成人快手

Rhieni newydd yn mynd i ganolfan deuluol i 'gadw'n dwym'

  • Cyhoeddwyd
Canolfan deuluol Llandysul
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed cadeirydd Canolfan Deuluol Llandysul fod rhieni newydd yn dod atyn nhw i "gadw'n dwym"

Mae nifer y teuluoedd sy'n ymwneud 芒 chanolfan deuluol yng Ngheredigion wedi treblu, yn 么l y cadeirydd.

Dywedodd Cat Dafydd bod nifer y teuluoedd sy'n manteisio ar eu gofod cynnes a sesiynau am ddim yn Llandysul wedi cynyddu'n aruthrol ers mis Ebrill.

Mae'r elusen yn rhagweld y bydd y gaeaf hwn yn anoddach na'r llynedd gyda rhieni eisoes yn "brwydro" i ddelio 芒 chostau byw.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dweud eu bod yn "darparu'r cymorth ariannol mwyaf erioed sy'n werth 拢3,300 fesul cartref ar gyfartaledd".

'Hanfodion bellach yn bethau moethus'

Mae Bethan Davies, sy'n 29 oed, yn mynychu sesiynau 'Bwps a babis' yng Nghanolfan Deuluol Llandysul.

Dywedodd fod "pethau hanfodol ar y foment wedi troi mewn i bethau moethus".

"Mae trydan, mae gwresogi'r t欧, maen nhw'n bethau caled i bawb eu gwneud," meddai.

"Mae pawb yn pryderu am y cost of living crisis, ond i fod yn fam newydd a trial magu plant ynddo fe 'fyd, ma' mwy o straen ychwanegol wedyn ar ben e."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Bethan Davies ei bod eisioes wedi gorfod meddwl am ddychwelyd i'r gwaith er mai ond tri mis oed yw ei mab, Llew

Dywedodd: "Ar y foment, fi ar statutory maternity pay, a ma' hwnna yn llai na hanner beth yw'r national living wage.

"Ma' chunk mawr o cyflog fi wedi mynd. Mae e'n fforso fi nawr i fynd 'n么l i gwaith yn gynt na beth 'sen i'n lico."

Mae'r Ganolfan Deuluol yn cynnig amryw o sesiynau am ddim i rieni a phlant o bob oed.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Cat Dafydd, Cadeirydd Canolfan Deuluol Llandysul bod y nfieroedd wedi treblu ers mis Ebrill

Yn 么l Cadeirydd Canolfan Deuluol Llandysul, Cat Dafydd, mae'r lle yn cynnig cymorth i deuluoedd mewn cyfnod heriol.

Dywedodd: "Fel arfer yn y blynyddoedd diwethaf, ry'n ni wedi cael tua 40 neu 50 o deuluoedd bob tri mis.

"O fis Ebrill, yn y tri mis 'na, ro'dd y niferoedd wedi treblu.

"Mae rhai yn dod mewn just i fod yn dwym. Dwi wedi clywed hynny gan un o'r rhieni. Does dim digon o arian gyda nhw i gael y gwres gartre', felly maen nhw'n dod mas.

"Ma' rhieni yn cael cymorth yma, siarad gyda'i gilydd a ni'n gallu sign post'o nhw i bethau arall."

Ond nid mamau ifanc yw'r unig rai sy'n teimlo'r wasgfa ariannol.

Yn Aberteifi, mae Maes Mwldan yn cynnig llety i'r henoed gael byw'n annibynnol.

Maen nhw hefyd yn cynnig gofod cynnes i'r cyhoedd, gyda lolfa, llyfrgell a bwyd am bris rhad.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Andrea McMillan sy'n gweithio yn y Ganolfan, mae nifer eu hymwelwyr ar gynnydd, a'r rhan fwyaf o rheiny'n henoed.

Dywedodd Andrea McMillan: "Ni'n clywed ambell waith so nhw wedi cael rhywbeth i fwyta amser cinio neu yn y nos.

"Dy'n nhw ddim wedi rhoi'r gwres 'mlaen adre' achos dy'n nhw methu fforddio.

"Blwyddyn ddiwetha', o'n ni'n rhan o'r 'warm hub', lle o'dd pobl mas tu fas yn gallu dod mewn atom ni os s'dim gwres gyda nhw gartre.

"Ni'n gobeithio nawr falle mis 'ma byddwn ni'n dechrau rhywbeth, si诺r o fod nes fis Mawrth, Ebrill blwyddyn nesa'."

Cymorth Llywodraeth Cymru

Ers 31 Hydref, mae tua traean o aelwydydd Cymru wedi dechrau derbyn 拢300 gan Lywodraeth y DU i'w helpu gyda'u biliau.

Ond nid yw'r swm yma yn ddigon i rai.

Dywedodd Gill Griffiths, sy'n 81 ac yn rhan o Glwb Cardiau ym Maes Mwldan: "Ni wedi ca'l 拢300 o'r Llywodraeth ond dyw hwnnw ddim yn mynd i 'neud lot fawr iawn o wahaniaeth.

"Ma' pensiwn arall gyda ni," meddai, "ond os bydden i ond ar bensiwn henoed, bydde'n rhaid i ni werthu'r t欧, dwi'n meddwl."

Dywedodd aelod arall o'r Clwb Cardiau, Garym Roberts, 68: "Ma' eisiau newid lot ar bethau.

"Yn anffodus, dyw'r Llywodraeth hon ddim yn poeni dim am y bobl sydd ar y gwaelod. Ma' nhw'n poeni fwy am bobl sydd 芒 digon o arian yn y lle cynta'."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU eu bod yn "darparu'r cymorth ariannol mwyaf erioed sy'n werth 拢3,300 fesul cartref ar gyfartaledd, gan gynnwys cynyddu budd-daliadau o fwy na 10% eleni".

Ychwanegodd eu bod yn "gwneud y cynnydd mwyaf mewn hanes ym Mhensiwn y Wladwriaeth" ac wedi "ymrwymo i gynyddu'r Cyflog Byw Cenedlaethol eto a buddsoddi 拢3.5 biliwn i helpu miloedd i mewn i swyddi, tyfu'r economi a lleihau'r sefyllfa chwyddiant".