Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Amseroedd aros y GIG yn parhau i waethygu yng Nghymru
- Awdur, Owain Clarke
- Swydd, Gohebydd Iechyd 成人快手 Cymru
Mae'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd yn parhau i gynyddu, a hynny ar drothwy "cyfnod anoddaf" y flwyddyn, yn 么l Llywodraeth Cymru.
Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos fod perfformiad y gwasanaeth ambiwlans o ran ymateb i'r galwadau mwyaf difrifol wedi dirywio i'r lefel waethaf ond un erioed.
Mae amseroedd aros unedau brys yn waeth nag ar unrhyw adeg ers Rhagfyr y llynedd.
Mynychodd mwy o bobl unedau brys fis diwethaf nag yn unrhyw fis Hydref blaenorol, a bu'n rhaid i'r gwasanaeth ambiwlans ymateb i'r ail gyfran uchaf o alwadau lle mae bywyd mewn peryg yn syth.
Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos twf eto ym maint rhestrau aros am driniaethau sydd wedi cael eu trefnu o flaen llaw - i dros 760,000 - y ffigwr uchaf erioed.
Ond mynnodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod hi'n "galonogol" fod achosion lle mae rhywun wedi aros am y cyfnodau hiraf wedi gostwng ychydig.
Gofal Brys
Ym mis Hydref fe dderbyniodd y gwasanaeth ambiwlans 4,918 o alwadau coch (lle mae bywyd yn y fantol).
Mae hynny'n gyfartaledd o 159 o alwadau coch bob dydd - y ffigwr uchaf ond un i'w gofnodi.
Cafodd 47.2% o'r galwadau hyn ymateb o fewn wyth munud - y perfformiad misol gwaethaf ond un.
Dylai 65% o'r galwadau hyn gael ymateb mewn wyth munud yn 么l y targedau.
Roedd unedau brys dan bwysau mawr hefyd, gyda dim ond 68.7% o gleifion yn treulio llai na phedair awr yn yr unedau hynny o'i gymharu 芒'r targed o 95%.
Dyma'r perfformiad misol gwaethaf ers Rhagfyr 2022.
Yn ystod yr un cyfnod fe fu'n rhaid i 9,934 o gleifion aros dros 12 awr mewn uned frys. Yn 么l y targedau, ddylai neb aros mor hir 芒 hynny.
Mae adroddiad newydd yn cynnig cipolwg i ni o'r heriau wynebodd un uned frys yn y gorllewin yn ystod yr haf.
Ar 么l ymweld ag uned frys Ysbyty Llwynhelyg ym mis Awst nododd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru amryw o bryderon oedd angen mynd i'r afael 芒 nhw yn syth.
Roedd nifer o'r rhain yn ymwneud 芒'r ffaith fod yr uned yn orlawn gyda chleifion yn gorfod eistedd neu orwedd mewn ardaloedd agored, a mwy nag un claf mewn ciwbicl ar yr un pryd.
Roedd y gorlenwi hefyd, yn 么l yr arolygwyr, wedi effeithio ar allu staff i ddiogelu cleifion rhag heintiau.
Ond roedd yr arolygwyr yn cydnabod fod y sefyllfa'n fwy heriol na'r arfer oherwydd bod 100 o welyau yn yr ysbyty wedi gorfod cael eu cau am resymau diogelwch, yn dilyn pryder yn ymwneud 芒 choncrit RAAC
Rhyddhau cleifion o'r ysbyty
Yn aml iawn mae'r pwysau ar unedau brys a'r gwasanaeth ambiwlans yn uchel oherwydd nad oes digon o welyau gwag mewn ysbytai i drosglwyddo cleifion.
Mae'r ystadegau'n dangos fod 1,551 o gleifion, ym mis Hydref, yn aros mewn gwely ar ward ysbyty er bod eu triniaeth meddygol ar ben.
Yn aml iawn mae hyn o ganlyniad i oedi wrth drefnu gofal ar eu cyfer.
Rhestrau Aros
Mae'r ffigyrau'n dangos fod cyfanswm o 761,100 o driniaethau yn aros i gael eu cwblhau ym mis Medi - ffigwr sydd wedi cynyddu am seithfed mis yn olynol.
Ond mae'r nifer sydd wedi bod yn aros am y cyfnodau hiraf wedi gostwng ychydig.
Ym mis Medi roedd 133,500 yn aros am fwy na blwyddyn (gostyngiad 0.7% o gymharu ag Awst) a 26,400 yn aros dros ddwy flynedd - ffigwr sydd wedi gostwng 62.5% ers mis Mawrth 2022.
Eto i gyd mae'r nifer sy'n aros dros ddwy flynedd yng Nghymru yn uwch o lawer na'r nifer yn Lloegr.
Yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr roedd dros 177,000 o achosion lle mae rhywun yn aros am driniaeth, a bron i 8,400 o'r rheiny wedi aros dros ddwy flynedd.
Mewn ymgais i ostwng y ffigyrau yma, mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i wario 拢29.4m i ddatblygu canolfan orthopedig newydd yn Ysbyty Llandudno.
Y gobaith yw y bydd hyn yn caniat谩u i 1,900 o driniaethau orthopedig ychwanegol sydd ddim yn rhai cymhleth gael eu cwblhau bob blwyddyn.
Bydd y gwaith yn dechrau ym mis Chwefror a'r gobaith yw cwblhau'r ganolfan erbyn dechrau 2025.
Yn 么l y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, fe fydd y ganolfan yn "fudd enfawr" i bobl sy'n byw yn y gogledd.
"Bydd y ganolfan bwrpasol hon yn helpu i leihau ymhellach yr amser y mae angen i bobl aros am driniaeth yn ogystal 芒 chynnal y cynnydd yn nifer y cleifion sy'n cael eu trin," dywedodd.
"Yn ogystal 芒 gwella canlyniadau cleifion, rwy'n gobeithio y bydd yn helpu'r bwrdd iechyd i ddenu a chadw staff ac edrychaf ymlaen at agor y cyfleuster newydd hwn."
Canser
Ym mis Medi dechreuodd 52.9% o achosion lle mae rhywun yn cael ei hamau o gael canser driniaeth o fewn 62 o ddiwrnodau - sy'n llai o lawer na'r targed o 75% a'r ffigwr misol gwaethaf ond un.
Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr sy'n perfformio orau ar y mesur hwn - 57.7%.
Bwrdd Iechyd Hywel Dda sy'n perfformio waethaf - 46.1%.