewid medley. Mae ennill yr aur yn 2014 a chlywed yr anthem Genedlaethol yn un o fy atgofion hapusaf o fy ngyrfa.
"Rwy'n wir gobeithio y gall y Gemau gael eu cynnal mewn rhyw fodd hyd yn oed os oes rhaid eu rhannu dros wahanol leoliadau.
"Ni allaf ddychmygu na fyddai Gemau'r Gymanwlad bellach, byddai'n ddiwedd ar rywbeth arbennig a fyddai'n dorcalonnus."