成人快手

Cwestiynu pa mor 'rhwydd' oedd sgam 拢9,000 Cyngor Cymuned Harlech

  • Cyhoeddwyd
Annwen Hughes
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Annwen Hughes: 'Rydyn ni i gyd wedi dysgu gwersi - yn enwedig fi - ac wedi symud ymlaen'

Mae archwilwyr wedi mynegi pryder am ba mor "rhwydd" oedd hi i gyngor cymuned yng Ngwynedd golli 拢9,000 o bres cyhoeddus i sgam ariannol.

Daeth i'r amlwg ym mis Gorffennaf fod Cyngor Cymuned Harlech wedi colli'r arian drwy dwyll APP, neu authorised push payment.

Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi rhybuddio cynghorau cymuned ledled y wlad i ddilyn prosesau seibrddiogelwch tynnach yn dilyn y digwyddiad.

Awgrymodd archwilwyr "nad yw'r arfer o wneud taliadau heb graffu priodol yn ddigwyddiad unigryw".

Yn 么l Annwen Hughes, Clerc Cyngor Cymuned Harlech, "rydyn ni i gyd wedi dysgu gwersi - yn enwedig fi - ac wedi symud ymlaen".

'Dim darlun cywir'

Dywedodd y cyngor - sy'n gwario tua 拢100,000 y flwyddyn - eu bod wedi colli 拢9,000 drwy sgam gan berson o'r enw Oluwafeni Odunuga.

Roedd wedi datgan ei fod yn mynd i wneud gwaith ymgynghorol i'r cyngor a bod angen taliad o flaen llaw.

Cafwyd mynediad heb awdurdod i gyfeiriad e-bost y clerc, gan ganiat谩u i drydydd parti ddefnyddio ei chyfrif e-bost.

Cafodd dau daliad o 拢4,500 ei drosglwyddo yn Rhagfyr 2022 heb awdurdodiad priodol gan y cyngor.

Yn dilyn gwaith archwilio, daeth i'r amlwg fod gweithdrefnau'r cyngor wedi methu ag atal y golled rhag digwydd a bod methiant i arfer diwydrwydd dyladwy priodol (proper due diligence) wrth wneud y ddau daliad.

Ffynhonnell y llun, Google Streetview
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Cyngor Cymuned Harlech - sy'n gwario tua 拢100,000 y flwyddyn - eu bod wedi colli'r arian drwy dwyll APP

Yn 么l Swyddfa Archwilio Cymru, mae'r ffaith fod y twyll wedi'i gyflawni "mewn modd rhwydd yn codi pryderon" ac yn "awgrymu efallai nad yw'r arfer o wneud taliadau heb graffu priodol yn ddigwyddiad unigryw".

Maen nhw hefyd wedi nodi'r pwysigrwydd fod y cyngor yn "cadw cofnodion cywir a hygyrch o drafodion a phenderfyniadau", gan "nad yw cofnodion Cyngor Cymuned Harlech yn cyflwyno darlun cywir o sut y digwyddodd y golled o 拢9,000".

Ers colli'r 拢9,000 mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi derbyn fod Cyngor Cymuned Harlech wedi cymryd rhai camau i fynd i'r afael 芒 diffygion yn ei drefniadau mewnol.

Roedd hyn wedi i'r archwilydd gyflwyno argymhellion i wella'r trefniadau mewnol, gan gynnwys:

  • Adolygu ei drefniadau ar gyfer gwneud taliadau er mwyn sicrhau bod pob taliad yn destun proses awdurdodi briodol;

  • Adolygu taliadau mwy a wnaed dros y 12 mis diwethaf i weld a oedd y digwyddiad hwn yn ddigwyddiad unigryw neu'n ddigwyddiad rheolaidd;

  • Sicrhau bod y wefan yn cael ei diweddaru'n rheolaidd ac yn cynnwys yr holl wybodaeth y mae'n ofynnol i'r cyngor ei chyhoeddi'n electronig.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Adrian Crompton

Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton: "Mae'n destun pryder ein bod yn gwneud sylwadau am wendidau mewn rheolaeth ariannol a llywodraethu yn rheolaidd.

"Mae'r twyll yng Nghyngor Cymuned Harlech yn enghraifft arall o hyn.

"Mae'n bwysig bod y sector yn cymryd sylw ac yn gwneud gwelliannau i'r mater parhaus hwn o reoli ariannol a seibrddiogelwch gwael."

Trigolion wedi 'rhoi amser caled i ni'

Mewn ymateb dywedodd Annwen Hughes, Clerc Cyngor Cymuned Harlech, fod gwersi wedi eu dysgu.

"Bydd y cyngor yn trafod yr adroddiad hwn yn fanwl yn ei gyfarfod nesaf ddechrau Rhagfyr," meddai Ms Hughes, sydd hefyd yn gynghorydd sir ac yn gadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

"Rydyn ni eisoes wedi dysgu llawer o wersi o'r hyn ddigwyddodd, ac wedi gwneud newidiadau i'r ffordd rydyn ni'n gweithredu ar faterion ariannol.

"Felly mewn sawl ffordd mae'r adroddiad yma yn hen newyddion; rydyn ni i gyd wedi dysgu gwersi - yn enwedig fi - ac wedi symud ymlaen.

"Mae'r trigolion wedi derbyn hyn - yn sicr fe wnaethon nhw roi amser caled i ni pan ddaeth y manylion allan am yr hyn oedd wedi digwydd - ond maen nhw nawr yn gwybod ein bod ni'n gweithio i sicrhau nad yw rhywbeth fel hyn yn digwydd eto."