成人快手

Ffrae Amgueddfa Cymru wedi costio 拢620,000 i drethdalwyr

  • Cyhoeddwyd
Roger LewisFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Mr Lewis yn gyn-brif weithredwr Undeb Rygbi Cymru

Mae ffrae arweiniodd at gyn-bennaeth rygbi yn gadael ei swydd yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru wedi costio dros 拢620,000 i drethdalwyr, yn 么l adroddiad.

Fe wnaeth dau uwch swyddog gwynion am Roger Lewis pan oedd yn llywydd yr amgueddfa.

Mae'r amgueddfa wedi cael eu beirniadu am y modd y deliodd gyda'r anghydfod.

Dywedodd Mr Lewis bod ymchwiliad wedi canfod nad oedd wedi torri unrhyw un o Egwyddorion Nolan ar gyfer bywyd cyhoeddus.

Casglodd yr ymchwiliad hwnnw, gan yr Archwilydd Cyffredinol Adrian Crompton, fod rhai agweddau o'r cwynion yn ei erbyn wedi'u cadarnhau, yn rhannol neu'n llawn.

Cafodd Mr Lewis ei benodi fel llywydd yr amgueddfa gan Lywodraeth Cymru yn Ebrill 2019, cyn camu'n 么l ym mis Tachwedd 2022 fel rhan o setliad, a gadael ar ddiwedd 2022, dri mis yn gynt na'r disgwyl.

Yn Rhagfyr 2022, cafodd ei benodi gan Lywodraeth Cymru i arwain adolygiad o'r corff treftadaeth Cadw.

Casglodd adroddiad Mr Crompton fod ymchwiliad Llywodraeth Cymru ei hun wedi canfod nad oedd ymddygiad Mr Lewis bob amser yn cyrraedd y safonau uchaf.

Mae Mr Lewis yn gyn-brif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, ac yn gyn-gadeirydd Maes Awyr Caerdydd - sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru.

Ffynhonnell y llun, Geograph/ Lewis Clarke
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Amgueddfa Cymru'n dadlau nad oedd yr adroddiad yn "adlewyrchiad teg o'r digwyddiadau"

Yn 么l yr adroddiad, fe wariodd yr amgueddfa 拢757,613, yn cynnwys setliad o 拢325,698 i'r cyfarwyddwr cyffredinol ar y pryd, David Anderson, oedd yng ngofal y sefydliad.

Cafodd 拢419,915 ei wario ar wasanaethau cyfreithiol a phroffesiynol - er bod yr amgueddfa wedi hawlio 拢131,230 yn 么l trwy yswiriant.

Cododd Mr Crompton bryderon ynghylch "methiannau llywodraethu difrifol" yn y sefydliad, ac na allai ddangos ei fod yn gweithredu er lles y pwrs cyhoeddus.

Dywedodd Amgueddfa Cymru nad oedd yr adroddiad yn "adlewyrchiad teg o'r digwyddiadau".

'Bwlio a gwahaniaethu'

Fe wnaeth Mr Anderson a'r cyn-brif weithredwr Neil Wicks gwyno am Mr Lewis ym Mehefin 2021, yn 么l yr adroddiad.

Dywedodd Mr Crompton eu bod yn honni bod ymddygiad Mr Lewis tuag atyn nhw "gyfystyr 芒 bwlio a gwahaniaethu".

Ni wnaeth archwilydd annibynnol a gafodd ei benodi gan Lywodraeth Cymru ganfod fod y llywydd "wedi torri amodau ei swydd yn glir".

Yn 么l Mr Crompton, dywedodd yr archwilydd nad oedd ei ymddygiad Mr Lewis "bob amser wedi cyrraedd y safonau uchaf" a bod "ei weithredoedd wedi ei adael yn agored i gyhuddiadau nad oedd bob amser mor wrthrychol ac agored ag y gallai fod".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe adawodd David Anderson Amgueddfa Cymru ym mis Mawrth 2023

Roedd y ddau swyddog hefyd wedi cwyno'n uniongyrchol at yr amgueddfa.

Cyflwynodd Mr Anderson ddau gwyn i dribiwnlys cyflogaeth - yr ail yn Awst 2022 oedd yn cynnwys honiadau o driniaeth annheg.

Ni ddaeth ymchwiliad annibynnol i'r cwynion i'r casgliad fod Mr Lewis wedi torri Egwyddorion Nolan y mae disgwyl i swyddogion cyhoeddus eu dilyn.

Dywedodd Mr Crompton "nad oedd wedi cadarnhau llawer o'r cwynion, ond ei fod wedi cadarnhau rhai agweddau yn rhannol neu'n llawn", gan gynnwys bod Mr Lewis "wedi tanseilio'r cyn-gyfarwyddwr cyffredinol, y prif swyddog gweithredu a staff eraill, yn gyhoeddus ac yn breifat, pan gynhaliwyd cyfarfodydd yn groes i reolau bwrdd yr ymddiriedolwyr".

Roedd Mr Anderson wedi honni bod ymddiriedolwyr yn cyfarfod mewn sesiynau preifat heb swyddogion.

