成人快手

Undebau yn beirniadu cynlluniau cynhyrchu newydd Tata

  • Cyhoeddwyd
Port TalbotFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae safle'r cwmni ym Mhort Talbot yn cyflogi 4,000 o weithwyr

Mae undebau gweithwyr dur yn honni bod cwmni Tata Steel yn bwriadu dod 芒'r gwaith cynhyrchu trwm ym Mhort Talbot i ben.

Y safle yn ne Cymru yw'r gwaith dur mwyaf yn y DU ac mae'n cyflogi 4,000 o weithwyr.

Yn wreiddiol roedd disgwyl i Tata wneud cyhoeddiad ddydd Mercher wrth i'r bwrdd gyfarfod yn India ond mae'n ymddangos bellach na fydd cyhoeddiad yn fuan.

Dywedodd llefarydd ar ran Tata yn ddiweddarach eu bod "ddim mewn sefyllfa i allu gwneud cyhoeddiad ffurfiol" ar hyn o bryd.

'Diwrnod od iawn'

Mae undebau Community, GMB ac Unite wedi beirniadu'r cynlluniau yn chwyrn wedi iddyn nhw gael gwybodaeth gan y cwmni.

Dywedodd Charlotte Brumpton-Childs, swyddog Undeb y GMB: "Rhaid i Tata gydweithio gyda ni i sicrhau gwell dyfodol i'r gweithwyr ac amddiffyn cynhyrchu dur ym Mhrydain.

"Os yw'r cynlluniau yma yn mynd yn eu blaen mae Tata a Llywodraeth y DU wedi dechrau ar y broses o sicrhau diwedd cynhyrchu dur yn y DU."

Dywedodd Alun Davies o undeb Community fod dydd Mercher wedi bod yn ddiwrnod "od iawn, iawn".

"Roedden ni'n credu bod cyhoeddiad ar y ffordd ond ar y funud olaf fe dynnon nhw'r cyhoeddiad," meddai.

"Ry'n ni'n croesawu'r newyddion hynny, ond nid yw'n datrys yr ansicrwydd i'r gweithlu, sydd nawr ar bigau'r drain."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gwaith dur Tata ym Mhort Talbot yn rhan annatod o economi'r ardal

Fis Medi fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai'r safle yn derbyn 拢500m er mwyn ei ddiogelu a chynhyrchu dur yn wyrddach.

Ond fe fydd yr arian hwnnw yn cael ei wario ar ffwrneisi trydanol yn lle'r hen ffwrneisi chwyth traddodiadol - cam a fydd yn arwain at ostwng nifer y gweithwyr.

Mae'r cwmni, sydd wedi addo buddsoddi 拢700m yn y safle, wedi gofyn i Lywodraeth y DU am fwy o arian.

Mae'r gwaith dur ym Mhort Talbot yn hynod o niweidiol i'r amgylchedd - mae'n un o'r mwyaf llygredig yn y DU wrth i ddwy ffwrn chwyth fod yn weithredol 24 awr.

Mae disgwyl i'r ffwrneisi newydd 拢1.25bn fod yn weithredol dair blynedd wedi iddyn nhw gael s锚l bendith.

'Mewnforio dur ddim yn wyrdd'

"Mae'r cyhoeddiad yn warthus ac yn ergyd i'r gweithlu ffyddlon ac i gymuned Port, Talbot," medd Roy Rickhuss, Ysgrifennydd Undeb y GMB.

"Ry'n yn parhau i gredu bod y ffwrneisi chwyth traddodiadol yn hanfodol wrth drawsnewid i broses wyrddach o gynhyrchu.

"Dyw cau ein diwydiant er mwyn mewnforio dur brwnt o dramor a throsglwyddo ein swyddi ac archebion ddim yn gynllun gwyrdd."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Port Talbot yw lleoliad gweithfeydd dur mwyaf Tata ym Mhrydain

Dywed Llywodraeth y DU "y gallai'r cytundeb ddiogelu" dros 5,000 o swyddi ar draws y DU. Mae'r cwmni yn cyflogi 8,000.

"Os yw Tata ddim am wynebu anghydfod diwydiannol mawr, mae'n rhaid iddyn nhw gydweithio gyda'r undebau," meddai Tony Brady, o undeb Unite.

"Mae cynllun Tata a Llywodraeth y DU yn gytundeb gwael i'r diwydiant dur - mae cynllun gwell ar gyfer trawsnewid ar gael."

'Dim mewn sefyllfa i wneud cyhoeddiad'

Dywedodd llefarydd ar ran Tata: "Er yr holl straeon yn y wasg, dydyn ni ddim mewn sefyllfa i allu gwneud cyhoeddiad ffurfiol yngl欧n ag unrhyw gynlluniau i ddatgarboneiddio ein safleoedd yn y Deyrnas Unedig.

"Ry'n yn gobeithio dechrau proses ymgynghori swyddogol gyda chynrychiolwyr ein gweithlu yn fuan, a'r gobaith yw rhannu rhagor o fanylion yngl欧n ag unrhyw gynlluniau o'r fath bryd hynny.

"Credwn y bydd ein buddsoddiad gwerth 拢1.25 biliwn i symud at broses mwy gwyrdd o greu dur, yn diogelu dyfodol tymor hir y busnes, yn cryfhau diogelwch dur y DU ac yn cyfrannu at ddatblygu ecosystem wyrdd yn y rhanbarth.

"Ry'n yn barod i gael trafodaethau ystyrlon gyda'r undebau am y cynlluniau ac fe fyddwn yn ystyried yn ofalus unrhyw gynigion a ddaw i law."