Cerdded i wersyll gwaelod Everest 'i gofio am Dad'

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr/Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Bydd taith Ioan yn cymryd tua pythefnos i'w chwblhau ac yn golygu teithio uchder o 5,500m uwchben lefel y m么r

Mae dyn ifanc o Ynys M么n yn paratoi i gerdded i wersyll gwaelod Everest (base camp) i godi arian er cof am ei dad.

Bydd Ioan Rhun Jones, 17 o Lanfairpwll, yn cychwyn ar ei daith ar 31 Mawrth ac yn codi arian ar gyfer elusen iechyd meddwl Shout.

Bydd y daith yn cymryd tua pythefnos i'w chwblhau ac yn golygu teithio uchder o 5,500m uwchben lefel y m么r.

Wrth siarad ar raglen Bore Sul 成人快手 Radio Cymru, dywedodd Ioan fod gwneud y daith yn "rhywbeth dwi wedi bod isho gwneud ers amser maith felly pam lai gwneud o i elusen".

Mae elusen Shout yn cynnig cymorth iechyd meddwl 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Dywedodd fod yr elusen yn "gwneud gwaith gwych i achub nifer o fywydau".

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Disgrifiad o'r llun, Mae Ioan wedi bod yn ymarfer ar gyfer yr her ym mynyddoedd Eryri

Roedd Ioan yn 14 oed pan gollodd ei dad, a dywedodd bod ei farwolaeth wedi "cael effaith mawr arna' fi - mae'r tair blynedd diwethaf 'ma wedi bod yn anodd iawn".

Ychwanegodd bod "siarad ac ymarfer corff yn gyson" wedi ei helpu.

"Dwi'n meddwl mai'r brif neges ydy i siarad am deimladau ac i gael allan yn yr awyr agored a gwneud ymarfer corff achos dw i'n meddwl bod o mor bwysig cael allan a chael yn actif."

Yn ogystal 芒 chodi arian er cof am ei dad dywedodd ei fod yn gwneud y daith er mwyn "codi ymwybyddiaeth o beth sydd wedi digwydd ac i wneud yn si诺r bod y pethau sy'n digwydd ddim yn cario 'mlaen".

Troi'r sefyllfa yn rhywbeth 'positif'

Wrth siarad 芒 Cymru Fyw dywedodd Kelly Jones, mam Ioan sy'n fetron yn ward plant Ysbyty Gwynedd ei bod yn "ofnadwy o browd" ohono.

"Ma' beth mae'r ddau [fab] wedi bod drwy wedi bod yn ofnadwy ac mae Ioan wedi gallu ei droi yn rhywbeth positif."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Disgrifiad o'r llun, Mae Ioan eisoes wedi cyrraedd ei nod ariannol ac wedi codi dros 拢3,000

Dywedodd bod yr hyn mae ei mab yn gwneud yn "bwysig fel bod pobl ifanc yn gwybod ei fod yn iawn i siarad a bod 'na ddim cywilydd".

"Syniad fo i gyd oedd hwn, dim byd i wneud efo fi," meddai.

Ychwanegodd bod yr elusen Shout yn bwysig gan eu bod nhw "yna 24/7, a does dim llawer o elusennau sydd fel yna, ac mae o'n hawdd i bobl ifanc gysylltu efo nhw".

Mae Ioan eisoes wedi cyrraedd ei nod ariannol ac wedi codi dros 拢3,000.