成人快手

Gove yn gwadu cadw Llywodraeth Cymru allan o drafodaethau Covid

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Michael GoveFfynhonnell y llun, UK Covid-19 Inquiry
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd r么l Michael Gove yn cynnwys cydgysylltu ar draws adrannau Llywodraeth y DU a gwledydd datganoledig y DU

Mae un o uwch-weinidogion Llywodraeth y DU wedi gwadu bod y gweinyddiaethau datganoledig wedi'u cadw allan o drafodaethau yn ystod cyfnod hollbwysig o'r pandemig.

Roedd Michael Gove yn siarad yn ymchwiliad cyhoeddus y DU.

Honnodd Mr Gove y bu lefel "dda" o ymgysylltu 芒 Llywodraeth Cymru, ond nid y lefel o ragweladwyedd a fynnir gan y Prif Weinidog Mark Drakeford.

Dywedodd y bu "lleihad ond nid stop" ar gyswllt rheolaidd rhwng Mai a Hydref 2020.

Roedd r么l Mr Gove fel Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn yn cynnwys cydgysylltu ar draws adrannau Llywodraeth y DU a gwledydd datganoledig y DU.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd gan Gymru reolau ei hun yn ystod y pandemig, oedd yn cael eu penderfynu gan Lywodraeth Cymru

Awgrymodd Cwnsler i'r Ymchwiliad, Hugo Keith KC, i Mr Gove ei bod wedi cymryd cryn dipyn o amser i sefydlu system gyswllt reolaidd.

Dywedodd Mr Keith wrth Mr Gove fod bwlch rhwng Mai a Hydref 2020 pan gafodd y gweinyddiaethau datganoledig eu cadw allan o drafodaethau "i raddau helaeth iawn".

"Na," atebodd Mr Gove.

"Cafwyd galwadau rheolaidd o amrywiaeth o fathau gyda fy swyddogion a swyddogion y gweinyddiaethau datganoledig... ystod o fecanweithiau i sicrhau bod y gweinyddiaethau datganoledig... yn rhan o'n sgyrsiau eang."

Ymatebodd Mr Keith gan ddyfynnu datganiad Mr Gove ei hun na wahoddwyd y prif weinidogion i Covid-O (corff gwneud penderfyniadau pandemig allweddol) ar sail sefydlog tan fis Hydref.

"A oedd bwlch rhwng mis Mai a diwedd yr hydref pan na chafodd y gweinyddiaethau datganoledig ar y lefel wleidyddol hon yr un lefel o fynediad i Lywodraeth y DU ag oedd ganddynt hyd yn hyn ac wedi hynny?," gofynnodd Mr Keith.

"Rwy'n meddwl bod lleihad, ond nid stop," atebodd Mr Gove.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Arweiniodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ymateb Cymru i'r pandemig

Gwnaeth Prif Weinidog Cymru alwadau dro ar 么l tro am "rhythm ymgysylltu rhagweladwy" yn ystod y pandemig.

Dywedodd wrth yr ymchwiliad yn gynharach eleni: "Yr hyn nad oedd ganddyn nhw oedd sail systematig ar gyfer ymgysylltu a dyma fy nghwyn ers tro byd am gysylltiadau rhynglywodraethol yn y DU.

"Maen nhw'n dibynnu'n llawer rhy aml ar barodrwydd unigolion i weithio yn y ffordd honno, a'r hyn sydd ei angen arnoch chi yw system gadarn o beirianwaith llywodraethu sy'n dod 芒 phobl at y bwrdd ar gyfer diddordebau cyffredin, p'un a ydynt am wneud hynny ai peidio."

Dywedodd Mr Gove yn ei farn ef fod Llywodraeth y DU wedi elwa o ddod 芒'r gweinyddiaethau datganoledig i mewn i drafodaethau cyn gynted 芒 phosib.

Roedd yn anghytuno bod y gwledydd datganoledig yn cael gwybod am benderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth y DU yn hytrach na bod yn rhan o wneud penderfyniadau.

Cyflwynwyd rheoliadau Covid o dan ddeddfwriaeth iechyd y cyhoedd, a oedd yn golygu bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd cyfrifoldeb am wneud penderfyniadau yng Nghymru ar 么l y cyfyngiadau symud cychwynnol ledled y DU ym mis Mawrth 2020.

'Ydy'r setliad datganoli yn gweithio?'

Arweiniodd at broblemau ynghylch llunio polisi iechyd cyhoeddus yng Nghymru ond penderfyniadau ariannol yn cael eu rheoli gan y Trysorlys yn San Steffan.

Cwynodd Mark Drakeford ym mis Tachwedd 2020 pan wrthododd y Trysorlys ymestyn y cynllun ffyrlo i gwmpasu cyfyngiadau dros dro Cymru.

Dywedodd Mr Gove: "Roedd y broblem yn syml. Roedd y gweinyddiaethau datganoledig, yn ddealladwy, eisiau mwy o arian.

"Y sefyllfa oedd eu bod nhw - bod y Deyrnas Unedig gyfan - wedi cael ymateb hael gan y Canghellor.

"Yn y pen draw os mai'r cwestiwn yw 'ydy'r setliad datganoli yn gweithio?' yna ydy, oherwydd bod y sail y mae'r Trysorlys yn ariannu gwahanol rannau'r Deyrnas Unedig arni yn deg."