Dechreuodd yr amgueddfa drafod gyda'r cyfarwyddwr cyffredinol ar y pryd yn Hydref 2022, gan arwain at setliad oedd yn golygu tynnu'r cwynion tribiwnlys yn 么l.

Yn sgil y cytundeb, cafodd Mr Anderson ei roi ar gyfnod rhybudd tan fis Medi 2024 - mae bellach yn Gymrawd Emeritws yr Amgueddfa, nid yn gyfarwyddwr cyffredinol.

Hefyd yn rhan o'r cytundeb, camodd Mr Lewis yn 么l o'i swydd o 17 Tachwedd 2022, a rhoi'r gorau yn llwyr ar 31 Rhagfyr.

Cafodd y cytundeb ei arwyddo gan gyfarwyddwr adnoddau dynol Llywodraeth Cymru, is-lywydd yr amgueddfa, Mr Lewis a Mr Anderson.

Mae Llywodraeth Cymru'n ariannu'r elusen rhan fwyaf gydag arian cyhoeddus, ac mae'n penodi llywydd.

'Y broses yn sylfaenol ddiffygiol'

Dywedodd Mr Crompton fod y "broses o wneud penderfyniadau i ddatrys yr anghydfod" yn "sylfaenol ddiffygiol".

Dywedodd nad oedd yr amgueddfa wedi gallu dangos eu bod wedi gweithredu er lles gorau'r elusen na bod y setliad yn cynrychioli gwerth am arian.

Dywedodd hefyd na chafodd ei d卯m archwilio "unrhyw gyngor ysgrifenedig penodol gan Lywodraeth Cymru i Amgueddfa Cymru ynghylch y cytundeb setlo ei hun, er gwaethaf rhan cyfarwyddwr adnoddau dynol Llywodraeth Cymru yn y broses honno".

Fe wnaeth Mr Wicks ymddeol ddiwedd Gorffennaf 2022 gan dderbyn taliad o 拢12,000 i setlo unrhyw hawliad posibl gyda'r amgueddfa.

Ni wnaeth yr archwilydd cyffredinol nodi pryderon ynghylch y taliad hwnnw.

'Ddim yn adlewyrchiad teg'

Dywedodd Mr Lewis: "Rydw i'n falch o allu dweud bod yr Archwilydd Cyffredinol yn nodi ddwywaith yn ei adroddiad, nad oeddwn i wedi mynd yn groes i unrhyw un o'r egwyddorion craidd yn ystod fy nghyfnod fel llywydd yr amgueddfa.

"Mae Egwyddorion Nolan ar gyfer bywyd cyhoeddus yn cael eu rhestru gan yr archwilydd; anhunanoldeb, gonestrwydd, gwrthrychedd, atebolrwydd, agoredrwydd, cywirdeb, ac arweinyddiaeth."

Mewn datganiad, dywedodd yr amgueddfa: "Mae Amgueddfa Cymru yn parchu barn ac argymhellion yr Archwilydd cyffredinol ac yn gwerthfawrogi'r cydweithrediad gydag Archwilio Cymru drwy gydol y broses anodd yma.

"Er hynny, rydym yn siomedig nad yw peth o'r dystiolaeth gafodd ei gyflwyno gan Amgueddfa Cymru wedi cael ei gynnwys yn yr adroddiad.

"Dydyn ni felly ddim yn teimlo ei fod yn adlewyrchiad teg o'r hyn ddigwyddodd, na chwaith ei fod yn ystyried yn llawn, yr amgylchiadau anodd y bu'n rhaid i Amgueddfa Cymru eu datrys.

Ychwanegodd yr amgueddfa fod y setliad "wedi galluogi iddyn nhw osgoi'r hyn fyddai wedi bod yn broses cyfreithiol hir a chostus".

"Dydi'r ffigwr o 拢757,613 sy'n cael ei nodi yn yr adroddiad ddim yn cyfeirio at y setliad yn unig, ond mae hefyd yn cynnwys costau cyflog, a ffioedd proffesiynol oedd wedi eu casglu dros nifer o flynyddoedd".

"Rydyn ni wedi dysgu nifer o wersi yn dilyn y cyfnod anodd yma".

Ymateb y llywodraeth

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n ymwybodol o adroddiad Archwilio Cymru a'r problemau diweddar o fewn Amgueddfa Cymru.

"Byddwn yn ystyried casgliadau'r adroddiad yn ofalus cyn ymateb," meddai'r llefarydd.

Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd wedi codi cwestiynau eu hunain "yngl欧n 芒 rheolaeth y llywodraeth o'i chyrff cyhoeddus", gan ddweud y bydda nhw'n "mynnu atebion gan y llywodraeth yngl欧n 芒'u rhan yn y saga".

Maen nhw hefyd yn bwriadu cwestiynu cadeirydd a phrif weithredwr newydd yr amgueddfa, "i glywed am eu cynlluniau i sefydlogi a chyflwyno gwelliannau".

Pynciau cysylltiedig